Gall fod yn hawdd i fusnes gael ei ddal i fyny yn denu cwsmeriaid newydd a chanolbwyntio amser, sylw a chyllideb ar feithrin ei gronfa gwsmeriaid.

Er bod hyn yn rhan hanfodol o dyfu eich busnes, mae’n hanfodol nad ydych yn anghofio am eich cwsmeriaid pwysicaf – y rhai sydd gennych eisoes!

 

Yn ôl ymchwil gan Forrester, gall caffael cwsmeriaid newydd gostio 5 gwaith yn fwy na bodloni a chadw cwsmeriaid presennol. Felly, gallai gweithgareddau cadw cwsmeriaid ddarparu ffordd cost isel ond effeithiol i gynyddu elw hirdymor a chronfa gwsmeriaid sylweddol.

 

Mae system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid yn ddewis gwych i’ch helpu i drefnu a gwneud y mwyaf o’ch cysylltiadau cwsmeriaid. Bydd system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid yn eich helpu i symleiddio eich prosesau rheoli cwsmeriaid trwy ddod â’ch holl ddata a gweithgarwch cwsmeriaid i un llwyfan. Bydd hyn yn eich galluogi i ennill dealltwriaeth well o gysylltiad a thaith pob cwsmer gyda’r busnes, eu hoffterau a’r ffordd orau i gyfathrebu â nhw.

Bydd y 5 pwynt allweddol hyn yn eich helpu i wneud y mwyaf o system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid i ymgysylltu â  chronfa gwsmeriaid ffyddlon, a’i chadw:

Canolbwyntio ar gyflwyno gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog

 

Os ydych yn treulio amser ac yn gwario arian ar ddenu cwsmeriaid newydd, pam fyddech yn dargyfeirio’ch sylw oddi ar yr unigolion hyn cyn gynted ag y byddwch wedi’u denu? Bydd y system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid yn rhoi mwy o ymwybyddiaeth i’r aelodau tîm o gysylltiad a gweithgarwch pob cwsmer gyda’r busnes hyd hynny. Bydd hyn yn galluogi gweithwyr i gyflwyno cyfathrebiadau teilwredig a sicrhau bod cwsmeriaid yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi. Gall y gwasanaeth personoledig hyn helpu i droi cwsmeriaid yn eiriolwyr brand. Dyma’r ‘jacpot cwsmeriaid’ gan y bydd cwsmeriaid ymroddedig nid yn unig yn parhau i ddefnyddio eich busnes, ond gallent weithredu fel ffynhonnell gymeradwyo werthfawr.  

Cyfathrebiadau aml

 

Un ffordd o gynnig gwasanaeth cwsmeriaid gwych yw trwy gyfathrebiadau aml (ond heb fod yn ymwthgar!). Lluniwch galendr o weithgarwch, fel cylchlythyrau wythnosol, cynigion misol neu ddiweddariadau chwarterol a fydd yn eich galluogi i gadw mewn cysylltiad â’ch cwsmeriaid. Trwy ddefnyddio’r gronfa ddata cwsmeriaid mewn system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid, gallwch anfon cynnwys perthnasol, diddorol at eich cwsmeriaid i sicrhau ei bod nhw’n meddwl am y busnes. Cofiwch annog eich cwsmeriaid i gysylltu â chi ar eich llwyfannau amrywiol, p’un ai trwy eich gwefan, e-bost, ffôn neu’r cyfryngau cymdeithasol. Gadewch i’ch cwsmeriaid wybod eich bod chi’n croesawu cyfathrebiadau dwyffordd ac yn gwerthfawrogi eu rhyngweithiad â’ch busnes.  

Gwerthu, wedyn gwerthu eto

 

Ar ôl i gwsmer gwblhau trafodyn, nid dyna ddiwedd ei daith gyda chi! Gweithredwch ar unwaith a dal eu sylw gyda neges e-bost syml, awtomataidd. Dylai’r neges e-bost amserol hon ddiolch iddyn nhw o leiaf am defnyddio’r busnes. Gallech gynnig gostyngiad i annog y cwsmer i ddefnyddio’r busnes eto. Mae arwyddion syml yn gwneud i bobl deimlo’n dda a bydd hyn yn eu hannog i ystyried eich brand mewn ffordd gadarnhaol.  

Datblygu system wobrwyo

 

Anogwch eich cwsmeriaid i brynu eto oddi wrth eich busnes trwy gynnig cerdyn wobrwyo neu raglen ffyddlondeb. Gallai system wobrwyo helpu cwsmeriaid i’ch blaenoriaethu dros gystadleuydd os gallent ennill rhywbeth yn gyfnewid am eu ffyddlondeb. Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau bod y cynigion a’r gwobrau hyn yn cael eu targedu at unigolion, gan y gallai cynigion generig awgrymu nad ydych yn adnabod eich cwsmeriaid mewn gwirionedd. Bydd system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid yn eich helpu i bennu a chyflwyno’r gwobrau perthnasol trwy ddefnyddio gwybodaeth ynghylch y mathau o gynhyrchion neu wasanaethau y maent wedi bod yn eu defnyddio a’u prynu. 

Gwrando ar eich cwsmeriaid

 

Gwrando ar eich cwsmeriaid fydd yn eich galluogi i ffurfio eich cyfathrebiadau a’ch strategaeth farchnata’n fwyaf effeithiol.  Bydd hyn yn sicrhau y gallwch ddenu cwsmeriaid newydd yn rhagweithiol, datblygu cysylltiadau parhaol gyda chwsmeriaid presennol ac, yn y pen draw, tyfu eich busnes. Bydd gwrando ac ymateb i adborth cwsmeriaid yn rhoi gwybod i’ch cwsmeriaid bod eu safbwyntiau, eu hanghenion a’u diddordebau o bwys i chi. Gallech annog cwsmeriaid i roi adolygiadau neu rannu eu profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Gall system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid gynorthwyo cyfathrebiadau â chwsmeriaid, yn enwedig mewn ymateb i adborth negyddol, gan y bydd yr aelodau tîm yn gallu adolygu unrhyw sgyrsiau blaenorol a hanes y cwsmer gyda’r busnes. Bydd yr ymwybyddiaeth hon yn helpu i deilwra cyfathrebiadau a’u gwneud yn effeithiol, yn hytrach na’n ailadroddus a rhwystredig.  

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen