Os mai’ch bwriad yw creu, datblygu a chynnwys amrywiaeth o gynnwys digidol ar eich gwefan, yna mae’n debyg eich bod chi’n ystyried gosod neu fuddsoddi mewn System Rheoli Cynnwys (CMS). Fel arall, mae’n bosibl eich bod chi’n ystyried newid eich gwefan i system rheoli cynnwys.

 

Mae CMS yn gymhwysiad neu raglen meddalwedd a ddefnyddir i greu, addasu a rheoli cynnwys digidol. P'un a ydych yn mabwysiadu system newydd neu am gychwyn arni, gall symud i CMS fod yn fuddsoddiad mawr ar gyfer eich busnes. Er gall fod yn amser cyffrous, gallech wynebu anawsterau ar hyd y ffordd os na fyddwch yn dewis CMS sy’n addas ar gyfer eich anghenion penodol, eich gallu neu botensial ar gyfer twf. 

 

Mae cymaint o ddatrysiadau meddalwedd gwahanol ar gael y mae dewis y CMS cywir yn ymddangos i fod yn dasg frawychus. Dyma 6 chwestiwn y dylech ofyn i’ch hun neu eich dylunydd gwe i wneud yn siŵr eich bod yn dewis y System Rheoli Cynnwys sy'n addas ar eich cyfer chi. 

 

Dyma 9 pheth pwysig i’w hystyried cyn i chi fuddsoddi mewn system CMS:

 

Ystyriwch ffioedd, costau ac opsiynau llwyfannau

 

Ceir nifer o wahanol opsiynau cost ar gyfer CMS. Ceir llwyfannau am ddim neu’r rheiny sydd angen eu prynu.  Ceir hefyd opsiynau meddalwedd sy’n gofyn am danysgrifiad er mwyn eu defnyddio nhw. Ynghyd â deall y gyllideb tanysgrifio barhaus neu ffi unwaith ac am byth ar gyfer y drwydded meddalwedd, mae'n hanfodol eich bod yn ystyried unrhyw gostau a allai fod yn gysylltiedig ag estyniadau, ategion neu ddiweddaru eich meddalwedd. Er bod costau’n bwysig, ni ddylai fod yr elfen bwysicaf o ran eich penderfyniad gan y bydd angen i chi ystyried y canlynol hefyd...

 

Beth yw'r nodweddion sydd ar gael?

 

Mae llwyfannau CMS yn aml yn brolio nifer o nodweddion sydd naill ai'n dod 'allan o'r bocs' neu y gellir eu hychwanegu’n benodol gyda ategyn neu ychwanegyn. Ystyriwch eich anghenion penodol a’r nodweddion a'r nodweddion a fydd yn hanfodol (ar hyn o bryd ac yn y dyfodol) gan fydd angen i chi siicrhau fod y darpar CMS yn cynnig y rhain neu’n gallu cael eu hychwanegu ato. Os oes gennych nodweddion allweddol a fydd yn hanfodol i lwyddiant eich safle, efallai y byddwch am deilwra'r chwilio i lwyfannau sydd wedi'u canoli ar y nodwedd honno hyd yn oed.

 

Oes opsiynau cymuned a chymorth?

 

Gall symud o un CMS i’r llall fod yn dasg gymhleth. Unwaith y byddwch wedi penderfynu ac wedi sefydlu ar eich llwyfan newydd, mae’n debygol y byddwch yn ei ddefnyddio am sbel. Bydd system CMS gyda chymuned dda o weithwyr proffesiynol a chwmnïau sy'n cysylltu drwy fforwm yn fuddiol a gallwch gael mynediad at amrywiaeth o gefnogaeth a chyngor sy’n ymwneud â’r cynnyrch. Yn yr un modd, bydd deall y lefel o gefnogaeth sydd ar gael gan y darparwr yn bwysig, pe baech yn cael unrhyw anawsterau.

 

A yw’n hawdd golygu cynnwys?

 

P'un a oes gennych brofiad o CMS ai peidio, mae'n bwysig eich bod yn cael gwybod pa mor hawdd yw hi i wneud pethau syml fel golygu testun, mewnosod delweddau neu lwytho dogfennau. Hefyd, ystyriwch adolygu'r broses ar gyfer gweithgareddau rheolaidd y byddwch yn ymgymryd â nhw ar y safle, megis ychwanegu tudalennau gwe, llwytho blogiau neu gynnwys fideos ar y dudalen hafan. Er gall y system edrych yn wych i ddechrau, mae'n hanfodol bod y CMS yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn hygyrch i aelodau o staff sy’n deall technoleg a'r rhai sydd ddim. 

 

Sut mae eich gwybodaeth dechnegol?

 

Os ydych yn hyderus gyda dylunio gwe ac yn rhugl yn HTML a CSS, bydd datrysiad megis Drupal sy'n rhoi mynediad i chi i'r cod yn addas iawn ar gyfer eich busnes. Fodd bynnag, os oes gennych wybodaeth gyfyngedig o godio (neu dim o gwbl) bydd angen i chi ddod o hyd i system sy'n gwneud hyn ar eich rhan. Mae llwyfan, megis webydo yn cynnig y gallu i ffurfio gwefan heb god. Fel arall, gallech benderfynu defnyddio CMS sydd â pheth hyblygrwydd. Ychydig o wybodaeth dechnegol sydd angen i sefydlu teclyn fel Wordpress, ond mae'n cynnig cyfle i chi chwarae gyda’r cod wrth i chi ddod yn fwy medrus.

 

Oes modd integreiddio dadansoddeg gwefannau? 

 

Pa bynnag system rheoli cynnwys a ddewiswch, dylech wneud yn siŵr eich bod yn gallu tracio perfformiad eich safle. Cymerwch olwg ar sut mae eich darpar CMS yn integreiddio gydag offeryn dadansoddeg gwefan, megis Google Analytics. Darllenwch ein blog am prif awgrymiadau i roi hwb i'ch safle peiriannau chwilio.

 

Pa mor gryf yw’r diogelwch?

 

Wrth ymchwilio i'r gwahanol opsiynau sydd ar gael, sicrhewch eich bod edrych ar unrhyw risgiau neu faterion diogelwch posibl. Wyddoch chi pa nodweddion diogelwch sydd ar waith? Beth fyddai'n digwydd pe bai'r llwyfan yn cael ei hacio? Cymerwch amser i ddarllen adolygiadau o'r llwyfan ar-lein i weld beth sydd gan ddefnyddwyr go iawn i'w ddweud am y diogelwch, defnyddioldeb a’r llwyfan yn gyffredinol. 

 

A yw'r CMS yn gweithio gyda'ch ffurfweddiad TG bresennol?

 

Un o'r pethau pwysicaf y bydd angen i chi ei wneud yw edrych a yw'r CMS arfaethedig yn gweithio gyda'ch system bresennol. Os ydych yn dechrau o'r dechrau, bydd gennych fwy o hyblygrwydd i ddod o hyd i systemau sy'n gweithio'n dda gyda'i gilydd. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn darganfod nad yw eich darparwr cynnal gwefan presennol yn gydnaws â rhai CMS. Holwch eich adran TG, dylunydd neu adolygwch eich systemau i wneud yn siŵr bod y gwahanol lwyfannau yn gydnaws cyn i chi fuddsoddi. 

 

Ydych chi’n ystyried eich opsiynau CMS?

 

Cymerwch olwg ar Gyfeiriadur Meddalwedd Cyflymu Cymru i Fusnesau i ddarganfod rhai o'r llwyfannau CMS allweddol sydd ar gael. Mae’r cyfeirlyfr Meddalwedd yn hawdd i’w ddefnyddio ac ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen