Ar gyfer perchnogion busnesau bach, nid oes gwell cyfle wedi bod i gystadlu â busnesau mwy.

 

Pam? Oherwydd bod technoleg ar-lein wedi gwneud pethau’n fwy cyfartal. Mae technoleg ddigidol yn rhoi mynediad i chi ar farchnadoedd enfawr, ffyrdd hawdd i arbed amser, rhyngweithio â chwsmeriaid, ac mae’n ffordd o leihau eich costau.

 

Mae busnesau yng Nghymru yn medi buddion mabwysiadu technoleg ar-lein. Mae Arolwg Aeddfedrwydd Digidol 2017 Prifysgol Caerdydd yn dangos bod 76% o fusnesau sy’n gwneud defnydd llawn o dechnoleg ddigidol wedi cynyddu eu helw.

 

Nid oes rhaid i ddefnyddio technoleg ddigidol fod yn gymhleth nac yn ddrud. Dyma 4 ffordd hawdd i chi ddechrau tyfu eich busnes ar-lein nawr.

 

Amlygu eich gwefan

 

Os nad oes gan eich busnes wefan eto, pam?

 

Amlygodd yr Arolwg Aeddfedrwydd Digidol fod gan 85% o fusnesau Cymru wefan. Gan mai dyma’r man galw cyntaf ar gyfer cwsmeriaid posibl, a gallech chi fod yn colli llawer o gwsmeriaid i’ch cystadleuwyr os nad ydych chi ar-lein.

 

Os nad oes gennych chi gyllid i dalu am ddatblygwr gwefannau, gallech ddefnyddio adeiladwr gwefannau, fel WordPress neu Wix. Mae’r un olaf yn adeiladwr gwefan gwneud eich hun rhad ac am ddim, a fydd yn creu gwefan yn syth i chi ar sail beth rydych chi ei eisiau, neu’n caniatáu i chi greu un gan ddefnyddio templedi y gallwch chi eu haddasu.

 

Y brif reol gydag unrhyw wefan busnes yw gwneud yn siŵr bod eich presenoldeb ar-lein yn weladwy. Mae angen i chi wneud taith y cwsmer mor syml a hawdd â phosibl. Pan fydd cwsmeriaid yn cyrraedd eich gwefan, gwnewch yn siwr y gallan nhw lywio o’i chwmpas yn hawdd, a darganfod beth maen nhw’n chwilio amdano. Gwnewch yn siwr bod cynnwys eich gwefan yn gywir, yn cynnwys gwybodaeth gryno, gyda chyfeiriadau clir a galwadau i weithredu.

 

Gofalwch am eich gwefan!

 

Bydd gwefan na chaiff ei diweddaru’n aml yn troi unrhyw ddarpar gwsmeriaid i ffwrdd, ac yn cael effaith negyddol ar eich safle ar beiriant chwilio. Mae peiriannau chwilio (fel cwsmeriaid!) yn hoffi cynnwys newydd, ffres, sy’n ddeniadol a diddorol.

 

Mae blogio yn ffordd wych i wella optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) ac amlygu eich hun fel arbenigwr yn eich maes. Ceisiwch bostio erthyglau’n rheolaidd sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer eich cynulleidfa darged, ond dylech osgoi negeseuon gwerthu amlwg. Efallai y bydd cwsmeriaid yn dechrau rhannu eich blogiau a chysylltu â nhw. Bydd hyn yn helpu i adeiladu eich presenoldeb ar-lein, eich enw da, a llafar gwlad.

 

Deall y cyfryngau cymdeithasol

 

Mae technoleg ar-lein yn cynnig ffordd hawdd i ryngweithio â chwsmeriaid – a’r cyfryngau cymdeithasol yw’r enghraifft orau o hyn. Mae’r oriau busnes 9am-5pm wedi hen ddiflannu. Nawr, mae cwsmeriaid yn disgwyl gallu cysylltu â busnesau 24/7, a chael ymateb! Mae cwsmeriaid erbyn hyn yn fwy tebygol o gysylltu â busnes ar Facebook neu bostio neges drydar na ffonio. Yn syml, os yw’ch cwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol, yna mae angen i chi fod hefyd.

 

Cyn i chi ddechrau, meddyliwch am eich marchnad darged.

 

Pa lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol y maen nhw’n eu defnyddio? Nid oes pwynt sefydlu proffil Google+ os yw’ch holl gwsmeriaid ar Twitter. Mae angen i chi wneud ychydig o waith ymchwil a darganfod pa lwyfan cyfryngau cymdeithasol fydd yn fwyaf addas i chi a’ch cwsmeriaid. Er enghraifft, ar gyfer B2C, efallai mai Twitter, Facebook, ac Instagram fyddai’n gweithio orau ac, yn yr un modd, LinkedIn ar gyfer B2B. Os ydych chi’n newydd i’r cyfryngau cymdeithasol, mae’n well defnyddio un neu ddwy sianel, a chanolbwyntio ar y rhain yn hytrach na cheisio jyglo nifer o lwyfannau.

 

Gallwch hefyd edrych ar beth mae eich cystadleuwyr yn ei wneud a dysgu oddi wrthynt. Beth maen nhw’n ei wneud yn gywir neu’n anghywir? Pa lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y maen nhw’n eu defnyddio, a faint o ymgysylltu y maen nhw’n ei wneud â’u dilynwyr? Edrychwch ar eu presenoldeb ar-lein a darllenwch eu hadolygiadau ar-lein.

 

Fel gyda’ch gwefan a’ch blog, mae postio cynnwys diddorol, gwerthfawr ac ymgysylltiol yn allweddol i lwyddiant eich strategaeth cyfryngau cymdeithasol.

 

Darganfyddwch hyblygrwydd wrth weithio o bell

 

Erbyn hyn, nid yw busnesau’n gyfyngedig i’r swyddfa.

 

Mae cymwysiadau gweithio o bell yn caniatáu i chi weithio unrhyw le, ar unrhyw adeg, heb wneud camgymeriad. Mae elfennau arbed costau a hyblygrwydd gweithio o bell yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer perchnogion busnesau bach - llai o arian yn cael ei wario ar rentu swyddfa, treulio llai o amser yn cymudo, gwaith mwy cynhyrchiol, a chydbwysedd gwaith-bywyd gwell.

 

Mwy na thebyg mai Office 365 yw un o’r llwyfannau gweithio o bell (cwlwm) ar-lein lwyaf adnabyddus. Mae ganddo gynlluniau prisiau gwahanol ar gyfer busnesau, yn amrywio o becyn hanfodion, sy’n darparu e-bost busnes, rhannu ffeiliau, storfa ar-lein, a Skype, i’r pecyn premiwm, sy’n cynnwys yr uchod, yn ogystal ag apiau Microsoft Office, fel Word ac Excel.

 

Os hoffech gyfuno gweithio o bell a gweithio mewn swyddfa, mae apiau ar gael, fel GoToMyPC. Ar ôl i chi greu eich cyfrif gan ddefnyddio eich cyfrifiadur yn y swyddfa, bydd GoToMyPC yn caniatáu i chi fewngofnodi o bell, gan ddefnyddio cyfrifiaduron eraill a chyrchu eich bwrdd gwaith wrth fynd.

 

Ewch i dudalen dysgu ar-lein Cyflymu Cymru i Fusnesau lle cewch hyd i gyrsiau ar-lein rhad ac am ddim sydd ar gael i’ch helpu chi ddarganfod mwy am weithio o bell.

 

Meddalwedd anfonebu ar-lein

 

Y cyflymaf y danfonwch anfoneb, y cyflymaf y cewch eich talu. Onid ydyw’n gwneud synnwyr? Felly, pam fyddech chi’n dibynnu ar y post araf, pan allwch chi anfon anfoneb mewn munudau?

 

Yn ffodus, mae digon o offer a all gwneud rheoli cyllid yn haws i chi trwy glicio botwm. Mae anfonebu ar-lein yn cynnig llu o fuddion i fusnesau – mae’n gyflym, yn gost effeithiol, yn darparu mynediad 24/7, mae’n gyfeillgar i’r amgylchedd, ac yn eich rhoi chi mewn rheolaeth.

 

Mae Zoho yn caniatáu i chi ychwanegu brand eich cwmni at dempledi anfonebau parod, awtomeiddio negeseuon atgoffa am daliadau ac anfonebau, derbyn taliadau ar-lein, a lanlwytho derbynebau trwy gamera eich ffôn, er mwyn i chi gadw trefn ar eich treuliau. Mae hefyd yn caniatáu i chi gynhyrchu amcangyfrifon gwaith a chofnodi faint o amser rydych chi’n ei dreulio ar oruchwylion penodol. Ac os ydych chi’n parhau i ddefnyddio post araf, gallwch ddefnyddio Zoho i brynu credydau er mwyn i chi allu anfon eich anfonebau drwy’r post. Mae’r prisiau’n amrywio o £0 i £18 y mis. Mae digon o offer anfonebu ar-lein eraill ar gael, fel QuickBooks, felly chwiliwch beth sydd ar gael a dewis yr un sydd orau i chi.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen