Gyda Facebook bellach yn denu 1.23 biliwn o ddefnyddwyr bob dydd, mae’n bwysig bod eich busnes chi yn datblygu presenoldeb effeithiol ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn denu rhan o’r farchnad gwsmeriaid hon.

 

Os ydych chi’n ystyried datblygu eich tudalen fusnes Facebook eich hun er mwyn datblygu eich cynulleidfa, rhoi hwb i werthiant a denu ymwelwyr i’ch gwefan, darllenwch y 9 cam y gallwch eu cymryd er mwyn sicrhau bod eich proffil yn perfformio’n effeithiol.

 

Sicrhewch fod eich brandio’n gyson ac yn canolbwyntio ar yr ymgyrch

 

Dylai’r brandio ar eich tudalen Facebook fod yn broffesiynol ac yn gyson. Mae’n hollbwysig bod eich delweddau proffil a phennyn yn adlewyrchu eich logo a’ch brandio er mwyn sicrhau bod pobl yn adnabod ac yn ymddiried yn eich brand. Gan eich bod yn rhedeg ymgyrchoedd trwy gydol y flwyddyn, gallech ddiweddaru eich delweddau proffil er mwyn canolbwyntio ar ymgyrchoedd penodol a chynyddu ymwybyddiaeth.  

 

Cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol yn eich adran ‘amdanom ni’

 

Diweddarwch eich adran ‘amdanom ni’ yn rheolaidd, gan gynnwys manylion perthnasol am eich busnes. Gallai hynny gynnwys lleoliadau, oriau agor, manylion cyswllt a dolenni gwefan. Gwnewch yn siŵr bod eich cynulleidfa’n gwybod pwy ydych chi a’r hyn rydych yn ei wneud. Mae’r wybodaeth hon yn cefnogi eich gweithgareddau optimeiddio chwilotwyr trwy ddarparu mwy o gyd-destun a manylion am eich busnes. Mae hynny’n hynod fanteisiol mewn perthynas ag optimeiddio chwilotwyr lleol. 

 

Cynllunio eich cynnwys

 

Peidiwch â phostio’n ddireolaeth a dechrau rhannu unrhyw beth a phopeth ar unwaith. Er bod diweddaru eich tudalen fusnes Facebook yn arfer da, mae’n bosibl i chi bostio gormod. Trwy orlwytho llinellau amser eich cynulleidfa gyda chynnwys amherthnasol a gormodol, gallwch ymddieithrio darpar gwsmeriaid. Gallwch osgoi postio gormod o gynnwys trwy greu amserlen o weithgarwch a chadw lle ar gyfer cynnwys amser real yn ogystal.

 

Sicrhau cydbwysedd rhwng gwerthu a chynnwys atyniadol

 

Nid llwyfan gwerthu yw eich tudalen fusnes Facebook. Er bod proffiliau cyfryngau cymdeithasol yn darparu llwyfan allweddol ar gyfer hyrwyddo eich busnes a gyrru gwerthiant, dylech ganolbwyntio’n bennaf ar rannu cynnwys defnyddiol ac atyniadol. Cyflwynwch eich busnes fel arweinydd agweddau neu frand amlwg yn eich maes trwy rannu blogiau, ffotograffau, fideos, cyngor gorau a newyddion a fydd yn creu diddordeb ac yn taro deuddeg gyda’ch cynulleidfa. Dylech geisio postio un neges gwerthiant am bob 5 neges nad ydynt yn ymwneud â gwerthiant.

 

Targedu a rhannu eich pyst i sicrhau mwy o effaith 

 

Manteisiwch i’r eithaf ar opsiynau targedu pyst Facebook er mwyn sicrhau bod eich negeseuon yn cyrraedd rhan gywir eich cynulleidfa. Gallech dargedu eich pyst yn unol â nifer o opsiynau, gan gynnwys rhyw, statws perthynas, diddordebau, oedran, lleoliad ac iaith. Er bod posibilrwydd y bydd targedu yn lleihau nifer y proffiliau rydych yn eu cyrraedd, gall culhau eich dosbarthu mewn ffordd ddoeth ddenu ymateb mwy ymgysylltiol.

 

Gwerthuso perfformiad eich tudalen

 

Bydd gwerthuso pa mor dda mae eich pyst a’ch tudalen yn perfformio’n gyffredinol yn eich galluogi chi i wneud gwelliannau angenrheidiol i’ch gweithgareddau cymdeithasol. Ystyriwch adolygu’r math o gynnwys rydych yn ei rannu, pryd rydych chi’n ei rannu a pha mor dda mae eich cynulleidfa’n ymgysylltu â’ch tudalen. Nid yn unig bydd deall y data hwn yn eich cynorthwyo chi i ymgysylltu’n well gyda’ch cynulleidfa bresennol, bydd yn eich helpu chi i ddatblygu eich cynulleidfa ymhellach. Unwaith y byddwch yn dod i arfer ag adolygu eich perfformiad, gallwch ganolbwyntio eich ymdrechion ar yr hyn sy’n gweithio a newid yr hyn nad yw’n gweithio.

 

Peidiwch â dibynnu ar byst ysgrifenedig yn unig

 

Mae yna ystod eang o fathau o gynnwys gwahanol y gallwch eu rhannu ar Facebook, gan gynnwys fideos brodorol. Mae fideos Facebook yn cynnig ffordd ardderchog o fynnu sylw eich cynulleidfa, yn enwedig gyda’r nodwedd ‘auto play’. Sicrhewch fod eich fideos yn apelio i emosiynau eich cynulleidfa neu’n cynnig blas o rywbeth defnyddiol neu ddiddorol. Cadwch e’n sionc ac yn atyniadol, oherwydd mae’n hawdd i wylwyr rolio i lawr. Y nod yw cipio a chadw eu sylw!

 

Ymatebwch i’r sylwadau

 

Mae’n bwysig cymryd yr amser i ymateb i sylwadau neu gwestiynau ar eich tudalen Facebook cyn gynted ag y bo modd. Yn achos busnesau bach, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu gwirio eich proffil mwy nag unwaith y dydd, ond gallwch ddefnyddio’ch amser yn effeithiol. Sicrhewch eich bod yn pennu amser bob dydd i adolygu eich hysbysiadau a sicrhewch eich bod yn ymateb i’ch cwsmeriaid. Os bydd eich cynulleidfa’n gweld eich bod yn ymateb, maen nhw’n fwy tebygol o ymgysylltu ac ystyried eich busnes mewn ffordd gadarnhaol o gymharu â busnesau sy’n anwybyddu eu cwsmeriaid.

 

Ceisiwch hysbysebu ar gyllideb

 

Wrth i chi fagu hyder a medrusrwydd o ran defnyddio Facebook at ddiben busnes, gallwch geisio gwella eich cynnwys ymhellach gyda chyllideb fechan. Defnyddiwch gynnwys sydd eisoes yn gweithio’n dda gyda’ch cynulleidfa oherwydd eich bod yn fwy tebygol o weld adenillion ar eich buddsoddiad. Dechreuwch gyda chyllideb fach er mwyn gweld sut mae’r llwyfan hysbysebu hwn yn gweithio o ran ehangu eich cyrhaeddiad, denu traffig i’ch tudalen a rhoi hwb i’ch cyfleoedd gwerthu.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen