Mae’n debygol eich bod wedi clywed sôn am Office 365, ond pam ddylech ystyried ei ddefnyddio yn eich busnes a beth yw manteision go iawn defnyddio’r gwasanaeth?

 

Ymhell o fod yn becyn Word, Excel a PowerPoint yn unig, mae Office 365 yn wasanaeth y gallwch danysgrifio iddo er mwyn defnyddio nifer o wasanaethau ac offer ar y cwmwl y gall eich galluogi i wella eich diogelwch, dadansoddi data, arbed arian, gweithio mewn amser go iawn a rhoi hwb i gynhyrchiant y tîm.

 

Dyma 7 rheswm dros danysgrifio i Office 365

 

Hawdd i’w gynnal

 

Gan fod Office 365 ar gael ar y cwmwl, gallwch anghofio’r ffwdan a’r costau sy’n gysylltiedig â gweinyddwyr lleol. Caiff yr holl ddiweddariadau a’r gwaith cynnal a chadw eu rheoli gan y gwasanaeth, sy’n eich galluogi i ganolbwyntio ar eich gwaith.

 

Gallwch gyflawni mwy

 

Gall eich tîm storio ffeiliau ar-lein a’u cyrchu’n hawdd o unrhyw le ar unrhyw adeg. Gallwch ddileu’r oedi wrth gyrchu dogfennau pwysig a sicrhau bod pawb yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy weithio ar yr un ddogfen mewn amser real.

 

Mae’n tyfu gyda’ch busnes

 

Ni waeth pa mor fawr neu fach yw’ch busnes, mae gwasanaeth y gallwch danysgrifio iddo, megis Office 365, yn caniatáu i chi dalu am yr hyn sydd ei angen arnoch. Os bydd eich busnes yn dechrau tyfu, gallwch ddewis talu am y gwasanaethau ychwanegol neu am anghenion storio ychwanegol. Yn yr un modd, os bydd eich busnes yn lleihau, gallwch dorri’n ôl ar y costau hefyd.

 

Amddiffynnwch eich data

 

Gallwch helpu i amddiffyn eich cwmni yn erbyn bygythiadau ar-lein oherwydd byddwch yn gweithio ar fersiynau diogel mwyaf cyfredol o’r offer a’r cynhyrchion rydych yn eu defnyddio.

 

Dewiswch eich dyfais

 

Os oes well gennych weithio o’ch gliniadur allan o’r swyddfa, neu ddiweddaru prosiect o’ch ffôn symudol, yna rydych yn rhydd i wneud hynny. Mae defnyddio’r cwmwl yn golygu nad ydych yn gaeth i ddesg y swyddfa a’r cyfrifiadur bwrdd gwaith.

 

Cadwch eich offer mewn un man

 

Mae’n debygol bod eich busnes yn dibynnu ar nifer o offer a llwyfannau, ond drwy ddefnyddio Office 365 gallwch gadw’r holl offer a fynnoch mewn un man, gan ei gwneud yn haws eu lleoli a’u cyrchu.

 

Gweithiwch ar-lein i wella cynhyrchiant

 

Gan fod modd i staff gyrchu ffeiliau a dogfennau ar-lein a gwneud newidiadau mewn amser real, gallwch ddatblygu dulliau mwy llyfn a chydweithredol o weithio. Nid oes angen i chi e-bostio dogfennau at eich gilydd i’w lawrlwytho nac anfon diweddariadau ynglŷn â’r newidiadau... maen nhw yno’n barod!

 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen