Os ydych wedi dechrau casglu data cwsmeriaid ac yn rheoli sut rydych yn storio a thrin y wybodaeth hon yn effeithlon, rydych chi eisoes ar y trywydd iawn i dargedu eich cwsmeriaid yn effeithiol. Fodd bynnag, nid yw cael y data hwn wrth law yn ddigon, dylech ei ddefnyddio i lywio eich gweithgarwch marchnata a chyfathrebu. 

 

Dyma ein 5 awgrym er mwyn gwneud yn siŵr bod eich data cwsmeriaid yn cael ei ddefnyddio i wella gwasanaeth i gwsmeriaid, cynyddu trosiant a thyfu eich busnes: 

 

Deall dewisiadau a diddordebau eich cwsmeriaid 

 

Wrth gasglu gwybodaeth am eich cwsmeriaid, dylech geisio deall eu dewisiadau unigol.  P'un a yw hyn yn cyfeirio at eu hanghenion penodol, diddordebau neu’r dulliau cyfathrebu sydd orau ganddynt, bydd y data hwn yn eich galluogi i dargedu eich cwsmeriaid â'r dulliau a negeseuon y maent yn fwyaf tebygol o ymgysylltu â nhw

 

Cyflwyno’r neges orau ar yr adeg orau i’r cwsmer yw marchnata a dylai'r data a gasglwch fod o gymorth i chi wneud hyn

 

Gwnewch y gorau o effaith eich marchnata e-bost

 

Dylai eich data cwsmeriaid lunio eich strategaeth farchnata e-bost. Bydd data am ddewisiadau, ymddygiad eich cwsmeriaid a hanes prynu yn eich helpu i gyrraedd unigolion gyda negeseuon e-bost marchnata a fydd yn eu hannog i glicio drwodd.  Gall marchnata e-bost awtomatig hefyd eich helpu i dargedu eich cwsmeriaid presennol wrth iddynt deithio drwy daith y prynwr.  Anfonwch negeseuon e-bost yn eu hatgoffa am eitemau sydd yn eu basgedi, codau disgownt i annog trosi, neu air o ddiolch unwaith y byddant wedi cwblhau pryniant.   

 

Rhowch flaenoriaeth i bersonoli 

 

Os gwyddoch enwau eich cwsmeriaid, sicrhewch eich bod yn eu defnyddio. Mae cyfeirio at eich cwsmeriaid wrth eu henwau yn ffordd wych o ddatblygu eich marchnata e-bost.  Bydd siarad â'ch cwsmeriaid fel bodau dynol, yn hytrach na rhif mewn rhestr, yn gwneud i’r unigolyn deimlo ei fod yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi. Os ydych yn anfon negeseuon e-bost yn rheolaidd, bydd cyfeirio at eich cwsmeriaid wrth eu henwau yn hytrach na thrwy linell pwnc gyffredinol yn golygu gwell siawns y caiff y neges ei hagor.

 

Gwella’ch gwasanaeth i gwsmeriaid

 

Eich data cwsmeriaid yw'r arf gorau sydd gennych er mwyn datblygu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.  Wrth siarad yn uniongyrchol â chwsmer, boed yn ymholiad neu gŵyn, dylai'r staff gwasanaeth i gwsmeriaid fod yn ymwybodol o hanes yr unigolyn gyda'r busnes. Gallai hyn gynnwys unrhyw broblemau yn y gorffennol, a ydynt wedi cysylltu’n uniongyrchol gyda'r busnes o'r blaen, neu unrhyw wybodaeth bwysig arall a all fod o gymorth i staff i deilwra ei gwasanaeth. Mae defnyddio'r data hwn yn gwneud yn siŵr bod y cwsmer yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ond hefyd yn galluogi staff i ymdrin ag ymholiadau yn effeithlon er mwyn meithrin perthynas dda.

 

Cael mewnbwn cwsmeriaid i dyfu eich busnes

 

Eich cwsmeriaid yw eich ased gorau. Sicrhewch eich bod yn siarad â nhw am y ffyrdd y gallwch wella a thyfu eich busnes. Gofynnwch am eu hadborth, adolygiadau neu awgrymiadau am nodweddion newydd, gwasanaethau y byddent yn hoffi eu gweld, neu gynhyrchion posibl yn y dyfodol. Mae eich cwsmeriaid yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth, felly gofynnwch am eu mewnbwn.

 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen