Os ydych chi’n canolbwyntio eich holl sylw ar Twitter, Facebook ac efallai hyd yn oed Instagram, gall fod yn hawdd anghofio pa mor bwysig allai Pinterest fod i’ch busnes. Oherwydd ym mis Medi 2017, roedd gan Pinterest 200 miliwn o ddefnyddwyr brwd bob mis.

 

Ac mae llawer iawn mwy iddo na dim ond chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer priodasau, ryseitiau a syniadau ar gyfer y tŷ!

 

Os nad ydych chi eisoes yn manteisio ar yr elfen allweddol hon o’r maes cyfryngau cymdeithasol, darllenwch fwy i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wybod am Pinterest a sut gallwch chi ei ddefnyddio i hyrwyddo eich busnes.

 

Beth yw Pinterest?

 

Beth am ddechrau gyda’r pethau sylfaenol.

 

Mae Pinterest yn wasanaeth rhannu cynnwys sy’n gadael i’w aelodau ‘binio’ lluniau, fideos a gwahanol gyfryngau ar eu pinfwrdd rhithiol eu hunain. Ydych chi’n cofio torri lluniau allan o gylchgrawn a’u gosod mewn llyfr lloffion; wel, Pinterest yw’r ffurf ddigidol!

 

Mae’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol yn ferw o ysbrydoliaeth ac mae’n helpu defnyddwyr i chwilio, rheoli a chadw syniadau ar unrhyw bwnc dan haul. Mae Pinterest yn gadael i fusnesau greu tudalennau i hyrwyddo eu busnes – gan ymddwyn fel ffenestr siop i frandiau.

 

Sut gallai eich busnes ddechrau defnyddio Pinterest?

 

Ar ôl creu cyfrif, mae’n bryd dechrau meddwl am yr hyn ddylech chi ei bostio a sut galli eich proffil eich helpu i greu mwy o fusnes.

 

Dyma 5 o’n hawgrymiadau cychwynnol

 

Dechreuwch â chynnwys o safon

 

Mae’n bwysig creu lle ar gyfer y math o luniau, fideos a chyfryngau eraill rydych chi am eu rhannu. Does dim angen i chi ddod yn ffotograffydd proffesiynol dros nos, ond dylech rannu cynnwys o safon uchel. Gall ffôn clyfar o safon dynnu lluniau gwych erbyn hyn. Yn anad dim, dylai eich cynnwys fod yn ddeniadol, yn ddiddorol a dylai adlewyrchu eich brand. Meddyliwch am yr hyn yr hoffech chi ei gael allan o’r llwyfan a bydd hyn yn eich helpu i ddewis y cynnwys rydych chi’n ei rannu.

 

Byddwch yn berthnasol

 

Er bod safon yn allweddol ar gyfer arddangos eich proffesiynoldeb, mae angen i chi ystyried cynnwys eich lluniau. Pwy ydych chi’n ei dargedu? Pa fath o gynnwys mae eich cystadleuwyr neu fusnesau tebyg yn ei rannu? Pa fath o gynnwys mae eich cynulleidfa yn ei binio yn barod? Ystyriwch sut gall eich busnes gyfrannu.

 

Nid dim ond lluniau sy’n bwysig

 

Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi ddefnyddio copi ysgrifenedig ar eich proffil a’ch piniau Pinterest er mwyn annog mwy o ymgysylltiad. Beth am wneud y canlynol:

 

  • Rhowch enw strategol ar eich ffeiliau gan ddefnyddio geiriau disgrifiadol a geiriau amgen i allu chwilio (a chanfod) eich lluniau’n rhwydd

  • Defnyddiwch ddisgrifiadau piniau i ychwanegu at werth eich lluniau (megis awgrymiadau a ffeithiau diddorol)a manteisiwch ar y cyfle i gynnwys allweddeiriau

  • Dylech gynnwys dolenni yn ôl i’ch gwefan i ysgogi mwy o drosiant.

 

Ynghyd â defnyddio geiriau, gallwch greu argraff trwy ddefnyddio gwahanol fathau o gynnwys. Meddyliwch am gynnwys sydd ddim yn ymddangos yn Pinterest yn aml. Ystyriwch rannu fideos YouTube, podlediadau diddorol, sioe sleidiau addysgiadol neu ffeiliau sain.

 

Byddwch yn weithgar

 

Peidiwch â dibynnu ar eich cwsmeriaid i wneud yr holl waith. Er mwyn cael y gorau allan o unrhyw lwyfan cyfrwng cymdeithasol, rhaid i’ch busnes fod yn weithgar hefyd. Ynghyd â chyfathrebu â’r rhai sy’n gadael sylwadau ar eich postiadau, gallech greu bwrdd grŵp i gydweithio â’ch cwsmeriaid, neu greu cymuned ar-lein ar eu cyfer. Dilynwch fusnesau eraill yn y diwydiant neu rai a'ch ysbrydolodd i greu eich tudalen eich hunan ac edrychwch beth allech chi ei ddysgu er mwyn gwella eich cynnwys eich hunan.

 

Defnyddio gwasanaethau dadansoddi er mwyn gwella

 

Mae sefydlu tudalen fusnes ar Pinterest yn ffordd wych o gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydych chi’n perfformio. Manteisiwch ar y gwasanaeth dadansoddi (analytics) i weld faint o ddefnyddwyr sy’n ymweld â’ch tudalen, nifer yr ailbiniadau, a’r cynnwys sy’n perfformio orau gennych. Pan fyddwch chi wedi gosod llinell sylfaen o weithgarwch ac rydych chi’n gyfforddus yn defnyddio’r llwyfan, gallwch wneud newidiadau er mwyn gweithio’n agosach â defnyddwyr.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen