Fel busnes yng Nghymru, mae gennych chi gyfle gwych i ddefnyddio’r Iaith Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n bell o fod yn wastraff amser neu ofni y bydd y cynnwys yn cael ei golli yng nghanol y llif o negeseuon Trydar, gall fod yn ffordd wych o amlygu eich hun, cysylltu â chynulleidfa ehangach a datblygu eich cwmpas drwy Gymru.

 

Edrychodd Ymchwil gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg ar agweddau cwsmeriaid i ddefnydd yr iaith Gymraeg gan archfarchnadoedd.

 

Cytunodd 83% fod defnyddio’r iaith Gymraeg yn dangos parch tuag at ddiwylliant Cymraeg a dywedodd 68% eu bod yn hoffi gweld yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn archfarchnadoedd yng Nghymru.

 

Tynnodd yr ymchwil sylw at y ffaith bod 78% o bobl yn meddwl bod yr iaith Gymraeg ar becynnau cynnyrch o Gymru yn helpu i ddangos cefnogaeth i gynhyrchwyr lleol ac roedd 74% yn meddwl ei fod yn dangos cefnogaeth ar gyfer y gymuned leol.

 

Tra bod hyn yn tynnu sylw yn arbennig at gwsmeriaid mewn archfarchnadoedd, mae’n deg dweud bod siopa ar gyfer y tŷ a bwyd yn weithgaredd rheolaidd i’r rhan fwyaf o bobl – ac mae defnyddio’r iaith Gymraeg mewn bywyd beunyddiol yn profi yn gadarnhaol i frandiau. Gallai hyn gael ei drosi yn hawdd i weithgaredd rheolaidd arall – edrych drwy’r cyfryngau cymdeithasol!

 

Er bod rhannu cynnwys yn yr iaith Gymraeg angen ychydig o waith ychwanegol, mae’n werthfawr yn ogystal i gydnabod y buddion a’r cyfleoedd ychwanegol y gall ddod gydag ef hefyd.

 

Dywedodd Jones Crisps fod “Yr iaith Gymraeg yn ein darparu ni gydag offeryn ychwanegol wrth greu cynnwys ar blatfform cymdeithasol – pan mae pobl yn edrych ar eu gwefan, yn aml iawn, mae cynnwys yn yr iaith Gymraeg yn cael mwy o drawiadau na chynnwys yn yr iaith Saesneg”.

 

Mae’n sicr yn gweithio yn dda i’r busnes hefyd oherwydd bod Jones Crisps yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn arbed costau, datblygu eu cronfa cwsmeriaid a chystadlu mewn marchnad greision gystadleuol iawn!

 

Yn gryno, gall defnyddio’r iaith Gymraeg ar eich platfformau cyfryngau cymdeithasol eich hun ddod â nifer o fuddion ar gyfer mathau amrywiol o fusnesau a sefydliadau.

 

Dyma ychydig ohonyn nhw yn unig:

 

1. Sefyll allan mewn torf neu farchnad orlawn

2. Dangos balchder a pharch ar gyfer diwylliant a chymunedau Cymreig

3. Casglu mwy o barch gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid wrth wneud hynny

4. Cynyddu cefnogaeth gyhoeddus – yn arbennig felly ar gyfer elusennau

5. Targedu cynulleidfaoedd a marchnadoedd newydd i ddatblygu eu cwmpas

6. Cryfhau’r berthynas gyda chwsmeriaid a chymunedau drwy Gymru

7. Hybu teyrngarwch cwsmeriaid i’ch brand chi

8. Gwella enw da a gwerthoedd eich brand chi

9. Cryfhau ymgyrchoedd marchnata ar-lein

10. Darparu cyfleoedd er mwyn datblygu sgiliau iaith Gymraeg y gweithwyr

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd y camau i ddod yn ddwyieithog ar-lein, efallai fod gennych chi bryderon o hyd ynglŷn â sut i ddechrau a beth fyddai’r ffordd orau i drin eich cynnwys cymdeithasol Cymraeg newydd.

 

Mae Adroddiad Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn cynnig rhywfaint o ganllawiau ymarferol gwych ynglŷn â rhai o’r problemau a all godi wrth gynllunio i ddefnyddio Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Mae eu hadran gefnogaeth gyfleus yn cynnig cyngor ynglŷn â:

 

- diweddaru eich cynllun marchnata

- a ddylech chi gael un cyfrif neu ddau

- y ffordd hawsaf i greu negeseuon dwyieithog

- beth i’w wneud os nad oes gennych chi staff sy’n siarad Cymraeg

- beth i’w wneud os ydych chi’n rhan o fusnes mawr gyda llawer o ganghennau

 

A ydych chi’n chwilio am gyngor wedi’i deilwra ynglŷn â sut y gall eich busnes chi ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyrraedd mwy o gwsmeriaid a hybu gwerthiant? Cofrestrwch ar gyfer gweithdy cyfryngau cymdeithasol #Superfastbiz a gynhelir wrth eich ymyl chi. Archebwch eich lle yn awr.

 

Os ydych chi eisoes yn defnyddio’r iaith Gymraeg ar-lein, rhowch wybod inni drwy #Superfastbiz neu #CyflymuCymru!

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen