Wrth i ni agosáu at ddiwedd 2018, mae’n bryd dechrau paratoi eich busnes ar gyfer y 12 mis nesaf. Os hoffech barhau’n gystadleuol neu ddatblygu ymhellach yn 2019, un o’r ffyrdd gorau i wneud hynny yw edrych ar sut gallwch wneud y mwyaf o dueddiadau a ragwelir. Gallwch fod ar y blaen o’ch cystadleuwyr, cyrraedd eich cwsmeriaid mewn ffyrdd newydd a chyffrous a thyfu eich busnes.

 

Dyma 5 tuedd digidol y rhagwelir y byddant yn ffurfio 2019

Bydd y cyfryngau cymdeithasol yn dod yn fwy integredig gyda gwasanaethau eraill Bydd yn dod yn fwy cyffredin i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol rannu data ar draws apiau trydydd parti i helpu creu profiad mwy di-dor i’r cwsmer.

 

Bydd hyn yn parhau i hybu trechedd cyfryngau cymdeithasol i ddefnyddwyr, wrth amlygu ffyrdd i ddarparu gwasanaeth gwell hefyd. Os nad ydych chi wedi cymryd rheolaeth dros eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol eto, dyma’r amser!

 

Bydd poblogrwydd fideos yn cynyddu

Bydd fideos byw a thrawiadol yn parhau i ddominyddu’r gofod ar-lein. Yn ôl ymchwil gan Cisco, bydd traffig fideo yn cyfrif am 82% o holl draffig rhyngrwyd defnyddwyr erbyn 2021, a bydd fideos byw ar y rhyngrwyd yn cyfrif am 13% o’r holl draffig fideo ar y rhyngrwyd.

 

Os ydych chi’n newydd i ddefnyddio fideo i farchnata eich busnes, gallwch ddechrau trwy ddefnyddio swyddogaeth fyw Facebook ac Instagram i rannu diweddariadau â’ch cynulleidfa. Pan fyddwch chi’n hyderus â’r fformat, gallwch ddechrau arbrofi!

 

Bydd ‘Chatbots’ yn dod yn arferol

Gallaf glywed yr ocheneidiau’n barod! Mae’n wir - rydym ni gyd fwy na thebyg wedi cael profiad negyddol neu gythruddol gyda ‘chatbot’ ond, wrth i dechnoleg ddatblygu, mae camau wedi cael eu cymryd i brosesu teimlad ac iaith naturiol yn well.

 

Yn ôl Spiceworks, bydd 40% o fusnesau mawr wedi gweithredu cynorthwywyr deallus, neu ‘chatbots’, erbyn 2019. Gallai’r ffordd awtomatig o ymdrin ag ymholiadau neu geisiadau gan gwsmeriaid ymdreiddio i fusnesau bach a chanolig cyn bo hir. Mae hyn yn newyddion gwych, gan fod yr amser a’r ymdrech i fynd i’r afael â cheisiadau, yn cael ei drosglwyddo i brosesau awtomatig, sy’n rhyddhau amser i chi ganolbwyntio ar y busnes.

 

Hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu gweithredu eich ‘chatbot’ eich hun, mae gwerth ystyried sut bydd normaleiddio’r offer hyn yn newid gwasanaeth cwsmeriaid - ac, yn arbennig, cyflymder a lefel y cymorth cwsmeriaid y bydd eich cynulleidfa yn ei ddisgwyl.

 

Bydd twf parhaus yn y nifer sy’n mabwysiadu’r cwmwl

Mae’r cwmwl yn barhaus i ddatblygu wrth i fwyfwy o bobl ei ddefnyddio, am amrywiaeth o resymau. Mae Forbes yn awgrymu y bydd ‘amlgwmwl (multicloud)’ yn air allweddol newydd yn y ‘sgwrs am gwmwl’ wrth i fusnesau ddewis y mathau gwahanol o gwmwl i’w ddefnyddio, neu ar gyfer prosesau busnes neu TG penodol.

 

Ni waeth sut na pham rydych chi’n defnyddio’r cwmwl, bydd y ffocws ar wneud yn siŵr bod eich holl systemau gwahanol yn ddiogel, yn gweithio’n ddi-dor, ac y gellir eu symleiddio.

 

Mae hyn yn wych i fusnesau llai, gan ei fod yn golygu llai o bwysau i deimlo’r angen i symud eich holl fusnes i’r cwmwl ac, yn lle hynny, gallwch gymryd camau llai. Dechrau symud elfennau gwahanol i’r cwmwl, wrth ystyried sut gallwch integreiddio’r prosesau newydd hyn i mewn i’ch rhai presennol.

 

Bydd data yn bwysicaf nag erioed

Mae data wedi bod yn bwnc trafod allweddol yn ystod 2018, yn enwedig o ran GDPR. Ond, ni fydd hyn yn tawelu yn 2019. Ni waeth pa mor fawr neu fach yw eich busnes, mae’n debygol y bydd gennych chi lawer o ddata – ond pa mor effeithiol ydych chi o ran ei ddefnyddio?

 

I barhau’n gystadleuol yn 2019, bydd angen i fusnesau ddod o hyd i ffyrdd ystyrlon i ddefnyddio data y maent yn ei gasglu i hybu twf.

 

Mae Forbes yn awgrymu y bydd busnesau mawr yn buddsoddi mewn dysgu peiriannau i brosesu a deall eu data – ond gall busnesau bach a chanolig ddechrau gwneud hyn nawr. P’un ai a yw’n system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid, Google Analytics neu’n edrych ar eich dadansoddeg cyfryngau cymdeithasol, mae ffyrdd syml y gallwch chi ddefnyddio’r data hwnnw yn eich dwylo i ffurfio a thyfu eich busnes yn 2019.

 

Ydych chi wedi dechrau cynllunio ar gyfer 2019?

Darganfyddwch sut gall Cyflymu Cymru i Fusnesau eich helpu i dyfu eich busnes trwy gofrestru ar gyfer y cymorth un i un rhad ac am ddim nawr. Byddwch chi’n derbyn cynllun gweithredu digidol teilwredig i arwain eich camau nesaf.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen