Er bod datblygu eich optimeiddio peiriannau chwilio yn gallu bod yn ffordd hawdd o gynyddu eich amlygrwydd ar-lein (beth am edrych ar ein hargymhellion yma!), mae’n gallu bod yr un mor hawdd i’w ddinistrio, gyda rhai camgymeriadau syml. Os ydych yn treulio amser, arian ac ymdrech yn gwella eich safle ar y peiriannau chwilio, mae’n bwysig eich bod yn osgoi’r camgymeriadau a all fod yn gostus dros ben i’ch busnes.

 

Dyma 9 camgymeriad y dylech eu hosgoi ar bob cyfrif wrth optimeiddio peiriannau chwilio:

 

Gorlwytho geiriau allweddol

 

Dyma’r ‘dechneg’ optimeiddio peiriannau chwilio lle rydych yn sbamio eich tudalen we â llawer o eiriau allweddol yn y tagiau meta neu gynnwys y dudalen we er mwyn ceisio llywio eich safle ar y peiriannau chwilio. Mewn gwirionedd, gall hyn gael effaith i’r gwrthwyneb, gan fod nifer o’r prif beiriannau chwilio wedi cyflwyno algorithmau sy’n gwybod pan fyddwch yn gorlwytho geiriau allweddol, ac maent yn dileu unrhyw anfantais annheg y bydd wedi ei gynnig.

 

Creu cynnwys gwael, dibwynt

 

Er y gall cynnwys byr fod â safle uchel, mae cynnwys hirach a mwy manwl yn dueddol o fod â safle mwy ffafriol. Os yw eich blog yn edrych braidd yn denau, peidiwch â rhoi cynnwys arno am y rheswm hwnnw yn unig. Mae’n fwy manteisiol gweithio ar gynnwys o ansawdd uchel a fydd wirioneddol yn dal sylw pobl a’ch helpu i adeiladu eich optimeiddio peiriannau chwilio yn iawn.

 

Dolenni toredig

 

Peidiwch ag anghofio am eich cynnwys ar hyn o bryd a sut gall fod yn niweidiol i’ch optimeiddio peiriannau chwilio yn awr. Os ydych chi wedi cynnwys dolenni i gynnwys allanol mewn erthygl neu flog, mae’n bwysig gwirio bod y rhain yn dal i weithio, yn ddilys ac yn mynd â chi at y cynnwys cywir. Nid yn unig y bydd dolenni toredig yn mynd ar nerfau eich ymwelwyr ond gallant effeithio ar eich safle ar y peiriannau chwilio.  

Postiau gwadd ar wefannau ag enw drwg

 

Mae postiau gwadd ar wefannau neu flogiau yn y diwydiant yn gallu bod yn fanteisiol i’ch busnes. Gallwch gyrraedd cynulleidfa ehangach, cyfeirio traffig at eich gwefan chi ac adeiladu eich enw da o fewn cymuned neu faes o’ch dewis. Fodd bynnag, mae’n hanfodol eich bod yn ymchwilio i enw da’r wefan rydych yn gobeithio cael eich cynnwys arni. Dylech sicrhau bod y gynulleidfa yn addas, bod y cynnwys o ansawdd uchel a’u bod pobl yn ymddiried ynddynt ar-lein. Os nad ydych yn sicr, gwell cadw draw.

 

Dwyn cynnwys

 

Os ydych yn brysur a heb adnoddau i greu cynnwys yn rheolaidd, efallai cewch eich temtio i gopïo cynnwys o wefan arall. Er bod hyn yn amlwg, mae’n bwysig cydnabod mai llên-ladrata yw hyn, a hefyd cewch eich cosbi gan y peiriannau chwilio. Y peth gorau i’w wneud yw creu’r cynnwys gorau y gallwch eich hun.

 

Dyblygu eich cynnwys eich hun

 

Yn debyg iawn i gopïo cynnwys gan eich cystadleuwyr, nid yw’n syniad da dyblygu eich cynnwys eich hun. Mae dwy ffordd y gallwch fod yn gwneud hyn heb i chi sylwi, hyd yn oed! Yn gyntaf,  os oes gennych wefan e-fasnach a chynnych a gwasanaethau sy’n debyg i’w gilydd, efallai eich bod yn ailadrodd geiriau a brawddegau. Gall hyn achosi problem i beiriannau chwilio wrth iddynt geisio amlygu'r fersiwn cywir o’r cynnwys. Yn ail, efallai bod teitlau eich tudalennau a’r tagiau meta yn debyg, neu yn cael eu hailadrodd ar draws y wefan. Mae’n bwysig, fodd bynnag, bod gan bob tudalen we deitl unigryw, a bod y tagiau yn adlewyrchu’r hyn sydd ar y dudalen honno yn unig.

 

Gwefannau a ffynonellau annibynadwy

 

Os ydych yn rhoi dolenni i gynnwys allanol ar eich gwefan neu flog, dylech groesgyfeirio dibynadwyedd y ffynhonnell. Bydd yn llawer mwy manteisiol i chi roi dolen i awdurdod yn eich maes, arbenigwyr sefydledig neu fusnesau sy’n cael eu parchu. Gall cynnwys ffynonellau annibynadwy ar eich gwefan ddifrodi enw da a hygrededd eich brand, yn ogystal â’ch ymdrechion optimeiddio peiriannau chwilio.

 

Anghofio cynnwys dolenni mewnol

 

Mae dolenni mewnol yn wych ar gyfer eich safle ar y peiriannau chwilio a phrofiad y defnyddwyr. Gallwch gynnwys y dolenni mewnol hyn ar eich tudalen we neu o fewn blogiau, a gall helpu i dywys eich defnyddwyr trwy’r wefan. Gall hyn gynyddu’r amser y mae defnyddwyr yn ei dreulio ar eich gwefan a’r ymweliadau â’r wefan. Fodd bynnag, mae’n holl bwysig eich bod yn cynnwys dolenni i gynnwys perthnasol a fydd o fudd i’r ymwelwyr.

 

Peidio â blaenoriaethu eich gweithgarwch optimeiddio peiriannau chwilio

 

Ynghyd â dilyn arferion optimeiddio peiriannau chwilio gwael, gall peidio â gwneud unrhyw weithgarwch o gwbl fod yr un mor niweidiol! Hyd yn oed os oes gennych wefan wych, ac rydych yn rhannu cynnwys ardderchog, bydd mabwysiadu strategaeth optimeiddio peiriannau chwilio yn fanteisiol bob amser, er mwyn creu mwy o ymwybyddiaeth o’r brand a chynyddu traffig y wefan. Mae’r blog Cyflymu Cymru i Fusnesau yn cynnig camau syml i’w cymryd heddiw er mwyn rhoi hwb i’ch safle ar dudalennau peiriannau chwilio.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen