Mae hybu cynhyrchiant gweithwyr nid yn unig yn wych i’ch busnes, ond gall helpu i wella morâl staff hefyd. Trwy annog gweithio’n fwy effeithiol trwy ddefnyddio technoleg yn well, gallwch gynyddu allbynnau gwaith o ansawdd uchel, creu amgylchedd weithio gwych a chaniatáu mwy o amser ar gyfer meddwl yn greadigol a gweithio ar brosiectau ychwanegol. 

 

Sut gallwch ddefnyddio technoleg i wella cynhyrchiant eich gweithwyr?

 

Cysylltu ar y cwmwl

 

Mae’r cwlwm yn llwyfan gwych i storio dogfennau a data o bell, yn hytrach nag ar galedwedd ffisegol mewn swyddfa. Gan y gellir rheoli prosiectau ar y cwmwl o un llwyfan a’i gyrchu o ble bynnag y mae gweithwyr wedi’u lleoli, gall y tîm gadw’n fwy cysylltiedig, cydweithio a chael y fersiynau diweddaraf o ffeiliau bob amser. 

 

Cynnal cyfarfodydd fideo-gynadledda

 

Mae offer fideo-gynadledda yn caniatáu i nifer o bobl mewn lleoliadau amrywiol gymryd rhan mewn ‘cyfarfodydd’ rhith. Gall hyn annog cyfathrebiadau mwy effeithiol ac amserol, gan ei fod yn cael gwared ar amser a wastraffir yn teithio ac oedi ar drafodaethau. Yn ogystal â chael gwared ar amser a wastraffir, gellir defnyddio’r math hwn o gyfathrebu’n rheolaidd i gynnal cyfarfodydd tîm, ymgysylltu â chleientiaid a chwsmeriaid, ac annog gweithwyr i gydweithio a rhannu diweddariadau ar gynnydd a syniadau.  

 

Gweithio hyblyg

 

Gan ddefnyddio technolegau digidol, fel y cwmwl a fideo-gynadledda, a dyfeisiau symudol fel llechi, gliniaduron a ffonau clyfar, gall eich gweithwyr fod yn symudol a chwim. Gyda’r gallu i gyfathrebu â chleientiaid, cwsmeriaid neu aelodau eraill o’r tîm, a chyrchu’r dogfennau sydd eu hangen arnynt, gall gweithwyr weithio i ffwrdd o’r swyddfa neu y tu allan i oriau gwaith ‘arferol’. Gallai’r hyblygrwydd hwn helpu i wella boddhad gweithwyr ac felly hybu cynhyrchiant.   

 

Dadansoddi!

 

Trwy wneud y mwyaf o offer sy’n dadansoddi perfformiad (er enghraifft, dadansoddeg gwe), gallwch osod nodau, monitro cynnydd ac adolygu lle mae angen gwneud newidiadau. Trwy ddeall sut mae eich busnes a’ch gweithgareddau’n datblygu, gallwch sicrhau bod gweithwyr yn gweithio’n effeithiol ar brosiectau a gwneud gwelliannau targedig lle bo’r angen. 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen