Mae'r byd wedi dod yn ddibynnol ar fynd yn ddigidol, yn enwedig busnesau. Mae manteision technoleg ddigidol yn adnabyddus - ond sut mae hyn yn trosi i fudd ariannol i fusnesau sy'n tyfu?  

Mae mabwysiadu technoleg ddigidol yn aml yn gofyn am ryw fath o fuddsoddiad - boed hynny'n amser neu'n arian - felly gall cymryd y cam cyntaf fod yn frawychus yn aml. Mae ansicrwydd ynglŷn â pha mor dda y bydd y dechnoleg yn gweithio i'ch busnes, yr amser y bydd yn ei gymryd i'w sefydlu a sut y bydd yn cyd-fynd â'ch prosesau dyddiol, ond wedi iddi gael ei sefydlu, bydd y buddion yn drech na’r risg.  

Smartphone with digital tech icons coming out of screen

Dyma 5 ffordd hawdd y gallwch arbed arian a thyfu elw gyda thechnoleg ddigidol!  

Defnyddio gwasanaethau VoIP  

Gall Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP) helpu i leihau neu ddileu'r costau sy'n gysylltiedig â galwadau ffôn - a chyfarfodydd wyneb yn wyneb hyd yn oed. Ers y pandemig, mae cyfathrebu o bell wedi dod yn norm, gan arbed amser ac arian i fusnesau yn y pen draw. Y cyfan sydd ei angen yw cysylltiad rhyngrwyd a'ch gwasanaeth ar-lein dewisol, fel Skype neu Zoom. Mae’r rhain nid yn unig yn offer gwych ar gyfer cyfarfodydd, ond gall defnyddwyr hefyd rannu ffeiliau a chynnal darpariaeth ar-lein o'u cynnyrch a'u gwasanaethau. Gallwch leihau eich bil ffôn a dileu'r treuliau teithio drud drwy gynnal cyfarfodydd a galwadau cydweithredol dros VoIP.  

Defnyddio gwefannau adolygu  

Dewch â busnes atoch chi ar-lein. Arbedwch arian ar farchnata i gwsmeriaid newydd drwy gael eich cwsmeriaid presennol i wneud y gwaith drosoch chi! Mae gwefannau adolygu fel Google a Trustpilot yn ffitio'n ddidrafferth ar eich gwefan eich hun ac yn gweithio i awtomeiddio'r broses o gasglu adolygiadau ar hyd taith y cwsmer. Fel arall, gallwch annog cwsmeriaid i adael adolygiadau i chi ar Google neu Trustpilot gyda dolenni y gellir eu rhannu, os nad oes gennych awtomatiaeth. Mae gan y rhan fwyaf o lwyfannau feddalwedd ategion lle gallwch ymgorffori adolygiadau sy'n dod o wefannau trydydd parti fel Feefo. Gall y rhain redeg yn awtomatig drwy eich gwefan, felly dyma'r peth cyntaf y bydd cwsmeriaid posibl yn ei weld wrth bori eich safle am y tro cyntaf. 

Gan ddibynnu ar faint eich busnes a'ch anghenion penodol, mae haenau gwahanol o gost ar gyfer defnyddio safle adolygu - mae'n amrywio o gynlluniau am ddim fel dim ond cael tudalen fusnes Google, i'r rhai sy'n addas ar gyfer mentrau mwy. Mae safleoedd adolygu yn cynnig arbediad i gostau gweithgareddau marchnata (ac amser cysylltiedig) i gyrraedd cwsmeriaid newydd a gall helpu i wella boddhad cwsmeriaid, hybu trosiadau, a chreu cyfleoedd i wella eich busnes - a all, yn ei dro, gynhyrchu arian ar gyfer eich busnes. 

Manteisiwch ar dreialon am ddim neu feddalwedd pecyn sylfaenol 

Os ydych chi eisiau mabwysiadu technoleg ddigidol yn eich busnes ond yn ansicr a ydych chi'n barod i wneud yr ymrwymiad, profwch wahanol rai drwy ddefnyddio treialon am ddim o'r cynhyrchion meddalwedd y mae gennych ddiddordeb ynddo. Gallwch roi cynnig ar y nodweddion, gweld sut y gallai fod o fudd i'ch busnes a deall sut y gallai ffitio i mewn i'ch prosesau o ddydd i ddydd cyn buddsoddi ynddo. Mae gan Microsoft fersiwn ar-lein am ddim o Microsoft 365, er enghraifft. Gallai profi eich opsiynau cyn i chi fuddsoddi arbed llawer o arian i chi yn y pen draw a chael gwared ar y drafferth o ran defnyddio cynnyrch nad yw'n addas i'ch anghenion neu y bydd angen i chi newid ar ôl ychydig o amser.  

Open laptop with different coloured app cubes populating the screen

Gweithio o bell a gweithio o sawl gweithfan   

Yn hytrach na thalu swm sylweddol ar gyfer eich safle eich hun pan fyddwch chi'n dechrau neu'n ansicr am gyflymder eich twf, ystyriwch opsiynau gwaith o bell neu weithio o sawl gweithfan. Mae hyn bellach wedi dod yn norm ar ôl y pandemig, gyda busnesau'n arbed arian drwy roi'r gorau i'w safleoedd a defnyddio'r arian hwnnw ar gyfer adnoddau digidol. Mae cysylltiadau band eang cyflym iawn ac offer rheoli prosiect ar y cyd fel  Asana neu Trello  yn ei gwneud hi'n haws nag erioed i staff weithio o adref neu y tu allan i amgylchedd swyddfa safonol. 

Microsoft Teams hefyd yw'r platfform mwyaf poblogaidd i fynd ati i gyflwyno gwaith bob dydd. Fel arall, gallwch dalu am ddesgiau unigol neu 'ddesgiau poeth' i staff mewn gofod cydweithio. Unwaith eto, mae'r rhain wedi dod yn boblogaidd i'r rheiny sydd angen seibiant o weithio gartref, ond nid oes ganddynt swyddfa i'w mynychu mwyach. Arbedwch gostau ymlaen llaw sicrhau eich adeilad neu'ch gweithle eich hun drwy rannu'r gofod gyda busnes arall mewn amgylchedd gwaith cydweithredol y gallwch ei ehangu neu gontractio (drwy dalu am fwy, neu lai, o ddesgiau) wrth i'ch anghenion staffio newid.  

Gwnewch defnydd da o farchnata drwy e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol  

Yn hytrach na buddsoddi mewn ymgyrchoedd hysbysebu drud neu daflu eich arian at farchnata, defnyddiwch yr offer a'r llwyfannau rhad ac am ddim sydd ar gael a all eich helpu i ddatblygu, rheoli a chydlynu eich prosiectau marchnata ar-lein eich hun. P'un a ydych yn dosbarthu cipluniau wythnosol, e-gylchlythyrau misol neu gynigion e-bost targedig, mae llwyfannau fel MailChimp yn symleiddio'r broses o greu eich e-bost brand eich hun i'w anfon allan i'ch cronfa ddata.  

Os ydych chi newydd ddechrau adeiladu eich cronfa ddata o gleientiaid, gellir defnyddio llawer o nodweddion Mailchimp am ddim. Fodd bynnag, y mwyaf y byddwch chi'n ehangu, mae amryw o gynlluniau prisio ar gael. Yn yr un modd, gall llwyfannau fel Hootsuite, Tweetdeck a Sprout Social gefnogi ac awtomeiddio eich gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol i sicrhau eich bod yn cadw eich brand ar-lein yn gyfredol heb dynnu’ch amser a'ch sylw drwy gydol y dydd. Mae'r offer hyn yn wych yn enwedig os ydych ond yn gweithio mewn tîm bach a bod gennych un person yn bennaf gyfrifol am weithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Darganfyddwch yr offer digidol eraill a all arbed amser ac arian i'ch busnes drwy lawrlwytho ein Pecyn Cymorth Digidol am ddim 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen