Gallai System Rheoli Perthynas â Chwsmeriaid (CRM) fod o fantais anferth ledled eich busnes, gan arwain at fwy o effeithlonrwydd, gwasanaeth cwsmeriaid gwell ac elw uwch. 

 

Mae’n bwysig eich bod yn mynd i’r afael â phrynu a gosod eich system CRM gyda gofal. Darllenwch ein syniadau isod sy’n cyflwyno’r prif gamau y dylech eu cymryd i ddeall eich anghenion busnes penodol er mwyn sicrhau eich bod yn dewis y system orau. 

 

Datblygwch eich strategaeth CRM

 

Pam mae eich busnes yn prynu system CRM? Mae hwn yn gwestiwn sylfaenol. Ystyriwch beth hoffech ei gyflawni gyda’ch CRM. Fyddech chi’n hoffi perthynas well gyda chleientiaid, gwasanaethau cwsmeriaid integredig neu adnabyddiaeth well o gyfleoedd masnachol? Dechreuwch trwy ddatblygu map ffocws ar gyfer eich CRM er mwyn sicrhau ei fod yn ateb y gofynion hyn.

 

Gwnewch archwiliad data

 

Y data sy’n bwysig ar system CRM. Aseswch sut mae eich busnes yn ymdrin â’r wybodaeth y mae’n ei chasglu a sut mae’n ei storio. Mae’n hanfodol bod y CRM yr ydych yn ei ddewis yn gallu mewnforio eich data ac integreiddio ffynonellau data gwahanol i un gronfa o wybodaeth y gall eich holl fusnes ei defnyddio.

 

Aseswch isadeiledd eich rhwydwaith

 

Wrth ddewis eich CRM, gallwch naill ai ei osod ar safle eich busnes neu ddefnyddio CRM sy’n seiliedig ar gwmwl. Pa bynnag un y byddwch yn ei ddewis, mae’n bwysig bod rhwydwaith mewnol eich busnes a’i gysylltiad â’r rhyngrwyd yn gyflym ac yn ddibynadwy. Mae eich CRM yn debygol o gael ei ddefnyddio’n gyson gan amrywiaeth o bobl fydd yn cael mynediad iddo ar wahanol declynnau, weithiau y tu allan i’ch swyddfa. 

 

Datblygwch eich map gweithredu CRM

 

Nid yw hi’n syniad da i weithredu CRM ar draws eich holl fusnes ar yr un pryd. Bydd ei gyflwyno mewn cyfnodau yn eich galluogi i ddatrys unrhyw broblemau sy’n codi ar hyd y ffordd. Dewiswch faes o fewn eich busnes, fel gwerthiant, i weithredu eich CRM i ddechrau, ac yna trosglwyddwch bawb arall i’r system pan fyddwch yn siŵr ei bod yn sefydlog.

 

Dewiswch y nodweddion y mae eu hangen arnoch

 

Beth yw eich prif reswm dros osod y CRM? Bydd yr amcanion allweddol sydd gennych ar gyfer eich system CRM yn esgor ar y prif nodweddion y bydd angen iddi eu cynnig. Meddyliwch am beth fydd ei angen arnoch nawr ac yn y tymor hir er mwyn sicrhau bod eich CRM wedi ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol os bydd twf neu newidiadau i’ch busnes.

 

Edrychwch am lefelau uchel o integreiddio

 

Gall rhai systemau CRM ddisodli nifer o’r cymwysiadau y mae eich busnes eisoes yn eu defnyddio. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i CRM newydd weithio gyda’ch cymwysiadau presennol. Adolygwch y cymwysiadau craidd y mae eich busnes yn eu defnyddio ac ystyriwch pa mor dda y byddan nhw’n integreiddio gyda’r CRM o’ch dewis.

 

Dewiswch eich rhestr fer

 

Wedi i chi gwblhau’r camau blaenorol, gallwch ddechrau chwilio am werthwr CRM sy’n ateb eich gofynion. Fel arfer, fe gewch gyfle i brofi cyn prynu am fod treialon ar gael yn rhad ac am ddim. Cymerwch fantais o’r cyfle hwn i ganiatáu i’ch staff brofi’r systemau yr ydych yn ystyried eu prynu. Cymerwch sylw o ba mor hawdd ydyw i'w defnyddio gan y byddwch yn defnyddio’r system hon bob dydd.

 

Peidiwch ag anghofio’r cyfnod gosod a hyfforddi

 

Byddwch yn ymwybodol o lefel y gefnogaeth y mae eich cyflenwr CRM yn ei chynnig. Mae angen i’ch CRM gael ei osod yn gywir er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu ar y lefel orau bosibl ac nad yw’n tarfu ar eich busnes. Bydd gosod y CRM newydd yn gyfnod o newid a bydd angen rheoli hyn yn effeithlon. Dylai hyfforddiant fod yn elfen bwysig o’r CRM yr ydych wedi ei ddewis.

 

Pa gefnogaeth allwch chi gael mynediad iddi?

 

Yn ystod y dyddiau cynnar o symud tuag at system CRM, mae’n debygol y bydd angen ychydig o help arnoch. Ystyriwch lefel y gefnogaeth y gall bob gwerthwr ei chynnig i chi. Dylid mynd i’r afael â hyn yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth y bydd eich gwerthwyr CRM yn ei gynnig i chi.

 

All eich CRM dyfu gyda chi?

 

Bydd eich busnes yn newid o hyd felly mae’n hanfodol bod gan eich CRM y gallu i’ch cefnogi nawr ac yn y dyfodol. Nid ydych am fuddsoddi mewn system y byddwch wedi tyfu’n rhy fawr iddi mewn ychydig o flynyddoedd. Ystyriwch eich dyheadau o ran twf a’r hyn y bydd ei angen arnoch yn realistig o fewn ychydig o flynyddoedd.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen