Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Tachwedd 2018, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.
Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.
Mae sicrhau bod eich busnes yn ddiogel ar-lein yn dibynnu ar eich prosesau i’r un graddau â’r dechnoleg sydd gennych. Nid yw’n ddigon i feddwl, “Mae gen i’r dechnoleg hon yn ei lle, felly does dim angen i mi boeni am ddiogelwch mwyach”.
Mae diogelu eich busnes ar-lein yn broses barhaus o gadw’ch amddiffynfeydd a’ch tîm yn gyfredol gyda sut mae eich diwydiant a’r amgylchedd ar-lein yn newid.
Dyma 5 peth y gallwch wneud i sicrhau bod eich prosesau yn diogelu eich busnes
Byddwch yn barod gyda chynllun adfer
Dyma un o’r pethau hawddaf y gallwch ei wneud – a’r cyfan mae’n ei gostio yw ychydig o amser.
Mae’r wybodaeth sydd gennych am eich busnes a’ch cwsmeriaid gwerthfawr yn hollbwysig. Cymerwch gamau yn awr i gynllunio ar gyfer pob canlyniad a datblygwch strategaeth y gallwch gyfeirio ati, pe byddai’r senario achos gwaethaf yn digwydd.
Bydd yn dileu’r straen eithafol o geisio meddwl ar eich traed mewn sefyllfa drychinebus ond hefyd yn golygu bod eich busnes yn gallu gweithredu wrth i chi ddelio â’r mater.
Yn y pen draw, bydd treulio rhywfaint o amser nawr yn cynllunio, yn arbed llawer o amser, arian a tharfu i chi yn y dyfodol gan y byddwch yn gallu ymateb yn fwy effeithiol ac effeithlon i doriad.
Mae cadw i wybod y diweddaraf yn hanfodol
Cadwch eich meddalwedd gwrth-firws, waliau tân ayb. yn gyfredol a defnyddiwch wasanaethau meddalwedd seiliedig ar gwmwl fydd yn diweddaru yn awtomatig. Yn ychwanegol at hyn, mae cymwysiadau meddalwedd yn y cwmwl yn ddewis gwych ar gyfer rheoli eich costau. Does dim angen i chi boeni am ddiweddariadau meddalwedd rheolaidd, mae’r cwbl yn cael ei wneud i chi.
Boed yn cael ei drafod yn awtomatig neu â llaw, mae’n syniad da i wirio ar eich amddiffynfeydd yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn dal i ateb anghenion eich busnes.
Cadwch eich data wrth gefn
Y ffordd fwyaf cost effeithiol, diogel a dibynadwy o sicrhau bod data eich busnes ar gael 24/7 yw dewis dull storio a chadw wrth gefn yn y cwmwl. Nid yn unig y cewch y budd o gael storio’ch gwybodaeth yn ddiogel yn awtomatig ond gall helpu i hybu effeithlonrwydd gan y gall staff gyrchu dogfen ble bynnag y bônt yn y byd ac ar ba adeg bynnag mae angen iddynt.
Defnyddiwch wal dân ddynol
Mae cyfran fawr o dor-rheolau diogelwch gwybodaeth yn dod o’r tu mewn i’r busnes, yn hytrach na hacio a gwe-rwydo allanol.
Mewn geiriau eraill, mae’n ddigwyddiad mewnol yn aml (yn ddamweiniol neu fel arall) sy’n arwain at sefyllfa drychineb busnes – fel clicio’n anfwriadol ar firws, gan lygru taenlen bwysig yn ddamweiniol neu golli dyfais gwaith wrth deithio.
Sicrhewch eich bod yn creu, rhannu a chadw’n gyfredol, set o bolisïau a gweithdrefnau cwmni sy’n cael eu defnyddio gan yr holl staff i helpu rheoli diogelwch eich busnes a data eich cwsmeriaid.
Gallai fod angen i chi gael setiau penodol o weithdrefnau ar gyfer gwahanol rannau o’r busnes gan ddibynnu ar y mathau o wybodaeth mae staff yn eu trafod, neu hyd yn oed hyfforddiant penodol i weithwyr sy’n trafod data arbennig o sensitif yn rheolaidd.
Sut bynnag y dewiswch wneud hyn, mae’n bwysig fod yr holl weithwyr yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeant mewn cadw’r busnes yn ddiogel ar-lein.
Meddyliwch am safonau
Fel busnes dylech feddwl am safonau ISO. Os ydych chi’n tendro am fusnes, bydd ISO9001 ac ISO27001 yn mynd yn bell i’ch helpu i ddatblygu polisi ansawdd a diogelwch gwybodaeth fydd yn dangos i’ch cwsmeriaid eich bod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth o ansawdd.
Mae hyn yn ychwanegu lefel arall o hygrededd i’ch busnes, gan eich cadw’n ddiogel ar-lein ac yn gystadleuol yn eich diwydiant.
I ddysgu rhagor am sut i ddiogelu eich busnes ar-lein, cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau am ddim. Gallwn ateb eich cwestiynau a helpu i ddatblygu eich cynllun gweithredu digidol pwrpasol.