Mae galwad i weithredu yn gwneud yn union beth mae’n ei ddweud; mae’n galw ar y darllenwr i gyflawni gweithred benodol.

 

Bydd y galwad i weithredu yn nodweddiadol yn cael ei chyflwyno ar ffurf llinell o destun, delwedd neu fotwm, a bydd yn arwain y cwsmer at dudalen we benodol i gyflawni gweithred ddiffiniedig. Bydd y galwad i weithredu yn nodweddiadol yn annog y defnyddiwr i wneud rhywbeth fel cofrestru ar gyfer cylchlythyr, lawrlwytho e-lyfr, prynu cynnyrch penodol neu danysgrifio i wasanaeth.  

 

Mae galwadau i weithredu yn allweddol i gyfeirio’ch traffig i leoliad penodol ar eich gwefan neu eu darbwyllo i gwblhau gweithred wedi’i blaenoriaethu, ond y cwestiwn holl bwysig yw:

 

Sut ydych chi’n cael darllenwyr i ymgysylltu â’r alwad i weithredu?

 

Dyma 7 cam i’ch helpu i weld cliciau a sgyrsiau o’ch galwadau i weithredu!

 

Byddwch yn glir

 

Un o’r pwyntiau pwysicaf yw sicrhau bod eich galwad i weithredu yn syml, yn glir ac yn gryno. Dylai fod yn amlwg i’r darllenwyr beth yn union rydych chi eisiau iddyn nhw ei wneud a dylai eich galwad i weithredu gynnig dolen neu gamau, a fydd yn ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i gwblhau’r weithred.  

 

Byddwch yn amlwg!

 

Mae angen i’r darllenwr fod yn ymwybodol o’ch galwad i weithredu, felly gwnewch yn siŵr ei bod yn bachu sylw. Gallai hyn fod yn rhywbeth mor syml â defnyddio botwm lliw llachar, neu gallech ddatblygu dyluniad creadigol i greu ymgysylltiad gweledol mwy. Mae hefyd yn bwysig ystyried lleoliad eich galwad i weithredu ar y dudalen. Peidiwch â gwneud i’r darllenwr chwilio amdani!

 

Mae annibendod yn wrthgynhyrchiol

 

Defnyddiwch y gofod gwyn neu ‘wag’ o gwmpas eich botwm neu ddolen galwad i weithredu. Os yw’r dudalen yn cynnwys gormod o destun a delweddau, neu eich bod chi’n ceisio cynnwys gormod o wybodaeth, efallai y bydd yr alwad i weithredu’n cael ei cholli ymhlith gweddill y cynnwys.

 

Rhowch reswm iddyn nhw glicio

 

Mae’n bwysig amlygu beth fydd y budd i’r darllenwr trwy gyflawni’r weithred. Mae defnyddwyr yn graff ac ni fyddant yn clicio ar unrhyw beth! Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cyfleu’r gwerth y byddant yn ei gael trwy gyflawni’r weithred. Gallech gynnig rhodd neu hyrwyddiad arbennig am gwblhau’r weithred.

 

Byddwch yn wyliadwrus o’ch iaith

 

Defnyddiwch iaith weithredol neu daer yn eich galwad i weithredu i gymell y darllenwr i weithredu ar unwaith, yn hytrach na gadael iddyn nhw glicio i ffwrdd a datgysylltu â’ch busnes.  Mae hefyd yn bwysig ystyried defnyddio iaith gadarnhaol, nid negyddol. Dylai’r geiriad annog ac ysbrydoli’r darllenwr i weithredu (fel darganfod, dysgu neu ennill). Dylech osgoi defnyddio iaith sy’n awgrymu ymdrech neu waith i gyflawni’r weithred.

 

Dylech bob amser gynnwys galwad i weithredu

 

Pa bynnag bryd y bydd cwsmer ar eich gwefan, dylai fod galwad i weithredu. Gall y gweithrediadau amrywio gan ddibynnu ar y dudalen we neu’r math o gynnwys y maent yn ei weld, ond dylai pob rhan o’ch gwefan neu ddarn o farchnata fod yn gyfle i drosi.

 

Peidiwch ag anghofio’r daith

 

Ar ôl i chi berffeithio copi, dyluniad a lleoliad eich galwad i weithredu, mae’n hanfodol eich bod chi’n ystyried y cynnwys amgylchynol a’r broses ar ôl i’r darllenwr glicio drwodd. Dylai’r cynnwys cyfagos roi cyd-destun y galwad i weithredu ac arwain y darllenwr tuag ati. Ar ôl i’r darllenwr glicio ar y ddolen, rhaid ei bod hi’n hawdd cyflawni’r weithred. Gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n cael eu cyfeirio o’r dudalen we briodol a bod yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gael.

 

Gall galwad i weithredu wych wneud y gwahaniaeth rhwng trosiad a cholli cwsmer posibl, felly mae’n werth chweil buddsoddi ychydig o amser mewn datblygu galwad i weithredu effeithiol, ddeniadol.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen