Nid yw’r marchnata gorau ar gyfer eich brand bob amser yn dod o’ch busnes.

 

Mae marchnata dylanwadol yn cynnig llais a/neu lwyfan arall i chi i gyfleu negeseuon brand allweddol. Felly, p’un ai rydych yn eu talu neu’n eu hysbrydoli i siarad amdanoch chi, bydd pobl ddylanwadol yn help i ledaenu’r gair am eich busnes. 

 

Gall person dylanwadol fod yn unrhyw un, fel blogiwr, defnyddiwr YouTube, personoliaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, person enwog, person proffesiynol a berchir ym myd diwydiant. Yn syml, unrhyw un sydd â dilyniant arwyddocaol neu lais dylanwadol allai eich helpu i gyrraedd eich marchnad darged.

 

Fel arfer mae’r person dylanwadol wedi adeiladu llwyfan neu gynulleidfa trwy siarad am gynnwys, neu gynhyrchu cynnwys am bynciau penodol neu mewn arddull penodol sy’n taro deuddeg gyda’u dilynwyr. O ganlyniad, mae ganddynt y gallu i newid neu annog ymddygiad cwsmeriaid a phrynu penderfyniadau trwy greu perthnasoedd diogel gyda’u cynulleidfa.

 

Mae marchnata dylanwadol yn gweithio’n arbennig o dda law yn llaw gyda marchnata drwy’r cyfryngau cymdeithasol a chynnwys. Mae’r ddau fath hwn o farchnata yn darparu llwyfannau mawr er mwyn i’r person dylanwadol rannu ei deimladau, barn a phrofiadau o ddefnyddio eich brand chi – a’i gwneud yn hawdd i’r gynulleidfa gael gafael arno. 

 

Er enghraifft, gallai brand o emwaith weithio gyda blogiwr adnabyddus. Gofynnwch iddynt roi sylwadau ar eu blog am y gemwaith newydd y maent wedi ei dderbyn a’r hyn y maent yn ei feddwl ohono. Fel arall, gallai brand o golur anfon cynnyrch tymhorol at ddefnyddiwr YouTube poblogaidd a gofyn iddyn nhw arddangos sut y bydden nhw’n gwisgo’r nwyddau hyn mewn tiwtorial ar-lein.

 

Mae marchnata dylanwadol ychydig bach fel creu enw da ‘ar lafar’ gan ei fod yn cynnig argymhelliad dibynadwy gan  unigolyn yr ymddiriedir ynddo ac a berchir – ond ar raddfa lawer yn fwy. Drwy rannu teimladau a barn gyda’u cynulleidfa, y bwriad yw bod eu barn werthfawr yn annog y gynulledifa wrth uniaethu â’ch brand ymchwilio iddo neu ei brynu.

 

Cofiwch, gall busnes o unrhyw faint - mawr neu fach - elwa o farchnata dylanwadol.

Er y gallai fod yn ddrud i weithio gydag enwogion neu flogwyr sydd â miliynau o ddilynwyr, mae digon o bobl sydd newydd ddechrau ar eu gyrfa neu sy’n lleol ac sy’n ceisio datblygu perthnasoedd gyda brandiau. Nid maint eu cynulleidfa sy’n bwysig ond cyrhaeddiad posibl eich brand a’r modd y gallai daro tant.

 

Darllenwch 5 prif beth i’w hystyried os hoffech droi eich llaw at farchnata dylanwadol: 

 

Gyda phwy ydych chi eisiau gweithio?

 

Dechreuwch drwy ymchwilio i’r math o berson dylanwadol yr hoffech chi weithio gyda nhw (gan ystyried eich cyllideb). Ystyriwch arddull ac ansawdd y cynnwys y maent yn ei greu, y ffordd y maent yn cyfathrebu, y berthynas sydd ganddynt â’u cynulleidfa, y math o bobl sy’n eu dilyn ar-lein a’r math o frandiau y maent yn gweithio â nhw eisoes. Y ffactorau mwyaf pwysig i’w hystyried yw p’un ai yw eu personoliaeth a’u cynnwys yn cyd-fynd yn iawn â’ch brand chi a ph’un ai yw eu cynulleidfa yn addas ar gyfer yr hyn yr ydych chi’n ceisio ei gyflawni.

 

Yn bennaf oll, mae’n rhaid i’r berthynas fod yn berthnasol felly gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y person dylanwadol a’u cymuned cyn eich bod yn cysylltu â nhw.

 

Adeiladu perthnasoedd didwyll

 

Er bod ymgyrchoedd unigol yn gallu gweithio’n dda, mae’r marchnata dylanwadol gorau yn aml yn dod o berthnasoedd didwyll, sy’n parhau. Os byddwch yn cysylltu â rhywun sydd wir yn mwynhau eich brand neu’n credu yn eich busnes, maen nhw lawer yn fwy tebygol o ddangos angerdd onest tuag at eu cynulleidfa ac annog mwy o ymateb. Mae’r perthnasoedd parhaol hyn lawer yn fwy tebygol o olygu y bydd y person dylanwadol yn teimlo ei fod wedi ei ysbrydoli i siarad am eich brand ar-lein, hyd yn oed heb gael ei dalu am wneud.

 

Pa gynnwys ydych chi am ei ddatblygu?

 

A fyddai adolygiad ar-lein, sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, fideo neu flog yn gweithio orau ar gyfer eich brand chi?

 

Cynnwys yw calon marchnata dylanwadol felly ceisiwch weithio gyda rhywun sy’n cynnig y briodas berffaith rhwng cynnwys a dosbarthu ar gyfer eich brand chi. Byddwch am iddyn nhw greu rhywbeth sy’n adlewyrchu’ch brand yn gywir neu’n ei arddangos - ond sydd hefyd yn ei ddosbarthu ar draws y sianeli priodol sy’n debygol o esgor ar yr ymateb gorau. Ystyriwch eich anghenion chi ond hefyd y llwyfannau y mae’r person dylanwadol yn eu defnyddio’n llwyddiannus eisoes.

 

Meddyliwch am brofiadau, nid cynnyrch a gwasanaethau’n unig

 

Cynhwyswch eich pobl ddylanwadol, a hyd yn oed eu cynulleidfa mewn profiadau go iawn. Mae hon yn ffordd arbennig o dda i’r person dylanwadol greu cynnwys sy’n weledol ddiddorol a rhannu deunydd sydd llawer yn fwy diddorol i’r gynulleidfa na chynnyrch newydd neu wybodaeth ddiweddar am ddatganiadau i’r wasg.  Rhowch rywbeth i’r person dylanwadol y byddan nhw’n ymateb iddo ac y bydd wirioneddol eisiau ei rannu gyda’i gynulleidfa. Bydd hyn yn help i’r person dylanwadol a’r gynulleidfa gysylltu eich brand gyda phrofiadau da ac emosiynau cadarnhaol.

 

Cadwch gofnod o lwyddiannau

 

Sut fyddwch chi’n gwybod os yw marchnata dylanwadol (neu’r person dylanwadol penodol) yn gweithio i chi? Efallai y byddwch am edrych ar faint o ymgysylltiad mae trydariad a noddwyd yn ei gael, faint o werthiant y mae eich cod gostyngiad ariannol yn ei gofnodi, y nifer o ymweliadau i dudalen lanio neu ba mor gyflym mae cynnyrch newydd yn gwerthu allan. Wrth gofnodi llwyddiant yr ymgyrch, gallwch ddechrau cyfrifo gwerth llwyfan a llais y person drwy adolygu’r llwyddiannau ochr yn ochr â’r gost o weithio gyda nhw.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen