Os nad ydych chi eisoes yn caffael adborth gan gwsmeriaid, gallech chi fod yn colli allan ar gyfleoedd gwerthfawr i wella a thyfu eich busnes.
Mae adborth gan gwsmeriaid yn bwysicach nag erioed!
Gan ei fod yn rhoi gwybdaeth hanfodol i chi ar:
-
hoffterau a chasbethau eich cwsmeriaid
-
tueddiadau’r farchnad
-
pa mor gystadleuol yw eich busnes
-
sut i wella eich cynhyrchion neu wasanaethau
-
sut i ddatblygu gwasanaeth cwsmeriaid
-
rôl eich pwyntiau cysylltu ar-lein
-
cyfleoedd i dyfu’ch busnes
Isod, rydym yn cymryd cipolwg ar 7 ffordd allweddol i ddechrau caffael adborth gan gwsmeriaid i wneud penderfyniadau gwybodus am sut i wella a thyfu eich busnes.
Gwrandewch ar y cyfryngau cymdeithasol
P’un ai a ydych chi wedi gofyn i’ch cynulleidfa ai peidio, mae’n debygol bod rhywun eisoes yn siarad am eich brand ar-lein. Dechreuwch wrando ar gwsmeriaid sy’n tagio eich busnes mewn negeseuon, neu’n defnyddio geiriau allweddol sy’n ymwneud â’ch busnes. Gallai monitro sylwadau cadarnhaol a negyddol eich cwsmeriaid eich helpu i hyrwyddo eich busnes ymhellach trwy, er enghraifft, ail-drydar adolygiadau gwych neu eich galluogi chi i wella eich gwasanaeth trwy weithredu ar gwynion. Os nad ydych chi eisoes yn weithredol ar y cyfryngau cymdeithasol, bydd yn werth chweil cynnal chwiliad, deall beth mae defnyddwyr yn ei ddweud am eich busnes, ac ystyried sefydlu proffil busnes.
Dewiswch safle adolygu pwrpasol
Un ffordd syml i ddechrau ar gaffael adborth gan gwsmeriaid yw dewis llwyfan pwrpasol o gasglu adolygiadau. Trwy gynnal adolygiadau ar eich gwefan neu gyfeirio defnyddwyr at lwyfan penodol, gallwch annog mwy o gwsmeriaid i gymryd rhan, a gwneud rheoli adolygiadau’n llawer haws trwy gael lleoliad canolog i werthuso ymatebion.
Dewiswch safle penodol i ddiwydiant/cynnyrch
Ffordd arall i roi eich busnes mewn sefyllfa well a denu adolygiadau gan eich cynulleidfa yw dewis gwefan neu lwyfan adolygu penodol i ddiwydiant, sector neu gynnyrch, fel TripAdvisor, adolygiadau Amazon neu Checkatrade. Dylai’r ymagwedd fwy arbenigol neu dargedig hon at adolygiadau cwsmeriaid annog adolygiadau mwy penodol, o ansawdd gwell, gan gwsmeriaid, o’i gymharu â llwyfan adolygu cyffredinol neu’r cyfryngau cymdeithasol.
Rhowch wybod i gwsmeriaid eich bod chi’n chwilio am adolygiadau
Ar ôl i chi benderfynu ar eich llwyfan/llwyfannau adolygu, y camau nesaf yw rhoi gwybod i gwsmeriaid amdanynt. Dechreuwch drwy gynnal cysylltiadau neu fotymau ar eich gwefan yn cyfeirio ymwelwyr i’ch llwyfan adolygu, ac annog cwsmeriaid i rannu eu meddyliau, sylwadau a syniadau gyda chi! Gallech chi hefyd benderfynu datblygu’r cysylltiadau cwsmeriaid hyn trwy ymateb i unigolion a diolch iddyn nhw am eu hadolygiad, ateb ymholiadau neu fynd i’r afael â chwynion.
Cynigiwch rywbeth yn gyfnewid am adolygiad manwl
Pan fyddwch yn dechrau arni, gall fod yn anodd meithrin sylfaen gadarn o adolygiadau. Os un neu ddau o adolygiadau’n unig sydd gennych, efallai y byddai’n peri i gwsmeriaid beidio â rhoi adolygiad neu beidio â ffwdanu os ydynt yn meddwl nad ydych chi’n chwilio am adolygiadau. Ffordd hawdd i ddechrau cynyddu eich adolygiadau ar-lein yw cynnig rhywbeth yn gyfnewid. Gallai hyn fod yn rhywbeth syml fel gostyngiad o 10% neu 100 o bwyntiau ychwanegol ar gerdyn ffyddlondeb cwsmer.
Defnyddiwch farchnata trwy e-bost i hyrwyddo eich adolygiadau
Ffordd arall i greu ymwybyddiaeth o’ch llwyfannau adolygu ar-lein dewisol yw cynnwys botwm galwad i weithredu neu adolygu clir ym mhob un o’ch cyfathrebiadau marchnata trwy e-bost. Gallech hefyd anfon negeseuon personoledig at gwsmeriaid ychydig wythnosoau ar ôl iddyn nhw brynu rhywbeth, i ofyn am eu profiad a’u safbwyntiau ar y cynnyrch neu wasanaeth.
Hyrwyddwch eich adolygiadau
Yn olaf, peidiwch ag anghofio bod adolygiadau cwsmeriaid yn ddefnyddiol ar gyfer mwy na’ch busnes! Mae adolygiadau’n gweithredu fel offeryn ‘ar lafar’ ar-lein gwerthfawr i gwsmeriaid posibl. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhannu adolygiadau ar draws eich gwefan neu farciau ar eitemau penodol, er mwyn helpu cwsmeriaid wrth wneud penderfyniad i brynu. Mae adolygiadau ar-lein yn ychwanegu elfen o ddilysrwydd a dibynadwyedd pwysig o’ch busnes a chynhyrchion penodol, felly mae’n bwysig nad ydych yn cuddio eich adolygiadau, ond yn gwneud y mwyaf ohonynt.