Beth yw’r Cwmwl a sut mae’n gweithio?

 

Gan ein bod ni wedi arfer llwytho meddalwedd i lawr a storio data ar ein cyfrifiaduron a’n rhwydweithiau ein hunain, gall y syniad o ddefnyddio’r Cwmwl fod yn un brawychus. Ond nid yw mor amwys â’i enw.

 

Yn ei hanfod, rydych chi’n llogi lle ar weinydd mewn warysau anferth ar gyfer storio eich data ac yn cael mynediad at feddalwedd drwy’r rhyngrwyd gan gwmnïau sydd hefyd yn llogi lle. Meddyliwch amdano fel y gwahaniaeth rhwng parcio eich car o flaen eich tŷ lle gallwch ei weld, a’i barcio mewn maes parcio aml-lawr diogel lle na allwch ei weld ond rydych chi’n gwybod ei fod yno, ac y gallwch ei gael yn ôl cyn belled â’ch bod yn talu’r costau.

 

Sut ydw i’n defnyddio’r Cwmwl?

 

Mae cyfrifiadura Cwmwl yn golygu cael mynediad at adnoddau fel meddalwedd gwaith swyddfa neu le storio ar y rhyngrwyd, yn hytrach na’u bod nhw i gyd ar eich cyfrifiadur neu’ch rhwydwaith eich hun. Yn hytrach na phrynu gyriant disg mwy, rydych chi’n llogi mwy o le disg, ac yn hytrach na thrafferthu i osod ac uwchraddio meddalwedd, rydych yn gadael i’r darparwr Cwmwl wneud y gwaith caled.

 

Mae’n hyblyg ac yn gost effeithiol ac mae Band Eang Cyflym Iawn wedi hwyluso hyn wrth i led-band uchel wneud defnyddio gweinyddion a gwasanaethau pell yn haws. Erbyn 2018 rhagwelir y bydd mwy na 85% o fusnesau yn y DU yn defnyddio o leiaf un math o wasanaethau Cwmwl (Cloud Industry Forum).

 

A ddylwn i ddefnyddio’r Cwmwl?

 

Os oes gennych chi rwydwaith o gyfrifiaduron yn eich swyddfa neu eich gweinyddwyr eich hunain, mae’n bur debyg eich bod wedi talu am bŵer cyfrifiadura sy’n segur y rhan fwyaf o’r amser, heb sôn am y gwaith diddiwedd o gynnal, uwchraddio a thrwsio eich offer.

 

Gall symud i gyfrifiadura Cwmwl leihau’r costau’n sylweddol. Rydych chi’n arbed arian oherwydd rydych chi’n talu dim ond am yr adnoddau rydych chi’n eu defnyddio, ar sail talu-wrth-defnyddio. Felly, gallwch chi leihau neu gynyddu eich anghenion yn ôl yr angen. Mae’n debyg i gael pŵer cyfrifiadura diderfyn trwy’r adeg – ond fyddwch chi ddim yn talu amdano oni bai eich bod yn ei ddefnyddio.

 

Meddalwedd fel Gwasanaeth a sut mae’n gysylltiedig â’r Cwmwl

 

Mae nifer o ddarparwyr Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS) yn defnyddio Cymylau cyhoeddus lle mae adnoddau meddalwedd a chaledwedd (fel lle storio data) yn cael eu rhannu. Mae hyn yn golygu y gallwch chi dalu tanysgrifiad misol er mwyn cael mynediad ar gais at feddalwedd cyflogres ar-lein, er enghraifft, a’i ddefnyddio i wneud eich gwaith prosesu ac adrodd ar y gyflogres.

 

Mae hyn yn gweithio’n dda i’r rhelyw o fusnesau bach ond efallai y bydd busnesau mwy neu rai sy’n storio data preifat gwerthfawr, fel banc, am dalu am Gwmwl preifat lle mae mynediad at adnoddau llinell yn fwy cyfyngedig.

 

Dyma rai enghreifftiau o sut gall y Cwmwl arbed arian i chi...

 

Rhedeg eich busnes

 

Erbyn hyn does dim angen prynu a gosod meddalwedd sy’n llyncu cof ar gyfrifiaduron swyddfa. Mae mwyafrif y darparwyr yn cynnig atebion Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS) ar y cwmwl sy’n gadael i gwmnïau dalu-wrth-ddefnyddio gan leihau’r costau uchel o redeg busnes. Gallwch hefyd gynyddu neu leihau nifer y trwyddedi sydd eu hangen arnoch, a dewis a dethol swyddogaethau i fodloni eich anghenion a’ch poced. Gan fod y pecynnau hyn yn y cwmwl, gall gweithwyr penodol gael mynediad atynt o bobman, sy’n golygu bod staff yn gallu cwblhau’r gwaith papur ar fyrder lle bynnag y maent tra bo’r fargen dal ar y bwrdd.

 

Gweithio o bell

 

Mae gweithio hyblyg yn gallu hybu gweithgarwch ynghyd â chynnig arbedion ariannol wrth i staff weithio o’u cartref. Byddwch yn arbed costau o ran gofod swyddfa, safleoedd parcio a gorbenion cysylltiedig. Ond, cofiwch efallai bydd angen i chi dalu rhywfaint tuag at filiau trydan a ffôn staff sy’n gweithio o gartref.

 

Costau cyfathrebu

 

Mae cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy yn galluogi busnesau i wneud galwadau ffôn rhad ynghyd â threfnu a mynychu cynadleddau fideo Protocol Llais Dros y Rhyngrwyd (VoIP). Mae hyn yn cynnig arbedion anferth mewn biliau ffôn blynyddol, yn lleihau costau teithio a llety, ac yn lleihau amser teithio lle nad yw’r staff yn gynhyrchiol. Gallwch ddefnyddio VoIP os oes gennych chi fynediad at ddyfais gyda chysylltiad dibynadwy â’r we. Mae rhai pobl yn gosod VoIP ar eu ffonau desg, eu cyfrifiaduron, eu gliniaduron a’u ffonau symudol er mwyn lleihau cost galwadau.

 

Rhwydwaith preifat rhithwir

 

Wrth i VoIP ddisodli eich llinell ffôn oherwydd ei fod yn rhatach, mae rhwydwaith preifat rhithwir (VPN) yn diddymu costau uchel llinellau ar log ac yn defnyddio’r rhyngrwyd i gysylltu sawl man gwaith. Gall y rhain fod yn swyddfeydd gwahanol, neu eich pencadlys a chartref eich gweithwyr o bell. Mae sawl ffordd o weithredu VPN, ac efallai byddwch chi’n dewis VoIP a/neu gyfrifiadura Cwmwl ynghyd â rhwydwaith ddata.

 

Lle storio data diogel

 

Gyda Band Eang Cyflym Iawn mae gennych fynediad dibynadwy at atebion storio yn y cwmwl sy’n lleihau’r angen i brynu a chynnal gweinyddion drud. O ganlyniad i’r rheolau GDPR newydd, bydd angen i chi ofyn i’ch ISP le maen nhw’n storio “data personol adnabyddadwy”, gan gynnwys eu copïau wrth gefn. Byddai’n ddoeth dewis un sy’n storio data o fewn yr UE. Mae nifer o gwmnïau yn dewis ateb cwmwl neu hybrid, oherwydd dim ond y lle storio sydd ei angen arnoch chi rydych chi’n ei brynu a gellir ei gynyddu yn hawdd ac yn gyflym.

 

Diogelwch wrth gefn

 

Cofiwch, po fwyaf rydyn ni’n dibynnu ar gyfathrebu digidol, y mwyaf rydyn ni mewn perygl o ymosodiad seiber.

 

Mae cymryd camau i atal hyn nid yn unig yn lleihau’r perygl o golli data ac arian, ond mae hefyd yn gwarchod eich cwsmeriaid a’ch enw da. Mae llawer o atebion copïau wrth-gefn awtomatig rhad ar gael i roi tawelwch meddwl i chi. Os byddwch chi’n dioddef ymosodiad seiber neu fethiant system, yna byddan nhw’n sicrhau bod eich data busnes allweddol yn ddiogel ac yn hawdd i’w adfer.

 

Rhithioli

 

Gallai cwmnïau mawr arbed arian drwy rithioli (virtualisation) gan fod gormod o bŵer o lawer yn y rhan fwyaf o weinyddion ar gyfer y gwaith maen nhw’n ei wneud. Mae angen digon o nerth cyfrifiadurol arnyn nhw ar gyfer y tasgau anoddaf, ond gallai’r tasgau anodd hynny gyfri am lai na 10% o’r amser. Mae rhithioli yn gadael i un gweinydd weithredu fel sawl gweinydd, felly nid oes angen cymaint ohonynt. Fel arfer, gall un uned wedi ei rhithioli ddisodli 10 i 20 uned unigol. Gallech chi hefyd arbed ar feddalwedd ac isadeiledd rhwydweithio, a hyd yn oed ar drydan.

 

Oes rhaid cael Band Eang Cyflym Iawn i gael mynediad i’r Cwmwl?

 

Nac oes. Ond mae mwyafrif y busnesau yn dewis Band Eang Cyflym Iawn er mwyn gallu sicrhau rhyngrwyd dibynadwy a chyflym. Yn y gorffennol, doedd hyn ddim yn berthnasol os nad oeddech chi’n fusnes ar-lein neu’n dibynnu ar y rhyngrwyd i wneud gwaith ymchwil. Ond mae’r rhyngrwyd bellach yn rhan hanfodol o’n busnesau hyd yn oed os nad ydym wastad yn ymwybodol ohono.

 

Mae llawer ohonom yn defnyddio’r rhyngrwyd i wneud y canlynol:

  • marchnata a gwerthu trwy gyfryngau cymdeithasol

  • gwneud galwadau ffôn a galwadau cynadledda rhatach

  • trosglwyddo ffeiliau electronig mawr neu rannu fideos

  • arbed ar le storio data, a chostau cyfalaf a chynnal a chadw, drwy feddalwedd talu-wrth-ddefnyddio

A ddylwn i ddefnyddio Band Eang Cyflym Iawn i gael mynediad i’r Cwmwl?

 

Yn gwmni bach neu fawr, gall pawb elwa o ddefnyddio Band Eang Cyflym Iawn i redeg eu busnes gyda thechnoleg ar-lein.

 

Tra bo costau, cefnogaeth ac ansawdd yn dal i fod yn ystyriaethau hanfodol, eich dewisiadau technolegol o ran darpariaeth Band Eang Cyflym Iawn fydd yn trawsnewid eich busnes. Felly, cymharwch brisiau, cytundebau lefel gwasanaeth a chryfder y signal. Ystyriwch hefyd y cyflymder llwytho i fyny a llwytho i lawr sydd ei angen arnoch ar hyn o bryd ac i’r dyfodol ar gyfer gweithgareddau eich busnes a meddalwedd ar y cwmwl.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen