Yr hyn sy’n holl bwysig i ddangos gwerth eich busnes yw’r camau rydych yn eu cymryd i ddatblygu perthynas hir â chwsmeriaid sy’n ymddiried yn eich brand, sy’n ei adnabod ac sy’n parhau’n ffyddlon iddo, a defnyddio’r cysylltiadau hyn i apelio at ddarpar gwsmeriaid newydd ac adeiladu at hunaniaeth eich brand.

 

Mae’r gofod ar-lein yn gystadleuol iawn ac oni bai bod gennych chi fusnes cwbl unigryw, sy’n gweithredu mewn marchnad arbenigol iawn neu eich bod eisoes yr enw mwyaf yn eich maes, rydych yn debygol o orfod cystadlu â busnesau tebyg a bydd yn rhaid gweithio i gadw’r cwsmeriaid sydd gennych eisoes ac unrhyw ddarpar gwsmeriaid rhag clicio i gyfeiriad un o’ch cystadleuwyr.

 

Os gallwch ddangos y gwerth sydd gan eich brand i’w gynnig, yn ogystal â’r gwerth y mae cwsmeriaid yn ei weld, i ddarpar gwsmeriaid sy’n rhyngweithio ag unrhyw un o’ch mannau cyswllt ar-lein, mi allwch ddechrau tyfu sylfaen eich cwsmeriaid, cynyddu eich elw a chadw cwsmeriaid, a chreu cynrychiolaeth bositif a pharhaol i’ch brand.

 

Fodd bynnag, nid yw cyfleu eich gwerth mor hawdd â dweud wrth ymwelwyr beth mae eich busnes yn ei wneud na sut y gallant elwa arno. Rydych bob amser yn mynd i ddweud pethau positif am eich busnes eich hun - felly pam ddylai’r defnyddwyr eich credu?

 

Pan ddaw’n fater o werth - yr hyn sy’n bwysig yw dangos, nid dweud

 

Isod mi welwch 8 ffordd o ddangos a chadarnhau gwerth eich busnes mewn ffyrdd a fydd yn taro tant â’ch cwsmeriaid presennol yn ogystal â chwsmeriaid newydd:

 

Defnyddio adolygiadau ac adborth cwsmeriaid

 

Yn ôl ymchwil gan Dimensional Research, mae 90% o gwsmeriaid yn dweud bod eu penderfyniadau i brynu’n cael eu dylanwadu gan adolygiadau ar-lein. Mae pobl yn fwy tebygol o deimlo bod eich cynnyrch a’ch gwasanaethau’n werthfawr os ydynt yn gweld argymhellion real gan gwsmeriaid real.

 

Cael cwsmeriaid i gyfrannu at greu cynnwys

 

Ffordd arall o gael help cwsmeriaid i ddilysu’r gwerth rydych yn ei gyfrannu at eu bywydau yw trwy greu cynnwys am eich brand. Bydd annog cwsmeriaid i dynnu lluniau neu fideos ohonynt eu hunain yn defnyddio neu’n mwynhau eich nwyddau neu wasanaethau yn creu enghreifftiau bywyd go iawn o’ch brand ar waith ac y gallwch wedyn eu rhannu ar draws eich platfformau digidol.

 

Gwella eich safle ar chwilotwyr ar-lein

 

Yn ogystal ag ymddiried yn yr hyn sydd gan ddefnyddwyr eraill i’w ddweud, bydd defnyddwyr ar-lein hefyd yn ymddiried yn eu rhaglenni chwilio i ddangos busnesau perthnasol a chydnabyddedig iddynt sy’n cynnig ansawdd a rhyw fath o awdurdod. Po uchaf fydd eich busnes yng nghanlyniadau’r chwilotwr, y mwyaf tebygol fydd darpar gwsmer o deimlo bod eich busnes yn un credadwy ac felly bydd unrhyw awgrym o werth, boed yn fewnol neu gan gwsmeriaid, yn rhywbeth y gellid ymddiried ynddo.

 

Gofalu am ddiogelwch eich cwsmeriaid

 

Meddyliwch mewn ffordd arloesol am y gwahanol werthoedd yr ydych yn eu cynnig i’ch cwsmeriaid. Mae’n fwy na chael nwyddau da neu brofiad gwych i’r defnyddiwr. Mae’n ymwneud hefyd â sut yr ydych yn gofalu am eich cwsmeriaid a’u gwybodaeth bersonol. Dylech ddangos eich ymrwymiad i gadw’u data’n ddiogel. Trwy ddangos eich bod yn gwerthfawrogi eich cwsmeriaid, bydd defnyddwyr wedyn yn dechrau gwerthfawrogi eich busnes chi.

 

Gwnewch y gorau o unrhyw ddyfarniadau neu gymwysterau

 

Dangoswch i’ch cwsmeriaid bod eich gwerth i’r diwydiant neu unrhyw weithgarwch penodol wedi cael ei gydnabod gan gymheiriaid neu awdurdodau o fewn eich sector. Bydd hyn yn rhoi hwb i’ch hygrededd a’ch awdurdod.

 

Denu dilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol

 

Er ei bod yn bwysig nad ydych chi’n prynu nifer fawr o ddilynwyr cymdeithasol a meddwl bod hynny’n ddigon, bydd eich dilynwyr cymdeithasol ar-lein yn rhoi syniad da i ddarpar gwsmeriaid sut mae cwsmeriaid yn gwerthfawrogi hunaniaeth ar-lein eich brand ac yn dewis ymgysylltu ag ef. Cysylltwch gydag ac ewch ati i feithrin cynulleidfa wirioneddol a fydd yn rhyngweithio ac yn eiriol dros eich brand. Mae hyn yn llawer pwysicach na miloedd o ddilynwyr ffug, sydd heb ddiddordeb nac yn ymgysylltu â’ch brand.

 

Cynnwys argymhellion, adolygiadau a chynnwys wedi’i greu gan ddefnyddwyr yn eich ymgyrch farchnata

 

Un peth yw cael y cynnwys hwn – peth arall yw gwneud y defnydd gorau ohono i ddangos eich gwerth yn effeithiol. Defnyddiwch eich adolygiadau positif neu luniau gan gwsmeriaid yn eich ymgyrchoedd marchnata e-bost a chyfryngau cymdeithasol ac o fewn eich gwefan. Dewiswch leoliadau allweddol lle bydd eich cwsmeriaid yn gwneud penderfyniadau i dynnu sylw at werth cwblhau cam.

 

Ymateb i feirniadaeth – o fewn rheswm!

 

Mae cwsmeriaid a darpar gwsmeriaid yn llawer mwy tebygol o werthfawrogi a pharchu brand sy’n delio â sefyllfaoedd a all fod yn rhai negyddol mewn ffordd ragweithiol. Gall rheoli sylwadau negyddol wneud llawer i’ch enw da gan ei fod yn dangos eich bod yn poeni am eich cwsmeriaid ac os byddwch yn delio â’r mater yn dda, gallwch droi rhywbeth drwg yn rhywbeth da. Dangoswch i’ch cwsmeriaid bod eu barn yn bwysig i chi a bydd darpar gwsmeriaid yn teimlo eich bod yn debygol o wrando arnynt os byddai problem yn codi rywbryd yn y dyfodol.

 

Ceisiwch gael cyngor ymarferol i ddatblygu eich strategaeth farchnata digidol neu i wella hunaniaeth eich brand, enillwch fwy o gwsmeriaid a chynyddwch eich elw.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen