Cyfryngau cymdeithasol yw’r ffenomen ddigidol sy’n meddiannu teclynnau – ac amser pobl.

Yn ôl GlobalWebIndex:

Mae rhwydweithio cymdeithasol bellach yn cyfrif am fwy na chwarter (28%) o'r amser a dreulir ar y rhyngrwyd bob dydd

Gyda defnyddwyr yn treulio hyd at ddwy awr bob dydd ar gyfryngau cymdeithasol. Canfu'r adroddiad hefyd fod gan bobl ar gyfartaledd dros 5 cyfrif cyfryngau cymdeithasol ac yn gwneud defnydd o dros hanner ohonynt.

Fel perchennog busnes bach neu ganolig fodd bynnag, mae’n bosib na fydd gennych yr un faint o amser bob dydd i’w neilltuo ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Os yw amser yn brin, mae camau y gallwch eu cymryd i wneud yn siŵr eich bod yn rheoli’r rhwydweithiau cymdeithasol a ddewiswyd yn effeithiol, gan ymgysylltu â defnyddwyr i ddatblygu perthynas gadarnhaol ac adolygu eich gweithgarwch er mwyn datblygu eich brand ar-lein, a hynny o fewn terfynau amserlen brysur.

O’u hanfod, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dibynnu ar yr "amser real" a rhyngweithio defnyddwyr, ond drwy gydlynu eich gweithgarwch i weddu orau gyda’ch busnes gallwch wneud yn siŵr bod eich presenoldeb yn dal i greu argraff!

Cynlluniwch ymlaen llaw

Peidiwch â mentro i'r storm gymdeithasol heb ymbarél - neu, mewn geiriau eraill, gwnewch yn siŵr fod gennych gynllun. Gofynnwch i chi'ch hun beth rydych am ei gyflawni gyda'ch llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, sut rydych yn bwriadu cyrraedd yno a'r math o gynnwys sydd angen i chi ddatblygu. Mae mewngofnodi i'ch cyfrifon heb ystyried yr hyn hoffech ei gyflawni yn ystod yr amser hwnnw yn golygu y gallech wastraffu 30 munud yn sgrolio a syllu’n ofer ar y sgrin. Bydd deall eich amcanion yn golygu gallwch gynllunio'r gweithgarwch a neilltuo amser priodol ar ei gyfer.

Amseru

Unwaith byddwch wedi penderfynu ar y math o gynnwys i’w rannu, dylech neilltuo hyn a hyn o amser bob wythnos neu bythefnos i greu negeseuon y gellir eu hamseru o flaen llaw. Drwy wneud hyn bydd trefnu a chyhoeddi cynnwys yn rhywbeth cyson yn eich dyddiadur a bydd gennych bob amser gronfa o ddeunydd y gellir ei ddefnyddio. Er bod gweithgarwch amser real neu 'fyw' yn nodwedd allweddol o’r cyfryngau cymdeithasol, weithiau ni fydd modd i chi ymrwymo'r amser neu’r adnoddau i wneud hynny. Bydd y gweithgarwch hwn a drefnwyd o flaen llaw yn gwneud yn siŵr bod amrywiaeth o gynnwys gwahanol yn cael ei rannu i gadw eich brand yn weithgar ar-lein, hyd yn oed os nad ydych yn ddigidol bresennol. Mae digon o lwyfannau rhad ac am ddim a hylaw ar gael er mwyn amserlennu megis Hootsuite, Tweetdeck a Buffer, a gallant eich helpu i gydlynu blaengynllun o weithgarwch cyfryngau cymdeithasol.

Monitro ac Ymgysylltu

Dylech neilltuo amser bob dydd ar y cyfryngau cymdeithasol i fonitro, gwrando ac ymgysylltu. Dilynwch y trafodaethau cyfryngau cymdeithasol a thueddiadau diweddaraf i ddod o hyd i unrhyw gyfleoedd. Efallai bydd rhaid i chi gymryd rhan mewn sgyrsiau. Mae hefyd yn bwysig ymateb i unrhyw sylwadau neu ryngweithiadau gyda’ch dilynwyr a chwsmeriaid. Os yn bosib, ceisiwch neilltuo 5 munud bach bob rhyw ddwy awr, neu ddwywaith y dydd hyd yn oed, i adolygu eich sylwadau neu unrhyw fenshiwn. Dywed The Social Habit fod  42% o ddefnyddwyr a geisiodd gysylltu â brand, cynnyrch neu gwmni drwy’r cyfryngau cymdeithasol i gael cymorth i gwsmeriaid yn disgwyl ymateb o fewn 60 munud. Efallai nad yw hi’n realistig ymateb mor gyflym â hynny i bob cwsmer, ond mae'n bwysig ymateb mewn modd amserol, personol i wneud yn siŵr bod eich negeseuon yn meithrin cysylltiadau cwsmeriaid cadarnhaol a hirdymor.

Dadansoddwch

Wrth i chi ddod i arfer gyda’ch patrwm o reoli gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol, dylech neilltuo amser i adolygu pa mor dda mae defnyddwyr a chwsmeriaid yn ymateb i’ch cynnwys ac os yw'r gweithgarwch hwn yn helpu i gyflawni eich amcanion. Drwy ddadansoddi eich presenoldeb cymdeithasol, gallwch wneud yn siŵr bod eich brand yn parhau i fod yn gyfredol ar y llwyfannau, yn rhannu'r cynnwys mwyaf effeithiol ac nad ydych yn gwastraffu amser ar weithgarwch sy’n dangos dim enillion ar fuddsoddiad.

Unwaith byddwch yn hyderus gyda’ch amserlen cyfryngau cymdeithasol, gallwch gynnwys datblygu, amserlennu ac amser monitro’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol yn eich trefn ddyddiol a gydag amser, helpu datblygu eich busnes drwy ymgysylltu mwy penodol.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen