Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Medi 2019, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.

Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.


Wel, mae’n bos. A ddylech chi aros hyd nes bod gennych chi lawer o gwsmeriaid cyn cael system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid, neu a ddylech chi gael system CRM i helpu cynyddu nifer eich cwsmeriaid yn gynt?

 

Mae’n debygol, fel busnes sy’n tyfu, y byddai’n well gennych chi aros i weld twf eich cronfa cwsmeriaid cyn ystyried buddsoddi. Ond pryd yw’r amser cywir i feddwl am gael CRM?

 

Os oes gennych chi system o daenlenni Excel a dogfennau eraill sy’n gweithio’n dda i chi, yna mae’n bendant yn gwneud synnwyr i gerdded cyn i chi redeg. Fodd bynnag, ateb dros dro yn unig yw hwn. Gallai fod yn benderfyniad call ystyried sut gallai system CRM arbed amser i chi, cefnogi eich proses gwerthu ac, yn y pen draw, helpu i ddenu mwy o arweiniadau.

 

Er bod taenlenni’n gost-effeithiol, gallant fod yn wastraff amser, trafferth, a gallai diffyg awtomeiddio a defnyddioldeb fod yn costio cleientiaid ac arian i chi.

 

A ddylech chi fod yn ystyried mabwysiadu system CRM nawr?

 

Yn y tirlun digidol presennol, mae angen i fusnesau roi eu cwsmeriaid wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud – o’r dechrau’n deg hyd yn oed. Mae’n ymwneud â meithrin perthnasoedd, cadw momentwm i fynd, a chanfod ffyrdd hawdd i’ch helpu chi gynyddu eich cynulleidfa.

 

Felly beth sy’n eich atal chi – ai cost?

 

Yr hyn sy’n wych am rôl hollbresennol ddigidol ym mhopeth rydym ni’n ei wneud yw bod offer ar-lein yn dod yn fwyfwy hygyrch i fusnesau o unrhyw faint, ac maen nhw’n syml i’w defnyddio, yn rhatach i’w rhedeg ac yn haws i’w hintegreiddio yn eich arferion presennol.

 

Mae llawer o becynnau meddalwedd bellach yn ehangadwy, talu wrth ddefnyddio, ac wedi cael eu dylunio i fod yn addas ar gyfer eich busnes.

 

Os ydych chi’n dal i ystyried y gwahaniaethau a’r buddion rhwng defnyddio taenlenni a system CRM, mae’n werth ystyried eu bod nhw’n offer gwahanol iawn. Mae taenlen yn wych i storio a dal gwybodaeth, ond nid o angenrheidrwydd yn llwyfan i feithrin, cynnal a thyfu perthnasoedd.

 

Mae amser yn hanfodol mewn byd sydd byth yn diffodd. Mae dod o hyd i’r cydbwysedd rhwng treulio amser a gwario arian, a’r cwsmeriaid sy’n deillio a’r elw a enillir, yn ymwneud â pha mor gyflym rydych chi’n bwriadu tyfu.

 

Wrth gwrs, nid oes un sy’n addas ar gyfer pawb o ran rheoli cwsmeriaid. Ond annhebygol y bydd un daenlen yn addas i’ch holl anghenion chwaith.

 

Ar ba bynnag gam rydych chi, mae’n werth ystyried nawr beth rydych chi eisiau allan o’r ffordd rydych chi’n rheoli gwybodaeth eich cwsmeriaid, ac ar ba bwynt fydd angen i chi sefydlu eich system. P’un ai a ydych chi wythnosau, misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd i ffwrdd o fuddsoddi, bydd meddwl am y peth nawr yn eich helpu chi i ail-werthuso llwyddiant eich systemau presennol. Cadwch lygad allan am bwyntiau a fydd yn amlygu’r angen i dyfu a fydd yn ei gwneud hi’n amlwg i chi pryd fydd yr amser cywir.

 

I gael cyngor ac awgrymiadau heb bwysau ar systemau CRM ar gyfer busnesau bach a chanolig, bwrwch olwg ar ein Cyfeiriadu Meddalwedd rhad ac am ddim.

 

Os hoffech gyngor mwy teilwredig ar ddefnyddio CRM ar gyfer eich busnes, cofrestrwch gyda gwasanaeth rhad ac am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau i drefnu cyfarfod un i un gyda Chynghorydd Busnes Digidol. Cofrestrwch nawr.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen