Wrth i ddefnyddwyr ddod yn fwyfwy craff o ran technoleg, ac wrth i’w bywydau ddod yn fwy symudol, nid oes unrhyw syndod bod mabwysiadu dyfeisiau amrywiol yn dod yn fwy cyffredin mewn gweithleoedd. Mae’r ffenomen a elwir ‘Dod â’ch Dyfais eich Hun’, yn dod yn boblogaidd gyda busnesau mawr a bach, fel ei gilydd.

 

Mae Dod â’ch Dyfais eich Hun yn cyfeirio at y tuedd lle mae gweithwyr yn dewis defnyddio eu dyfeisiau personol yn y gweithle yn hytrach na, neu’n ychwanegol at, offer y swyddfa.  Mae hyblygrwydd dyfeisiau’n golygu bod gan weithwyr mwy o reolaeth a chyfleustra  o ran pryd, ble a sut maen nhw’n cyflawni eu gwaith. Gall y rhyddid a roddir gan bolisi Dod â’ch Dyfais eich Hun, nid yn unig hybu moral staff, ond cynhyrchiant, creadigrwydd, cyfathrebu a chydweithio hefyd.

 

Yn ôl arolwg byd-eang gan Gartner, bydd hanner y cyflogwyr yn gofyn i weithwyr gyflenwi eu dyfais eu hunain at ddibenion gwaith erbyn 2017. Amlygodd David Willis, Is-lywydd a Dadansoddwr yn  Gartner, mai strategaethau Dod â’ch Dyfais eich Hun yw’r “newid mwyaf radical i economeg a diwylliant cyfrifiadura cleientiaid mewn busnes ers degawdau”. Er ei fod yn newid mawr i’r dirwedd busnes, mae’r buddion i fusnesau’n gymhellol, oherwydd gall cwmnïau greu “cyfleoedd ar gyfer gweithlu symudol newydd” ochr yn ochr â “chynyddu bodlonrwydd gweithwyr, a lleihau neu osgoi costau”.

 

Yn y cyfamser, fe wnaeth astudiaeth gan Capgemini Consulting ganfod bod prif fuddion Dod â’ch Dyfais eich Hun yn cynnwys “mwy o allu o ran gweithrediadau busnes”, “mwy o symudedd o ran y gweithlu”, “cynhyrchiant cynyddol gan weithwyr” ac “offeryn denu a chadw ar gyfer gweithwyr dawnus”.

 

Er ei fod yn fwy cyffredin mewn sefydliadau canolig a mawr, mae’r tuedd Dod â’ch Dyfais eich Hun yn darparu cyfleoedd enfawr i fusnesau bach sydd eisiau “bod yn symudol heb fuddsoddiad mawr mewn dyfeisiau a gwasanaethau”.

 

Os ydych chi eisiau manteisio ar ffenomen ddigidol Dod â’ch Dyfais eich Hun, dyma 4 awgrym pwysig y dylech eu hystyried i sicrhau eich bod chi’n elwa ar y duedd i’w lawn botensial, a sicrhau bod eich busnes yn cael ei ddiogelu’n iawn.

 

A yw Dod â’ch Dyfais eich Hun yn addas i’ch busnes chi?

 

Peidiwch â mabwysiadu polisi Dod â’ch Dyfais eich Hun yn syth heb ystyried a yw’n angenrheidiol, buddiol neu realistig i’ch busnes. Bydd polisi Dod â’ch Dyfais eich Hun yn ased i’ch busnes os oes gennych reswm i feddwl y bydd yn gwella prosesau neu gynhyrchiant staff, nid oherwydd ei fod yn boblogaidd. I ddechrau, mae’n hollbwysig ystyried a allai eich busnes elwa ar bolisi Dod â’ch Dyfais eich Hun. Petai’n gallu, y cam nesaf yw ystyried a yw’n realistig a chyfiawnadwy integreiddio dyfeisiau personol yn y gweithle.

 

Bydd angen i chi siarad â’ch staff TG ynghylch a allan nhw ymdrin â’r llu o ddyfeisiau posibl a allai gael eu defnyddio gan staff, ynghyd ag a yw’ch meddalwedd a llwyfannau presennol yn cydweddu â’r dyfeisiau hyn. Os na, efallai y bydd polisi Dod â’ch Dyfais eich Hun yn fwy costus nag a ragwelir.

 

Creu strategaeth gyflwyno

 

Ar ôl i chi benderfynu y gallai strategaeth Dod â’ch Dyfais eich Hun wella hyblygrwydd, gallu a chynhyrchiant eich busnes, a’ch bod chi wedi gosod yr holl waith sylfaen angenrheidiol, mae’n bwysig llunio strategaeth gyflwyno. Dylai eich strategaeth gyflwyno ystyried ffactorau allweddol, fel pryd a sut gall staff ddechrau defnyddio’u dyfeisiau, unrhyw ddiweddariadau a all fod angen eu cyflawni, ac amserlenni penodol ar gyfer cyflwyno’r polisi ar draws y  cwmni. Nid yn unig y bydd hyn yn helpu i integreiddio polisi yn llawer fwy esmwyth , ond bydd yn helpu i reoli  disgwyliadau gweithwyr. Gyda strategaeth ar waith, gallwch hefyd ystyried mesur sut caiff y polisi Dod â’ch Dyfais eich Hun ei fabwysiadu, unrhyw broblemau a wynebir ac a yw’r polisi’n darparu buddion disgwyliedig (neu ychwanegol) i’r busnes.  

 

Gosod rheolau a chanllawiau clir i’r staff

 

Yn ogystal â darparu strwythur i staff ynghylch sut a phryd bydd y polisi Dod â’ch Dyfais eich Hun yn cael ei gyflwyno, bydd angen i chi ddiffinio a rhannu rheoliadau a chanllawiau clir ar sut y gellir ac ni ellir defnyddio dyfeisiau personol, yn y gweithle a thu allan. Gwnewch yn siŵr bod y canllawiau hyn yn eglur ac y gellir dod o hyd iddyn nhw’n hawdd, er mwyn i’r staff gael dealltwriaeth lem o beth sy’n briodol o ran y dyfeisiau gwahanol y gallan nhw fod yn eu defnyddio at ddibenion gwaith. 

 

Gwneud diogelwch yn flaenoriaeth

 

Y peth pwysicaf i’w ystyried wrth fabwysiadu polisi Dod â’ch Dyfais eich Hun yw diogelwch. Beth fydd yn digwydd os caiff dyfais gweithiwr ei cholli neu ei dwyn? Sut gall staff gyrchu data trwy eu dyfais a lle caiff ei storio? Sut ydych chi’n gwybod pwy sy’n cyrchu’ch rhwydwaith? Dyma rai o’r cwestiynau y bydd angen i chi fynd i’r afael â nhw. Yn ffodus, mae amrywiaeth o feddalwedd ar gael a all helpu i ddiogelu eich busnes a’r dyfeisiau a ddefnyddir. Mae meddalwedd Mobile Device Management yn rhoi’r gallu i chi reoli’r dyfeisiau sy’n cael eu defnyddio trwy orfodi a monitro polisi diogelwch, rhwystro mynediad o ddyfais nad yw’n cydymffurfio, amgryptio ffeiliau sensitif a’ch caniatáu chi i gael gwared ar ddata o bell, oddi ar ddyfeisiau wedi’u colli neu eu dwyn.

 

Darganfyddwch rhywfaint o’r feddalwedd sydd ar gael i ddiogelu eich busnes yng Nghyfeiriadur Meddalwedd Cyflymu Cymru i Fusnesau. Lawrlwythwch eich copi rhad ac am ddim nawr!

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen