Fel perchennog busnes bach neu weithiwr llawrydd, gall fod yn anodd gosod paramedrau eich amser gweithio, a’ch amser personol, rhydd eich hun.

 

Oni bai eich bod chi’n gosod oriau gwaith neu amserlenni penodol, efallai y byddwch yn lladd eich hun â gwaith yn fuan. Ac nid yw hynny’n dda i chi na’ch busnes!

 

Darllenwch 4 awgrym i’ch helpu chi reoli eich cydbwysedd gwaith-bywyd yn effeithiol er mwyn i chi allu bod yn gynhyrchiol, ond sicrhau eich bod chi’n cael amser i ymlacio.

 

Pryd a ble ydych chi’n fwyaf cynhyrchiol?

 

Mae gweithio ar-lein ac ar gwmwl yn golygu nad ydych chi’n gyfyngedig i un lleoliad penodol na diwrnod gwaith 9am – 5pm safonol. Gallwch fwynhau hyblygrwydd bod yn bennaeth arnoch chi eich hun a darganfod ble a phryd rydych chi’n fwyaf cynhyrchiol.

 

Peidiwch â theimlo bod rhaid i chi weithio mewn swyddfa os ydych chi’n teimlo’n fwy creadigol pan rydych chi’n gweithio o’ch hoff gaffi. Yn debyg, peidiwch â theimlo eich bod chi’n cael eich cyfyngu i oriau llym os ydych chi’n gweithio’n well peth cyntaf yn y bore neu’n hwyr yn y nos. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n caniatáu amser i ymlacio!

 

Defnyddiwch lwyfan i reoli eich baich gwaith a’ch amserlen

 

Mae offer rheoli prosiectau yn ffordd wych i chi restru eich holl brosiectau, blaenoriaethu tasgau a storio nodiadau a ffeiliau pwysig, fel na fyddwch yn anghofio unrhyw beth nac yn colli unrhyw derfynau amser.

 

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cyflawni eich gwaith ac yn anghofio pethau, rydych chi’n debygol o ddioddef straen a byddwch chi ddim yn gallu anghofio am waith. Ewch i’r arfer o ddiweddaru eich offeryn cynllunio prosiect yn rheolaidd – dylech ei drin fel eich rheolwr personol eich hun!

 

Gadewch i feddalwedd gyflawni tasg

 

Os ydych chi’n ceisio rheoli gormod o elfennau o’ch busnes ar yr un pryd (fel cyllid, adnoddau dynol, marchnata, gwasanaeth cwsmeriaid, gweithwyr a’ch baich gwaith eich hun), gallwch fod yn rhoi gormod o bwysau ar eich hun ac, o ganlyniad, ni fyddwch yn gweithio i’ch llawn botensial.

 

A allai meddalwedd syml neu offer ar-lein eich helpu chi i reoli rhedeg eich busnes yn well yn y cefndir?

 

Mae digon o offer fforddiadwy i’ch helpu chi awtomeiddio marchnata, trefnu cyllid a rheoli data cwsmeriaid.

 

Trwy gael gwared ar un peth, bydd gennych chi fwy o amser a lle i anadlu a chanolbwyntio. Bwrwch olwg ar ein Cyfeiriadur Meddalwedd rhad ac am ddim i gael cyngor ar yr offer a allai eich helpu chi.

 

Cymerwch amser i ffwrdd o’ch dyfeisiau

 

Er bod cludadwyedd a rhwyddineb defnyddio yn rhai o fuddion gwych gweithio ar ffôn neu lechen, gall fod llawer yn rhy hawdd gwirio eich negeseuon e-bost am 5 munud, a chanfod bod awr wedi mynd heibio. Ar ôl i chi orffen gweithio am y diwrnod, byddwch yn llym gyda chi eich hun. Rhowch y ddyfais i ffwrdd, rhowch egwyl i chi eich hun o’r sgrin, a dewch yn ôl yfory wedi ymlacio ac yn barod i weithio.

 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen