Daw’r Nadolig â nifer o heriau a gofynion newydd i fusnesau. Mae'r cyfnod prynu prysur yn golygu bod angen i fusnesau reoli llif o draffig gwyliau, cynnydd mewn gwerthiant a chwsmeriaid newydd, tymhorol. Fodd bynnag, ar ôl tynnu’r tinsel a bwyta’r mins pei olaf, yr her nesaf yw cael y cwsmeriaid tymhorol 'anwadal' hynny i barhau i ddychwelyd at eich busnes ymhell ar ôl i’r gwyliau ddod i ben.

 

Sut allwch chi ddechrau meithrin teyrngarwch cwsmeriaid dros y Nadolig?

 

Manteisiwch ar y cyfle i adeiladu eich rhestr e-bost

 

Bob tro bydd rhywun yn ymweld â’ch gwefan neu yn prynu oddi wrthych, mae gennych gyfle i drosi’r defnyddiwr yn danysgrifiwr e-bost. Bydd tyfu eich rhestr e-bost yn ystod y cyfnod prysur hwn yn sicrhau bod gennych ddull cyfathrebu uniongyrchol i gysylltu gyda thanysgrifwyr ar ôl y Nadolig a bydd yn fodd i chi ddechrau datblygu perthynas tymor hir. Gwnewch yn siŵr fod y botwm cofrestru ar gyfer e-bost mewn safle amlwg ar eich gwefan a bod y ffurflen danysgrifio yn hawdd a chyflym i'w llenwi.

 

Hyrwyddwch eich sianeli cyfryngau cymdeithasol

 

Mae cadw mewn cysylltiad rheolaidd (ond perthnasol!) yn ffordd hanfodol i gadw diddordeb cwsmeriaid. Mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o gyfathrebu eich personoliaeth brand a gwell dealltwriaeth o'ch busnes i gwsmeriaid. Mae'r dull cyflym, deinamig hwn o gyfathrebu yn ffordd hawdd i rannu cynigion, cynnyrch, cynnwys a gwybodaeth newydd gyda'ch cynulleidfa. Gosodwch y botymau cyfryngau cymdeithasol mewn lle amlwg ar eich gwefan a gyrrwch danysgrifwyr e-bost i’ch dilyn ar eich sianeli.

 

Anogwch gwsmeriaid i ddychwelyd gyda gostyngiadau ar ôl y Nadolig

 

Temtiwch gwsmeriaid i brynu oddi wrthych yn y Flwyddyn Newydd gyda gostyngiadau arbenigol ar ôl y Nadolig. Bydd cynigion sy’n sensitif i amser yn helpu cwsmeriaid newydd i gadw eich brand mewn cof ar ôl hwyl yr ŵyl a bydd yn rhoi cyfle i ail-ymgysylltu â chwsmeriaid gyda’r newyddion diweddaraf wrth i’r dyddiad dod i ben nesáu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu gostyngiadau perthnasol a realistig gan y bydd cwsmeriaid yn debygol o fod yn fwy craff am sut maen nhw’n gwario ar ôl y Nadolig.

 

Creu cynllun cerdyn teyrngarwch

 

Os nad ydych eisoes wedi mabwysiadu cynllun 'cerdyn teyrngarwch' poblogaidd, mae’r cyfnod cyn y Nadolig yn amser perffaith i gychwyn arni. Os yw eich busnes yn canolbwyntio'n benodol ar brynu pethau dro ar ôl tro yn aml, gallai cerdyn teyrngarwch fod yn offeryn gwych i helpu cwsmeriaid i ddewis eich brand dros gystadleuwyr. Denwch gwsmeriaid gyda gwobrau deniadol a hyrwyddwch eich cynllun teyrngarwch drwy eich pwyntiau cyswllt a gweithgarwch marchnata ar-lein.

 

Ychwanegwch y cysylltiad personol hollbwysig

 

Yn ystod y cyfnod hwn o roi, gwnewch yn siŵr eich bod yn ychwanegu arlliw personol i’ch gweithgarwch marchnata a chyfathrebu. Gallai hyn fod mor syml â phersonoli e-bost marchnata neu anfon e-bost pwrpasol gan y rheolwr yn dymuno hwyl yr ŵyl hapus i bawb. Dyma'r math o ymddygiad fydd nid yn unig yn gwneud i gwsmeriaid deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ar y pryd, ond hefyd yn golygu bod eu canfyddiad o’r brand yn parhau i fod yn gadarnhaol.

 

Dathlwch eich cwsmeriaid ffyddlon

 

Ceir llawer  o gyfleoedd i gynyddu nifer eich cwsmeriaid newydd dros gyfnod y Nadolig, fodd bynnag, mae'n hanfodol nad ydych yn esgeuluso’r cwsmeriaid hynny sydd eisoes yn driw i’ch busnes! Cymerwch amser i ddiolch iddynt am ddefnyddio eich busnes ac ystyriwch anfon gostyngiadau personol iddynt ar gyfer cyfnod y Nadolig. Bydd gwneud y pethau bychain yn gymorth i roi eich busnes uwchlaw cystadleuwyr a sicrhau bod cwsmeriaid ffyddlon yn aros gyda'ch busnes gydol y flwyddyn.

 

Chwilio am gyngor i helpu i roi hwb i'ch gweithgarwch marchnata digidol ac ar-lein cyn y Nadolig?

 

Ymunwch â Chyflymu Cymru i Fusnesau mewn Dosbarth Meistr Marchnata Digidol ac Ar-lein i gael cyngor ymarferol. Cofrestrwch nawr!

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen