Felly mae eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i gyd yn barod ond nid ydych wedi cyhoeddi dim ers wythnosau am fod amser yn brin, a phan fydd gennych yr amser nid ydych yn gwybod beth i’w ddweud – a yw hyn yn canu cloch?

 

Nid chi yw’r unig un. Mae’n debyg mai prinder amser a methu meddwl am rywbeth i’w gyhoeddi yw’r ddau reswm mwyaf cyffredin pam fod perchnogion busnesau’n mynd i rigol yn achos cyfryngau cymdeithasol. Gall fod yn anodd ac mae angen llawer o amser i feddwl am gynnwys gwirioneddol ddiddorol yn rheolaidd i gadw diddordeb eich cynulleidfa yn yr hyn sydd gennych i’w ddweud. Dyna pam y gall calendr cynnwys cyfryngau cymdeithasol fod yn fuddiol i leddfu peth o straen cyfryngau cymdeithasol.

 

Pam fod angen un arnoch chi?


Bydd yn arbed amser i chi ac yn eich helpu i gynllunio ymlaen

Nid oes dim byd cymhleth i’w ddysgu, ac mae calendr cyfryngau cymdeithas yn gweithio yn yr un ffordd ag unrhyw galendr arall. Bydd yn eich helpu i benderfynu beth i’w gyhoeddi, pa bryd, ac ar ba blatfform. Mae calendr cyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda o’ch helpu i reoli eich cyfryngau cymdeithasol ac i ganolbwyntio ar y pethau pwysig. Glynwch wrth eich calendr ac ni fyddwch yn colli dyddiadau pwysig nac yn cyhoeddi deunydd hyrwyddo amser penodol yn hwyr.

 

Bydd yn eich helpu i gadw at yr hyn sy’n berthnasol ac i godi ymwybyddiaeth o’ch brand

Bydd eich dilynwyr yn colli diddordeb yn gyflym ac yn eich ‘dad-ddilyn’ os na fydd eich postiadau’n dod yn rheolaidd. Cofiwch, rydych am feithrin perthynas â’ch cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid trwy siarad ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd defnyddio calendr cyfryngau cymdeithasol yn rhoi eich brand gerbron eich cwsmeriaid, bydd yn eich cadw’n berthnasol, ac yn cadw’r sgwrs i lifo.

 

Bydd yn eich helpu i weld y darlun cyflawn ac i fod yn strategol

Os mai dim ond yn ysbeidiol y byddwch yn cyhoeddi, mae’n hawdd colli golwg ar yr hyn rydych yn ei wneud a pham. Mae calendr cyfryngau cymdeithasol yn eich galluogi i weld y darlun cyflawn fel y gallwch greu strategaeth cyfryngau cymdeithasol sy’n cyfateb i’ch nodau busnes, gan sicrhau bod eich neges yn un gyson ar draws y brand.

 

Dechrau arni
 

Dod o hyd i dempled sy’n gweithio i chi

Nid oes yn rhaid i fformat calendr cynnwys fod yn gymhleth. Gallwch ddefnyddio taenlen syml, calendr Google, neu dempled am ddim y gallwch ei lawrlwytho fel yr un yma gan HubSpot. Beth bynnag y byddwch yn ei ddewis, gwnewch yn siŵr ei fod yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn gweithio i chi.

 

Deall yr hyn mae eich cynulleidfa’n ei hoffi

Edrychwch ar ddadansoddeg eich cyfryngau cymdeithasol i weld pa bostiadau oedd fwyaf poblogaidd ymhlith eich cynulleidfa darged trwy gynhyrchu fwyaf o ymgysylltiad a chliciau. Mae gan bob un o’r prif blatfformau cyfryngau cymdeithasol eu pecynnau dadansoddeg eu hunain – gan gynnwys Facebook Insights, Twitter Analytics, ac Instagram Insights – a fydd yn eich galluogi i wneud hyn. Pan fydd gennych chi syniad o ba fathau o bostiadau sy’n apelio fwyaf gallwch eu hefelychu yn eich calendr cynnwys newydd.

 

Llenwi eich calendr â digwyddiadau pwysig

Dylech gynnwys gwyliau, gweithgarwch tymhorol, lansio cynnyrch newydd, digwyddiadau, hyrwyddo, ymgyrchoedd, ac unrhyw beth arall sy’n gysylltiedig â’ch busnes sy’n bwysig ac yr hoffech eu rhannu â’ch cwsmeriaid. Mae hyn yn eich galluogi i fod un cam ar y blaen ac i sicrhau nad yw eich cwsmeriaid yn colli dim.

 

Manteisiwch ar gynnwys sydd wedi’i guradu

Gall fod yn anodd cynhyrchu eich cynnwys eich hun drwy’r amser. Mae pecynnau curadu cynnwys yn gallu helpu yn hyn o beth. Mae Pocket yn ap defnyddiol sy’n eich galluogi i gadw fideos, erthyglau a chynnwys arall yn uniongyrchol o borwr neu safleoedd cyfryngau cymdeithasol fel Twitter i’w ddefnyddio’n ddiweddarach. Mae Feedly yn blatfform curadu cynnwys y gallwch ei ddefnyddio i danysgrifio i newyddion, blogiau, fideos, a ffrydiau sy’n berthnasol i’ch busnes. A pheidiwch ag anghofio am Twitter - mae rhestrau Twitter yn ffordd dda o fonitro’r gystadleuaeth, i ddeall tueddiadau’r diwydiant, ac i ymgysylltu â chwsmeriaid.

 

Trefnu eich postiadau

Ar ôl i chi ddechrau defnyddio pecyn rheoli cyfryngau cymdeithasol byddwch yn dyfalu sut yr oeddech wedi ymdopi heb un yn y gorffennol! Mae pecynnau rheoli cyfryngau cymdeithasol yn eich galluogi i reoli pob un o’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn rhwydd, a hynny mewn un lle, i olrhain geiriau allweddol ac i drefnu eich postiadau ymlaen llaw – gan arbed amser gwerthfawr i chi a’ch helpu i integreiddio eich cyfryngau cymdeithasol â’ch strategaeth farchnata a chadw’r pwyslais ar y brand. Cewch weld pa bryd mae eich cwsmeriaid ar eu mwyaf ymatebol trwy edrych ar ddadansoddeg eich cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan a threfnu eich postiadau ar gyfer yr adegau hynny. Hootsuite yw un o’r platfformau mwyaf adnabyddus, sy’n cynnig cynlluniau y telir amdanynt ac mae’r fersiwn sylfaenol am ddim. Mae’r fersiwn am ddim yn caniatáu i chi gysylltu tri chyfrif cyfryngau cymdeithasol, cyhoeddi 30 postiad wedi’u trefnu, a mynediad at ddadansoddeg.

Felly, gan fod yr holl gyfarpar gennych chi’n awr, mae’n amser cychwyn arni a mynd ati i greu eich calendr cynnwys cyfryngau cymdeithasol eich hun!

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen