Gall fod yn hawdd gwthio adfer ar ôl trychineb i waelod rhestr hir o bethau i’w gwneud. Rydych chi’n ofalus ar-lein ac yn storio eich data yn ddiogel, felly mae’n deg tybio eich bod chi’n weddol warchodedig?

 

Fodd bynnag, hyd yn oed gyda’r amddiffynfeydd gorau, gall eich busnes dal fod yn agored i ‘drychineb’ - ac mae’r rhain yn ymddangos mewn nifer o ffurfiau. P’un ai a yw o ganlyniad i lawrlwytho meddalwedd wystlo ar ddamwain, ymosodiad seibr dinistriol, neu hyd yn oed rhywbeth mor syml â cholli gliniadur neu dân yn y swyddfa.

 

Os nad ydych chi’n barod am rywbeth gwael yn digwydd, gall rhywbeth ‘gwael’ arwain at rywbeth ‘gwaeth’ yn gyflym.

 

Heb gynllun adfer ar ôl trychineb neu gynllun wrth gefn cadarn ar waith, gallai eich busnes golli llawer o arian, amser staff a hyder cwsmeriaid.

 

Fel cario ymbarél ar ddiwrnod heulog (rhag ofn!), mae eich paratoadau i adfer ar ôl trychineb yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch chi’n iawn, hyd yn oed os bydd pethau’n mynd yn wael!

 

Dyma 4 ffordd y gallwch chi fod yn barod cyn i drychineb ddigwydd, i leihau colledion a gwneud yn siwr bod eich busnes yn barhau i weithredu fel arfer

 

A yw eich seilwaith yn addas?

 

Mae’n hawdd ystyried bod buddsoddi yn eich seilwaith yn orchwyl a allai fod yn gostus, fodd bynnag, mae’n hanfodol ystyried faint y gallech chi ei golli os byddai’r dechnoleg rydych chi’n ei defnyddio yn methu.

 

Os ydych chi’n defnyddio hen dechnoleg, dulliau rhedeg eich busnes a storio data, gallech chi fod yn colli allan ar swyddogaethau gwell cyffredinol y systemau hyn, ond hefyd, y diogelwch uwch y maent ei ddarparu. Er efallai y gallai gymryd mwy o amser i fudo eich data a’ch arferion i systemau mwy newydd, fel cwmwl, gallech arbed lawer o arian ar galedwedd, gallu storio a gorbenion.

 

Storio wrth gefn

 

Un o’r ffyrdd hawsaf i gadw eich busnes i weithio fel arfer yw ei gynnal mewn cwmwl. Gyda’r swm cynyddol o ddata y mae busnesau yn eu dal, gall fod yn gostus ac yn anghyfleus ei gadw’n fewnol neu mewn canolfan ddata, yn rhedeg systemau storio wrth gefn traddodiadol i yriant allanol. Hefyd, beth fyddwch chi’n ei wneud os bydd trychineb naturiol neu os caiff ei ddwyn? Mae’n debygol y bydd wedi mynd am byth.

 

Nid yn unig y gall storio eich busnes wrth gefn ar y cwmwl arbed arian i chi (diolch i argaeledd llawer o opsiynau cost isel) ond ni allai fod yn haws ei reoli – gyda gwybodaeth yn cael ei chadw fel mater o drefn mewn amser real. Gallwch fwyhau neu leihau wrth i’ch anghenion newid, a gallwch ei gyrchu o bell, ble bynnag rydych chi.

 

Os byddwch chi’n dioddef trychineb sy’n dileu eich ffeiliau pwysig, mae’r broses o gael eich busnes yn ôl ar ei draed yn syml, ac nid oes angen i chi aros i adfer data o leoliad oddi ar y safle neu i ailgysylltu gyriant. Gallwch glicio ac adfer eich ffeiliau yn ôl i’w lleoliad blaenorol.

 

Parhewch i ystyried diogelwch

 

Pa bynnag system rydych chi’n ei defnyddio, mae angen i chi barhau i fod yn ymwybodol o fygythiadau posibl a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch i wneud yn siŵr eich bod chi’n dilyn yr arferion gorau ar-lein, a’ch bod chi’n ymwybodol o dueddiadau neu offer newydd.

 

Mae llawer o bobl yn pryderu am ddiffyg rheolaeth wrth symud i’r cwmwl, gan nad ydyn nhw’n gallu gweld ble caiff y data ei gadw. Fodd bynnag, mae digon o bethau y gallwch chi ei wneud i sicrhau bod gennych chi system cwmwl wrth gefn ddiogel. Ymchwiliwch i gyflenwyr posibl a chaffel argymhellion y diwydiant. Ystyriwch amgryptio’r data sy’n cael ei storio a phan fyddwch chi’n ei drosglwyddo. Ystyriwch ddefnyddio dilysiad dau ffactor i gynyddu diogelwch mewngofnodi.

 

Sicrhau bod cynllun hygyrch ar waith

 

Ar ôl i chi benderfynu ar y llwybr gorau i’w gymryd ar gyfer eich busnes o ran seilwaith, adolygu systemau a’u cadw wrth gefn, mae’n bryd cael cynllun clir ar waith, rhag ofn i drychineb ddigwydd.

 

Dylai’r cynllun hwn fod yn glir ac yn hygyrch i bob aelod o staff, gan nad ydych chi’n gwybod sut na phryd fydd trychineb yn digwydd. Dylai’r holl staff fod yn barod i gymryd y camau gorau i leihau’r effaith.

 

Dylech ystyried beth fydd y camau cyntaf i’w cymryd os bydd bygythiad, ymosodiad neu broblem yn cael ei hamlygu. Gallai hyn gynnwys pwy sydd angen gwybod amdano, sut i rannu gwybodaeth am y digwyddiad, sut i ymatal y toriad i ddiogelwch, sut rydych chi’n bwriadu adfer ar ôl y digwyddiad, a sut i ddiogelu eich enw da.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen