Os ydych chi'n buddsoddi mewn marchnata talu-fesul-clic (PPC) i hybu eich gweithgareddau optimeiddio peiriannau chwilio neu i gael eich gweld ar y cyfryngau cymdeithasol, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cymryd y camau mwyaf effeithiol i yrru traffig perthnasol i'ch gwefan.

Mantais marchnata PPC yw y gellir ei reoli'n fanwl a'i ddiweddaru gyda thargedu manwl i sicrhau nid yn unig eich bod yn cyrraedd y gynulleidfa gywir, ond eich bod yn trosi'r gynulleidfa honno i weld enillion ar fuddsoddiad.

Dyma’n 5 prif awgrym i helpu’ch hysbysebion i sefyll allan o’r gystadleuaeth, denu sylw eich cynulleidfa ddymunol, a rhoi hwb i'ch cyfradd clicio drwodd (CTR)!

Beth yw’ch nod terfynol?

Mae’n annhebyg mai cyfradd clicio drwodd dda yw nod eich ymgyrch hysbysebu. Bydd diffinio eich nod trosi terfynol (megis tanysgrifiad e-bost neu bryniant) yn eich galluogi i osod eich hysbyseb yn well gyda galwadau clir i weithredu ac iaith glir. Bydd gosod cymhelliad clir ar gyfer eich hysbysebion yn eich helpu i gyfathrebu'n fwy effeithiol a chynyddu'r gyfradd clicio drwodd gan ymwelwyr a fydd yn fwy gwerthfawr i'ch busnes. Ceisiwch feddwl am nodau tymor byr sy’n arwain at eich nod hirdymor. Er enghraifft rhedeg ymgyrch i godi ymwybyddiaeth brand ac ennill ymddiriedaeth, yna gadael i'r ymwelwyr hynny wneud eu dewis eu hunain ar yr hyn sydd nesaf.

Sicrhewch fod eich hysbyseb yn cael ei harwain gan fuddion

Peidiwch â chanolbwyntio'n bennaf ar nodweddion neu swyddogaethau'r hyn rydych chi'n ei hyrwyddo, yn lle hynny canolbwyntiwch ar y buddion y bydd y defnyddiwr yn eu profi. Dylai eich hysbyseb ddangos yn glir y gwerth y bydd defnyddwyr yn ei gael o glicio drwodd a chwblhau'r daith. Cofiwch, nid yw'r cyfan yn ymwneud â gwerthu caled. Gallai’r buddion a gânt o’ch cynnwys fod yn unrhyw beth o fuddion ariannol i wella ffordd o fyw rhywun – gwnewch yn siŵr eich bod yn gweiddi am y gwerth ac nid y gwerthiant, ac fe ddaw’r gweddill.

Byddwch yn Frenin neu'n Frenhines geiriau allweddol

Ochr yn ochr â defnyddio iaith glir, apelgar, mae’n bwysig bod eich hysbysebion yn manteisio i’r eithaf ar eiriau allweddol perthnasol sy’n gysylltiedig â’ch busnes, sector, lleoliad, cwsmeriaid a chynhyrchion neu wasanaethau. Byddwch yn glyfar gyda'r geiriau allweddol a ddewiswch i sicrhau eich bod yn targedu'ch hysbysebion ac yn denu defnyddwyr sydd fwyaf tebygol o ymgysylltu â'ch busnes. Gallwch chi wella gwelededd a'ch CTR ond byddwch hefyd yn denu defnyddwyr sy'n fwy tebygol o drosi ar ôl iddynt glicio. P'un a ydych chi'n rhedeg eich hysbyseb ar Google neu'r cyfryngau cymdeithasol, mae yna lawer o opsiynau i eiriau allweddol dreiddio i lawr i ddemograffeg eich cynulleidfa arfaethedig. Er enghraifft, diddordebau, ymddygiad gyda busnesau tebyg ac ati...

Adolygu ac ailweithio hysbysebion sy’n tanberfformio

Mae'r cyfan yn ymwneud â phrofi a methu. Os nad yw'ch hysbysebion yn gweithio cystal ag yr oeddech wedi gobeithio i ddechrau, adolygwch nhw i ystyried beth yn benodol nad yw'n atseinio gyda'ch cynulleidfa darged. A yw'r copi yn ddeniadol? A yw'r alwad i weithredu yn glir? A oes unrhyw werth i'r defnyddiwr? Yn hytrach na newid popeth ar unwaith, gwnewch newidiadau systematig fel y gallwch werthuso'r hyn sy'n gweithio orau a theilwra ymgyrchoedd y dyfodol yn fwy effeithiol. Gallech hefyd geisio rhedeg profi A/B, sef pan fydd gennych dwy o'r un hysbyseb yn rhedeg, ond gyda mân wahaniaethau. Er enghraifft, copi gwahanol, delwedd neu fideo.

Mae’n bwysig meithrin ymddiriedaeth

Wrth i ddefnyddwyr ddod yn fwy craff am sut maen nhw'n ymddwyn ar-lein, mae'n hanfodol eich bod chi'n dechrau meithrin ymddiriedaeth gyda'ch ymwelwyr o'r eiliad cyntaf maen nhw'n ymgysylltu â'ch busnes. Ffordd hawdd o wneud hyn yw hyrwyddo eich graddfeydd i roi arwydd ar unwaith eich bod yn fusnes cyfreithlon a dibynadwy y mae defnyddwyr eraill yn hapus i'w argymell. Mae rhannu adolygiadau Google neu hyd yn oed adolygiadau cynnyrch o'ch gwefan yn rhoi mewnwelediad gwych i'ch cynhyrchion/gwasanaethau. Bydd y lefel hon o ddilysrwydd yn annog ymwelwyr a allai fod â phryderon diogelwch.

 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen