Fel busnes bach sy’n datblygu syniadau ar bapur i gwmni gyda nifer o ddyfeisiau, prosesau a strategaethau, mae’n amser da i ddechrau ystyried eich isadeiledd TG.

 

Er y gall buddsoddi mewn TG fod yn gymhleth, yn ddryslyd ac yn gostus, mae’r cwmwl yn golygu bod isadeiledd cadarn yn llawr mwy hygyrch i fusnesau sy’n tyfu.

 

Darllennwch ymlaen i ddysgu’r ffyrdd y gall eich busnes bach lwyddo trwy symud i’r cwmwl:

 

Arbed arian

 

Fel busnes sy’n tyfu, mae unrhyw ffordd o arbed arian o fantais. Mae buddsoddi yn y cwmwl yn golygu llai o fuddsoddi mewn caledwedd ffisegol, mwy o le ar gael a llai o gost o ran pweru’r caledwedd. Gall cychwyn arni gyda’r cwmwl dorri ar gostau cyfalafcychwynnol buddsoddi mewn gweinyddion a’u rhedeg eich hun.

 

Ehangu a chwtogi fel bo angen

 

Mae’r cwmwl yn caniatáu busnesau i ddiwallu eu hanghenion uniongyrchol, hyd yn oed pan maen nhw’n newid. Yn flaenorol, seiliwyd buddsoddiad ar ragolygon twf a chyllideb – ond beth fydd yn digwydd os, a phryd, y bydd hyn yn newid dros amser? Gallech wario mwy na’r hyn sydd ei angen ar le neu’n cael trafferth cynnal gofynion uchafswm – sut bynnag y bydd, mae hyn yn rhoi pwysau diangen ar graidd eich busnes. Mae’r cwmwl yn datrys y broblem hon gan roi’r hyblygrwydd i symud a thyfu gyda’ch busnes dros amser.

 

Gwella’ch diogelwch

 

Camargraff cyffredin yw bod y cwmwl yn beryglus ac yn agored i hacwyr. Yn wir, mae bron popeth ar-lein yn agored i fygythiadau seibr, ond gall y cwmwl ddarparu diogelwch cyflymach a gwell  na busnes bach arferol. Pa mor effeithiol mae eich busnes wedi paratoi ar gyfer canfod gwendidau a’u trwsio nhw? Wyddoch chi sut i ymdrin â bygythiad seibr pe bai’ch busnes yn cael ei ymosod arno? A ydych chi’n barod i gadw trefn ar fygythiadau newydd dros amser? Mae darparwyr y cwmwl yn gweithredu’n barhaus i ddarparu system ddiogel, gyfoes a dibynadwy a fydd yn diogelu eich busnes. 

 

Cydweithredu gwell

 

Mae cydweithio’n hawdd yn y cwmwl. Mae storio gwybodaeth yn y cwmwl yn golygu y gall cydweithwyr a chwsmeriaid gael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, mewn amser-real. Yn wir, gallwch chi gyd weithio o’r un dudalen yn llythrennol. Gall offer cwmwl ar y cyd, megis Dropbox Business, Trello a Socialcast galluogi cydweithredu gwell trwy arbed amser a wastraffir ar aros i gydweithwyr rannu ffeiliau, lleihau gwallau o weithio ar hen ddogfennau a gwella cynhyrchiant wrth gadw holl wybodaeth y prosiect mewn un man. Fel perchennog busnes bach, gallwch dracio cynnydd gwahanol brosiectau a sicrhau bod staff yn gweithio’n effeithiol ac o fewn y terfyn amser, lle bynnag y meant.

 

Gwell integreiddio rhwng datrysiadau

Mae gwasanaethau sy’n seiliedig ar y cwmwl yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd felly bydd cyfleoedd gennych i integreiddio eich gwahanol ddatrysiadau. Gall hyn eich helpu i wella cyfathrebiadau a symleiddio sut i rannu a defnyddio’r wybodaeth a gesglir gan eich busnes.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen