Ers i'r pandemig ddechrau, mae busnesau wedi dod i ddibynnu ar dechnoleg ddigidol yn awr yn fwy nag erioed. Gan mai gweithio hybrid yw’r normal newydd erbyn hyn, mae cyfathrebu ac addasu digidol wedi dod yn hanfodol. Mae gwaith tîm gwych yn dibynnu ar strwythur cadarn o brosesau wedi'u trefnu, rhannu cydweithredol, ac adborth effeithiol. Fodd bynnag, gall cyflawni'r modd gorau o weithio mewn tîm fod yn her i fusnesau yn aml, yn enwedig ers i'r pandemig ddechrau. P'un a oes anghytundebau ynghylch syniadau, amcanion amwys neu gynnydd aneglur gyda thasgau, gall gwaith tîm fod yn achos dadlau ymhlith cyflogeion ac yn niweidiol i lwyddiant prosiect. 

 

Dyma 4 ffordd y gall technoleg ddigidol helpu i drawsnewid gwaith tîm o fod yn gythryblus i fod yn fuddugoliaethus! 

 

1. Meddalwedd rheoli prosiectau

Gall meddalwedd rheoli prosiect ddarparu llwyfan cyffredinol gwych i alluogi timau i fonitro cynnydd prosiect. Yn hytrach na chreu dryswch ynghylch lle mae gwybodaeth yn cael ei storio, pwy sydd wedi gorffen beth a beth sydd ar ôl i'w gwblhau, bydd offeryn rheoli prosiect yn rhoi trosolwg cyflawn i'r tîm i helpu cydlynu'r holl weithgarwch sy'n digwydd o fewn prosiect. Mae llawer o feddalwedd i helpu lleddfu straen prosiect, fel Trello a Monday.  

Darganfyddwch amrywiaeth o opsiynau meddalwedd rheoli prosiect a allai fod o fudd i'ch busnes trwy lawrlwytho Cyfeiriadur rhad ac am ddim Meddalwedd Cyflymu Cymru i Fusnesau.

2. Y cwmwl

Gall rheoli eich busnes yn y cwmwl fod yn ffordd wych o hwyluso gweithio hyblyg ac ystwyth. Os oes gennych aelodau tîm yn gweithio mewn gwahanol leoliadau neu wrth fynd, yna gallai'r cwmwl wella hygyrchedd gweithwyr i ffeiliau tîm a diweddariadau mewn meddalwedd rheoli prosiect. Drwy roi mynediad cyson a chyfredol i'ch tîm at wybodaeth, gallwch gyfyngu ar unrhyw oedi i waith prosiect neu rwystredigaethau o ran mynediad i'r aelodau hynny o'r tîm nad ydynt efallai'n gweithio mewn swyddfa. Mae meddalwedd cwmwl fel Microsoft Teams a SharePoint wedi dod yn norm newydd.  

 

3. Meddlawedd rhannu ffeiliau

Gall technoleg ddigidol helpu dileu ffrithiant o'r broses o rannu ffeiliau a gwybodaeth rhwng aelodau'r tîm. Gall meddalwedd rhannu ffeiliau helpu staff i drosglwyddo ffeiliau mawr a sicrhau bod copïau cyfredol yn cael eu defnyddio gan holl aelodau'r tîm. Ochr yn ochr â gwella'r broses gydweithredol, gall rhannu ffeiliau helpu gwella gweithleoedd ar-lein yr unigolion drwy glirio eu mewnflwch e-bost o nifer o ddogfennau. Mae defnyddio safleoedd rhannu ffeiliau fel WeTransfer yn ffordd wych o wneud gwaith tîm yn hawdd.  

 

4. Fideogynadledda

Os nad yw eich timau wedi'u lleoli yn yr un lleoliad, neu'n ei chael hi'n anodd ymrwymo i gyfarfodydd wyneb yn wyneb, gallai trafod trwy fideo gynnig ateb cost isel. Gall cynadleddau fideo wella cyfathrebu ymhlith timau drwy sicrhau bod negeseuon yn cael eu rhannu, creu lle ar gyfer trafodaethau creadigol, a dileu rhwystrau a grëir drwy gyfathrebu ysgrifenedig neu'r angen i deithio i gyfarfodydd.  

Yn y pen draw, mae technoleg ddigidol yn cynnig nifer o fanteision i dimau gan y gall y llu o feddalwedd sydd ar gael helpu staff i gael eu cysylltu'n well, creu mwy o amlygrwydd ar gynnydd prosiectau a sicrhau bod cyfathrebu a chydweithredu yn brif flaenoriaeth. Mae'r 4 awgrym hyn yn cynnig man cychwyn gwych i gael eich timau i weithio'n fwy effeithiol, ond mae'r cyfleoedd yn ddiddiwedd! Profwch yr offer sy'n gweddu orau i'ch anghenion busnes a'ch gweithwyr i ddarganfod beth sy'n gweithio orau i chi. 

 

Darganfyddwch sut i weithio’n fwy clyfar ar un o’n gweminarau rhad ac am ddim 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen