Yn yr oes ddigidol, lle mae twf hygyrchedd technoleg symudol yn galluogi busnesau fod yn fwy hyblyg o ran trefniant eu ‘diwrnod gwaith’, mae nifer gynyddol o fusnesau’n dewis symud i ffwrdd oddi wrth y safon gonfensiynol o weithio llawn amser, naw tan bump, pum niwrnod yr wythnos.

 

Yn lle hynny, maent yn dewis gweithredu Arferion Gweithio Modern (MWP). Mae’r dull hyblyg hwn o weithio’n cyfeirio at unrhyw beth sydd y tu allan i’r wythnos safonol o weithio naw tan bump ac yn rhoi’r rhyddid i weithwyr weithio y tu allan i’r amgylchedd swyddfa draddodiadol a chanddynt oriau gweithio hyblyg.

 

Yn ôl ymchwil gan Chwarae Teg, mae busnesau bach Cymru yn fwy tebygol i asesu gweithio hyblyg ar gais a fesul achos, ac efallai y bydd ganddynt lai o opsiynau ar gyfer gweithio amrywiol oherwydd nifer y staff. O gymharu, mae busnesau mawr Cymru yn fwy tebygol o gael polisi MWP ffurfiol, gyda mwy o opsiynau ar gael o ganlyniad i well adnoddau technolegol i hwyluso gweithio amgen.

 

Gall diffyg awydd busnesau bach a chanolig Cymru fod oherwydd ansicrwydd ynghylch y gwir fanteision, logisteg a heriau a allai ddeillio o weithredu Arferion Gweithio Modern.

 

Mae ymchwil Chwarae Teg yn amlygu nifer o fanteision busnes allweddol o fabwysiadu MWP, nid yn unig i’r busnes ond i’r gweithwyr a’r gymuned ehangach yn ogystal. Ymysg rhai o’r manteision hyn mae: mwy o gynhyrchiant, boddhad ymhlith staff, gwell cyfraddau recriwtio a chadw staff a llai o gostau cyffredinol ac absenoldeb.

Trwy greu awyrgylch gweithio mwy bywiog a hyblyg, gall busnesau groesawu manteision niferus staff mwy ymgysylltiol a gall gweithwyr brofi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

 

Er bod Arferion Gweithio Modern yn dangos sut mae technoleg yn galluogi busnesau fod yn fwy blaengar, mae heriau'n bodoli o hyd. Nododd Chwarae Teg rai o heriau allweddol MWP fel agweddau gwrthwynebol, risg o weithio gormod, trafferth wrth gyfathrebu, colli awyrgylch tîm a thrafferth i fodloni disgwyliadau cwsmeriaid.

 

Gweler isod rai o’r ffyrdd y gall technoleg ddigidol gefnogi eich busnes drwy weithredu Arferion Gweithio Modern ac i oresgyn heriau cyn iddynt ddigwydd.

 

Cyfathrebu Mewnol ac Allanol

 

Trwy ddarparu offer a llwyfannau pwrpasol ar gyfer dulliau cyfathrebu penodol (megis cyfarfodydd mewnol, trafodaethau bob dydd neu gynadleddau cwsmeriaid), bydd staff yn deall bod prosesau clir ac uniongyrchol i sicrhau y gallant gysylltu â chydweithwyr, cleientiaid, cwsmeriaid a phartneriaid drwy’r amser, lle bynnag y maent yn gweithio.

 

Mae offer megis Skype neu WebEx yn darparu datrysiadau cyfarfodydd ar-lein gyda saingynadledda, fideogynadledda a gwegynadledda a galluoedd cyflwyno sy’n gweithio dros y rhyngrwyd ac sy’n gallu cysylltu o 2 hyd at 250 o bobl ar y tro trwy amryw o ddyfeisiau. Mae’r offer hyn yn cynnig rhannu cynnwys fel bod timau mewnol ac allanol yn gallu cydweithio mewn amser real wrth gyd-ysgrifennu, rhannu byrddau gwaith, cyflwyniadau, gweminarau a mwy.

 

Gall cynhyrchion Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP), megis Gradwell, sipgate neu Soho666 fod yn ddewis da i gynnal cyswllt uniongyrchol staff ond lleihau eich costau telathrebu trwy ddefnyddio data ryngrwyd i gysylltu galwadau ffôn. Mae’r erthygl hon yn amlygu rhai rhesymau gwych pam y gallai newid i VoIP fod o fudd i’ch busnes.

 

Rheoli llwyth gwaith staff, gweithgareddau a therfynau amser

 

Mae offer rheoli prosiect, megis Basecamp a Trello yn cynnig ffyrdd syml o rannu, rheoli a chydweithio ar lwythi gwaith unigol a phrosiectau tîm. Yn ogystal, mae’r offer hyn yn darparu llwyfannau penodol i weithwyr cael mynediad at waith prosiect mewn amser real i sicrhau bod staff yn gweithio o’r un dudalen, lle bynnag eu lleoliad. Ar yr un pryd, mae’r offer hyn yn darparu ffordd i reolwyr sicrhau bod staff yn bodloni disgwyliadau a therfyniadau amser i sicrhau bod heriau posibl gyda llai o gynhyrchiant yn cael eu monitro a’u trin yn effeithiol.

 

Cynnal yr awyrgylch tîm

 

Ar wahân i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu rhithwir yn gyson, mae camau syml eraill y gall eich busnes eu cymryd i sicrhau bod staff yn teimlo’n rhan o’r busnes ehangach. Gall diweddariad drwy e-bost mewnol bob wythnos neu bythefnos sicrhau bod gweithwyr o bell yn cael eu cynnwys yng nghynnydd, llwyddiant a chynlluniau dyfodol y busnes ac yn ymwybodol o unrhyw newyddion, diweddariadau neu ddyddiadau i’w cofnodi yn eu dyddiadur. Gallai offer megis MailChimp, Litmus a Active Trail eich helpu i greu, arbrofi, anfon a dadansoddi llwyddiant eich e-byst. Gall e-farchnata eich cysylltu â chwsmeriaid, beth am ei ddefnyddio i gysylltu â gweithwyr?

 

Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod pan fyddwch yn mabwysiadu technoleg ddigidol er mwyn elwa ar Arferion Gwaith Modern, nid yn unig y mae’n ymwneud â chael yr offer digidol, ond sut y byddwch yn ei ddefnyddio. Dylech greu polisi MWP gydag arweiniad eglur ar ddisgwyliadau, gofynion a sut y dylai technoleg gael ei ddefnyddio i gynorthwyo gweithio hyblyg fel eich cam cyntaf i sicrhau llwyddiant cyffredinol. 

 

Mae nifer o gynhyrchion meddalwedd a llwyfannau ar-lein a allai eich helpu chi redeg eich busnes, lle bynnag y mae staff wedi’u lleoli. Gall Cyfeirlyfr Meddalwedd Cyflymu Cymru i Fusnesau eich helpu i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch y feddalwedd rydych chi eisiau mabwysiadu gyda gwybodaeth am 11 maes busnes allweddol a’r feddalwedd gysylltiedig a allai gefnogi eich busnes. Dewch o hyd i’r Cyfeirlyfr Meddalwedd am ddim yma.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen