A ydych chi’n gwybod faint o bobl sy’n ymweld â’ch gwefan a sut maent yn ymddwyn pan fyddant yn ei chyrraedd?

 

Bydd cadw trywydd ar fetrigau allweddol gwefannau yn helpu i chi wneud hynny.

 

Yn aml, mae gwefan yn llwyfan hollbwysig ar gyfer busnes. Fodd bynnag, os ydych chi’n diweddaru ac yn datblygu eich gwefan yn ôl eich greddf neu ar sail rhagdybiaethau, pa mor effeithiol gall y llwyfan hwnnw fod mewn gwirionedd?

 

Trwy gadw trywydd ar weithgarwch ymwelwyr a deall perfformiad eich gwefan, gallwch sicrhau gwybodaeth fanylach a fydd yn caniatáu i chi wneud gwelliannau gwybodus. Bydd gwneud newidiadau ar sail ffeithiau yn sicrhau bod eich gwefan yn parhau i ddenu ymwelwyr newydd, cynnal diddordeb eich cynulleidfa bresennol a gweld mwy o ymgysylltu yn gyffredinol.

 

Dyma 4 metrig pwysig i chi ddechrau cadw trywydd arnyn nhw nawr!

 

Traffig

 

Traffig yw un o’r metrigau hanfodol i’w fonitro oherwydd hyn sy’n pennu nifer cyfan yr ymwelwyr â’ch gwefan. Bydd monitro traffig yn rhoi syniad da i chi o ba mor dda y mae eich safle yn tyfu. Yn y cyfamser, bydd cyfanswm y traffig yn amlygu nifer yr ymwelwyr newydd (unigryw) a’r ymwelwyr sy’n dychwelyd, sy’n gallu helpu i chi wybod pa mor weladwy yw eich safle ac ansawdd eich cynnwys.

 

Ffynhonnell y traffig

 

Ynghyd ag ymwybyddiaeth o faint o bobl sy’n ymweld â’ch gwefan, mae’n bwysig gwybod o ble mae’r rhain yn dod. Yn gyffredinol, gall ffynonellau traffig gael eu rhannu’n bedwar categori:

 

  • Chwilio organig: Mae’r ymwelwyr hyn wedi dod i’ch gwefan trwy beiriannau chwilio. Dyma ffynhonnell wych, gan fod y traffig ‘am ddim’ yn hytrach na’ch bod chi wedi talu amdano ac mae’r defnyddiwr yn fwy tebygol o ymwneud â chi gan ei fod wedi chwilio’n benodol am allweddeiriau sy’n gysylltiedig â’ch busnes.
     
  • Uniongyrchol: Dyma draffig sy’n dod yn uniongyrchol i’ch gwefan. Efallai mai defnyddiwr yw hwn sy’n ychwanegu nod tudalen ar gyfer eich gwefan i’w defnyddio eto neu ei defnyddio’n fynych, neu rywun sy’n dod yn syth i’ch gwefan trwy deipio eich URL.
     
  • Cyfeirio: Mae’r traffig hwn wedi’i gyfeirio at eich gwefan o wefan arall, er enghraifft o flog gennych gan westai neu oherwydd bod y wefan wedi cynnwys eich URL mewn erthygl. Nid yn unig y mae hyn yn wych ar gyfer denu ymwelwyr newydd, ond mae hefyd yn helpu gyda’ch safle mewn peiriant chwilio, gan ei fod yn dysteb dda o’ch gwefan a’ch cynnwys.
     
  • Arall: Yn nodweddiadol, bydd hyn yn cyfeirio at draffig o gyfryngau cymdeithasol. Gall hyn helpu i amlygu i ba raddau y gellir rhannu’ch cynnwys a’r mathau o lwyfannau sy’n fwyaf addas ar gyfer eich busnes.

Cyfradd fownsio

 

Mae’r metrig hwn yn cyfeirio at y defnyddwyr sy’n clicio i’ch gwefan ac yn ymadael ar unwaith. Mae cyfradd fownsio isel yn golygu bod rheswm da gan ymwelwyr dros aros ar eich gwefan, megis cynnwys perthnasol a diddorol. Mae cyfraddau bownsio uchel yn golygu’ch bod chi’n cael trafferth cadw ymwelwyr. Gallai hyn ddigwydd oherwydd amseroedd llwytho araf, defnydd amherthnasol ar allweddeiriau neu ddolenni tor

 

Cyfradd drosi

 

Un o’r metrigau pwysicaf! Bydd eich cyfradd drosi yn ystyried pa mor dda y mae eich gwefan yn annog ymwelwyr i gyflawni gweithred benodol – boed hynny’n gwblhau gwerthiant, cofrestru ar gyfer cylchlythyr neu archebu lle mewn digwyddiad. Bydd y metrig hwn yn helpu i chi ddeall pa mor llwyddiannus y mae eich gwefan yn cyflawni ei nodau ac a oes angen gwneud unrhyw newidiadau.

 

Gall yr holl rifau ac ystadegau hyn fod yn ddigon i ddigalonni busnes sydd ond yn dechrau cadw trywydd ar y llu o fetrigau sydd ar gael. Fodd bynnag, nid yw’n gymaint o fwrn ag y gall ymddangos ar y cychwyn.
 

Trwy ddechrau monitro metrigau newydd, mae’n hawdd i chi integreiddio cadw trywydd yn eich gweithgareddau marchnata a chyfathrebu

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen