Mae nifer y busnesau bach sydd wedi gwella eu gallu digidol wedi codi o 45% yn 2014 i 79% yn 2021. Ers y pandemig, mae busnesau wedi gorfod addasu a gwthio eu presenoldeb ar-lein yn fwy nag erioed i dyfu eu busnesau.
Bydd hysbysebu eich busnes ar-lein yn eich galluogi i gynyddu eich presenoldeb ar-lein, sicrhau eich bod yn cael eich gweld gan gynulleidfa ehangach o lawer, yn ogystal â’ch helpu i drosi busnes posibl yn fusnes go iawn. Yn ôl Mynegai Digidol Busnes y DU, mae 17% o fusnesau bach wedi gweld cynnydd mewn gwerthiant oherwydd eu presenoldeb ar-lein; mae 27% o’r busnesau hyn yn gwerthu drwy sianeli ar-lein.
Felly, sut mae dechrau arni? Bydd Cyflymu Cymru i Fusnesau yn dangos pum ffordd y gallwch chi farchnata eich busnes bach yn effeithiol ar-lein.
Blogio
Nid yw ysgrifennu blog yn golygu bod yn rhaid i chi ddod yn arbenigwr ar rywbeth y tu allan i’ch maes busnes dros nos. Er enghraifft, ni fyddai neb yn disgwyl i chi ysgrifennu blog am geir os ydych chi’n siop ddillad ar-lein. Y pwynt yw, dim ond chi sy’n gyfarwydd â’ch maes busnes, a dylai fod yn rhywbeth y gallwch deimlo’n ddigon hyderus i greu blog amdano.
Beth yw blog? Yn syml, dyddiadur neu golofn ar-lein yw blog. Gallwch naill ai gynnal eich blog ar eich gwefan eich hun neu ddefnyddio llwyfan am ddim fel WordPress a'i gysylltu’n ôl i'ch gwefan. Y gamp yw ei ddiweddaru’n rheolaidd â chynnwys atyniadol a fydd yn apelio at eich cynulleidfa darged. Nid yn unig y byddwch yn dechrau creu enw i’ch hun fel arbenigwr yn y diwydiant, ond byddwch hefyd yn cynyddu’r siawns i bobl ddod o hyd i’ch gwefan wrth ddefnyddio peiriannau chwilio. Mae peiriannau chwilio wrth eu bodd â chynnwys newydd o ansawdd uchel, a bydd postio’n rheolaidd yn sicrhau bod eich safle’n edrych yn ffres ac ymddangos yn uwch yng nghanlyniadau’r peiriannau chwilio.
Y dyddiau hyn, mae mwy o fusnesau’n troi eu sylw at Flogio – fersiwn fideo o greu blog. Mae hon yn ffordd arbennig o ddifyr o gyfleu eich gwybodaeth i gynulleidfa, ac mae’n gyfle iddyn nhw weld yr wyneb tu ôl i’r busnes. Mae flogio wedi dod yn boblogaidd iawn ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel TikTok.
Marchnata drwy e-bost
A yw rhai yn dal i farchnata drwy e-bost? Ydyn, yn sicr. Marchnata drwy e-bost sydd â’r elw uchaf ar fuddsoddiad i fusnesau bach. Mae’n ddull effeithiol o gyfathrebu â’ch cwsmeriaid, gan fydd llawer o’ch cynulleidfa wedi rhyngweithio â’ch busnes mewn rhyw ffordd yn barod. O ran GDPR, dim ond gyda chaniatâd y defnyddiwr y gellir dal gafael ar ddata a’i ddefnyddio. Gall hyn eich helpu i gryfhau perthynas â’r rheini sydd â diddordeb, i ddatblygu eich brand, ac i gynhyrchu gwerthiant. Mae defnyddio e-bost hefyd yn eich galluogi i gyrraedd eich cwsmeriaid ar unrhyw ddyfais.
Cofrestrwch eich diddordeb yn ein gweminar Marchnata E-bost Effeithiol am ddim
Mae gan Mailchimp opsiwn rhad ac am ddim yn ogystal ag opsiynau premiwm ar gyfer y defnydd gorau posibl. Mae’r fersiwn am ddim yn caniatáu hyd at 2,000 o gysylltiadau, 1 grŵp cynulleidfa, yn ogystal â llawer mwy o opsiynau y mae eu hangen arnoch i ddechrau arni wrth i chi greu eich cronfa ddata. Wrth symud ymlaen, mae wedyn yn cynnig opsiynau talu hyblyg ar gyfer offer penodol ychwanegol. Cyn i chi ddechrau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) newydd – rhagor o wybodaeth.
Talu Fesul Clic (PPC)
Mae Google wedi sefydlu ei hun fel un o’r peiriannau chwilio fwyaf blaenllaw erbyn hyn, sy’n golygu mai Google Ads yw’r llwyfan hysbysebion mwyaf yn y DU ar gyfer marchnata PPC. Mae Google Ads yn gadael i chi dargedu cwsmeriaid yn ôl allweddeiriau, lleoliad, demograffeg ac ymddygiad. Gan ddibynnu ar y math o ymgyrch rydych chi’n ei dewis, gallai eich hysbysebion ymddangos yng nghanlyniadau chwilio Google, ar apiau Google a safleoedd partner, ac ar wefannau trydydd parti y mae eich marchnad darged yn ymweld â nhw drwy Google Display Network.
Mae cost ynghlwm wrth hyn, ond mae Google Ads yn gadael i chi osod cyllideb ddyddiol i gadw rheolaeth dros eich costau, ac nid oes rhaid gwario isafswm. Os nad ydych chi wedi defnyddio Google Ads o’r blaen, mae gan Google ganllaw i’ch helpu i ddechrau arni. Mae Bing Ads yn gweithio mewn ffordd debyg, ond gall fod yn ddewis rhatach gan ei fod yn berchen ar ganran is o’r farchnad peiriannau chwilio. Mae’r ddau blatfform yn caniatáu i chi fonitro a mesur canlyniadau er mwyn i chi allu cadw golwg ar yr hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd ddim.
Hysbysebion Facebook
Mae Facebook yn parhau i fod yn un o’r gwefanau rhwydweithio cymdeithasol fwyaf blaenllaw, ac mae’n cynnig gofod hysbysebu gwych i fusnesau bach. Mae hysbysebion Facebook yn eich galluogi i gyrraedd cynulleidfaoedd penodol ar sail eu lleoliad, eu demograffeg, eu diddordebau, eu hymddygiad a’u cysylltiadau. Mae hyn yn golygu y gallwch dargedu pobl sy’n debygol o fod â diddordeb yn eich cynnyrch neu wasanaeth ni waeth a ydynt wedi chwilio amdanoch ai peidio.
Gall hysbysebion Facebook fod yn ffordd wirioneddol gost-effeithiol o gyrraedd cynulleidfa enfawr. Gofynnwch i fusnes glampio moethus Ynys Môn, Wonderfully Wild. Chwaraeodd hysbysebion Facebook ran annatod yn y gwaith o ehangu'r busnes, a chawsant rai o’u canlyniadau gorau drwy wario dim ond £1 y dydd am 90 diwrnod ar eu hymgyrchoedd. Yn yr un modd â Google Ads, mae Facebook yn rhoi mynediad i chi at wybodaeth ddadansoddi er mwyn i chi allu mesur pa mor dda mae eich hysbysebion yn perfformio ac i ddyrannu gwariant yn unol â hynny.
Google My Business
Mae dros hanner yr holl chwiliadau Google bellach yn cael eu gwneud drwy ffôn symudol, gyda thraean o’r rhain yn ymwneud â lleoliad. Er syndod, nid yw llawer o fusnesau wedi ychwanegu na hawlio eu lle ar y rhestr o fusnesau lleol ar Google. Pam bod angen gwneud hyn? Yn gryno, er mwyn ei gwneud yn haws i gwsmeriaid ddod o hyd i chi yn hytrach na’ch cystadleuwyr.
Mae Google My Business yn adnodd rhad ac am ddim sy’n eich galluogi i greu proffil busnes ar-lein: gan gynnwys manylion cyswllt, oriau agor, URL gwefan, disgrifiad, a chynnyrch a gwasanaethau. Bydd eich cwmni’n ymddangos yn gyson mewn canlyniadau chwilio ar unrhyw ddyfais ac yn weladwy ar sawl llwyfan Google. Gall cwsmeriaid adael adolygiadau o’ch busnes hefyd, sydd wrth gwrs yn ffactor arall y bydd pobl yn chwilio amdano wrth benderfynu ar fusnes addas i ddarparu cynnyrch/gwasanaethau iddynt.
Mae Google My Business hefyd yn gadael i chi reoli eich manylion, rhyngweithio â chwsmeriaid, dilyn adolygiadau, a monitro ymddygiad a gweithredoedd eich cwsmeriaid. Mae’n syniad da trin eich tudalen fusnes Google fel petaech chi’n gwneud eich platfformau cymdeithasol drwy bostio diweddariadau a chynnwys yn rheolaidd i ddangos pa mor weithgar ydych chi fel busnes, yn ogystal â chadw eich amseroedd agor ac ati yn gyfredol o gwmpas tymhorau gwyliau gwahanol.