Efallai y byddwch yn synnu i ddysgu eich bod eisoes yn defnyddio’r Cwmwl mewn rhyw ffordd yn eich busnes, ac efallai’n gwneud hynny’n anfwriadol. Os ydych chi’n defnyddio e-bost, y cyfryngau cymdeithasol, marchnata e-bost neu’n storio ffeiliau ar-lein... rydych chi eisoes yn defnyddio’r Cwmwl.

 

Mae’r cwmwl yn anferth ac mae’n gallu bod yn frawychus i geisio ei ddeall. Fodd bynnag, does dim angen iddo fod mor gymhleth â hynny. Gall y cwmwl (yn ei  holl ffurfiau) gefnogi busnesau o unrhyw faint a gall gynnig manteision gwirioneddol heb wneud newidiadau mawr ym mhrosesau eich busnes.

 

Dyma rai ffyrdd syml y gallwch ddefnyddio’r cwmwl i arbed arian i’ch cwmni, gwella diogelwch ar-lein a chynyddu cynhyrchiant gweithwyr.

 

Copi wrth gefn o’ch data

 

Cyn i chi wneud unrhyw newidiadau i brosesau eich busnes, mae’n werth ystyried sut gall y cwmwl helpu i ddiogelu’r hyn rydych chi’n ei wneud yn barod. Gall defnyddio’r cwmwl i gadw copi wrth gefn o’ch data helpu os yw eich system yn methu neu os oes llifogydd yn y swyddfa, er enghraifft. Mae cadw copi wrth gefn ar y cwmwl yn rhoi tawelwch meddwl bod gennych ffordd ddiogel a rhwydd o gadw eich busnes i fynd, hyd yn oed os oes trychineb.

 

Gweithio o unrhyw le

 

Does dim angen swyddfa foethus neu fan gweithio personol arnoch i gynnal busnes effeithiol. Mae defnyddio lle storio ar-lein, fel Dropbox neu Google Cloud Storage, yn golygu bod eich ffeiliau a’ch dogfennau wedi eu storio yn y cwmwl, yn hytrach na’n lleol ar gyfrifiadur penodol.

 

Mae’r cwmwl yn eich galluogi i weithio pan fydd yr awen yn eich taro neu pan fo angen gweithio’n hyblyg y tu hwnt i’r oriau swyddfa 9 tan 5 arferol. P’un ai os ydych chi’n teithio i gyfarfod, bod angen ffeiliau arnoch ar gyfer cyfarfod munud olaf gyda chleient, neu pan fydd staff yn gweithio gartref, mae’r cwmwl yna i chi. Mae’n hawdd cael mynediad ato a gall pob aelod o staff weithio ar yr un dudalen drwy gysoni’n awtomatig.

 

Cynlluniau twf hyblyg

 

Er bod cynllunio ar gyfer y dyfodol yn bwysig, gall fod yn anodd mesur pa mor gyflym fydd y busnes yn tyfu. Mae ceisio amcangyfrif graddfa’r twf a chydbwyso eich uchelgais gyda’ch gallu yn nhermau amser, gofod ac adnoddau yn gallu bod yn anodd. Gall y cwmwl helpu i leihau’r pwysau yma trwy roi mynediad at adnoddau a llwyfannau o feintiau gwahanol (i gynyddu neu i leihau yn ôl eich anghenion) heb unrhyw fuddsoddiad o flaen llaw.

 

Symleiddio rheoli prosiectau

 

Os ydych chi’n cael trafferth rheoli mwy nag un prosiect neu gadw llygad ar lawer o dasgau gwahanol neu statws amserlenni gweithwyr gwahanol, yna mae llwyfannau rheoli prosiectau’r cwmwl yn cynnig ffordd wych o gadw’r holl wybodaeth hon mewn un lle sy’n hawdd i’w reoli. Mae llwyfannau fel Basecamp yn ffordd wych o wella cydweithrediad staff, cadw golwg ar dasgau, a helpu chi i gyflawni eich targedau.

 

Integreiddio eich llwyfannau

 

Mae’r byd yn symud fwyfwy at y cwmwl, felly nawr yw’r amser delfrydol i fynd i’r afael â normaleiddio’ch defnydd o’r cwmwl yn eich busnes. Efallai y cewch eich synnu gan y gwahanol adnoddau a systemau y gallwch chi eu hintegreiddio i arbed amser wrth gyfuno gwahanol brosesau. Sylweddolodd LilBits, sy’n fusnes adnoddau synhwyrol, y gallen nhw arbed “oriau ac oriau” o waith trwy gysylltu eu systemau MailChimp, Shopify a CRM yn y cwmwl. Faint o amser allech chi ei arbed trwy gyfuno rhai o’ch systemau?

 

Os hoffech chi ragor o gyngor i helpu eich busnes i symud i’r cwmwl:

Cofrestrwch gyda gwasanaethau Cyflymu Cymru i Fusnesau er mwyn cael mynediad at ddigwyddiadau rhad ac am ddim ac arweiniad un i un gan ein Cynghorydd Busnes Digidol

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen