Sawl gwaith fuoch chi’n pori ar-lein a llenwi’ch basged gyda’r holl bethau rydych chi’n eu chwennych, ond wedyn newid eich meddwl ar y funud olaf a chlicio oddi ar y wefan? Fe fuon ni i gyd yno. P’un a ydych ond wedi newid eich meddwl neu’n bod yn synhwyrol a phenderfynu aros nes i chi gael eich talu – cefnu ar fasged yw hyn.   

Mae cwsmeriaid ar-lein yn fwy tebygol o gefnu ar eu basged o gymharu â siopwyr mewn siop, sydd â basged go iawn o nwyddau. Nid yn unig hynny, yn union fel y byddent mewn siop draddodiadol brics a morter, maen nhw am weld beth maen nhw’n ei brynu cyn gwario’u henillion haeddiannol. Mae tystiolaeth bellach o hyn i’w weld yn Adroddiad Tueddiadau Siopa’r DU yn y Dyfodol 2022 sy’n dangos 40% o gynnydd yn nifer y defnyddwyr sy’n chwilio ar-lein am nwyddau gan ychwanegu’r ymadrodd allweddol ‘review’.  

upside down shopping trolley

Felly, pam mae cwsmeriaid yn cefnu ar eu basgedi? 

Nid oes amheuaeth bod siopau ar-lein wedi ffynnu ers y pandemig, gyda 40% o ddefnyddwyr o’r farn bod chwilio am nwyddau ar-lein yn well na mewn siop. Fodd bynnag, mae cefnu ar fasgedi’n bodoli o hyd. Yn ôl Shopify, mae 88% o enghreifftiau o gefnu ar fasged yn digwydd cyn bod defnyddiwr yn prynu rhywbeth.  Gall fodoli am sawl rheswm, fel: mae’r pris yn rhy uchel wrth gyfrifo ffioedd danfon, problemau technegol wrth dalu, a phrosesau cofrestru hir. Bydd 8% o ddefnyddwyr yn cefnu os bydd tudalen yn cymryd mwy na 3 eiliad i lwytho, felly mae’n hanfodol eich bod chi’n archwilio cyflymderau llwytho’ch safle ar bob dyfais. 

Er nad yw cefnu ar fasgedi’n fater y gellir ei osgoi, mae camau allweddol y gallwch eu cymryd i wneud y mwyaf o’r broses dalu, gwella taith brynu’r cwsmer a hybu’ch cyfradd drawsnewid chi.  

Dyma 5 ffordd allweddol y gallwch helpu atal cefnu ar fasgedi! 

Caniatewch i ddefnyddwyr arbed eitemau yn eu basged i’w prynu yn nes ymlaen 

Peidiwch ag anfon eich siopwyr yn ôl i’r dechrau un os byddant yn gadael eich gwefan a’u basged. Yn hytrach, rhowch opsiwn iddynt gadw’u heitemau yn y fasged neu eu harbed tan yn ddiweddarach ar ‘Restr ddymuniadau’. Trwy wneud hyn, byddant yn gallu edrych eto ar eu basged maes o law a pharhau â’r broses brynu. Bydd llawer o ddefnyddwyr yn ychwanegu nwyddau at fasged fel ffordd o arbed yr hyn maen nhw’n edrych arno, yn yr un modd â’r nwyddau y byddent yn eu codi yna’u rhoi yn ôl mewn siop draddodiadol. Trwy ei gwneud hi’n haws iddynt ailgydio yn eu siopa, gallai’r defnyddiwr ddychwelyd unrhyw bryd i orffen prynu a chael ei atgoffa am yr hyn y daeth i chwilio amdano yn y lle cyntaf.  

Atgoffwch ddefnyddwyr am eu heitemau trwy negeseuon e-bost awtomataidd  

Mae negeseuon e-bost awtomataidd yn ffordd hawdd o atgoffa cwsmeriaid am eu basged a chreu ymdeimlad o frys i brynu nwyddau y gallent golli allan arnynt fel arall. Er enghraifft, os byddwch yn ychwanegu rhywbeth at fasged ond ddim yn ei brynu, cewch e-bost yn dweud ‘Anghofioch chi rywbeth’ neu ‘Mae eitemau’ch Rhestr Ddymuniadau’n gwerthu’n gyflym’.  

Pam na brynodd y cwsmer y nwyddau? Efallai bod rhywbeth wedi tynnu’i sylw, neu sylweddolodd nad oedd yr hyn a ychwanegodd wedi’i gynnwys mewn cynnig yr oedd yn ceisio manteisio arno. Dyma pryd y gallech fanteisio ar y cyfle i anfon cod ‘danfon am ddim’ neu ‘gostyngiad o 10%’ sy’n para am gyfnod penodol i helpu i’w hannog i brynu cyn bod y cynnig yn dod i ben.  

Gall negeseuon e-bost awtomataidd i ymwelwyr â’r wefan gael eu sefydlu gan rywbeth o’r enw Google Tag Manager yng nghefn eich gwefan. Mae’n anfon e-bost penodol pan fydd yn cael ei sbarduno gan gwsmeriaid sy’n gwneud rhywbeth penodol. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod yn graff o ran nifer y cynigion a rannwch, gan fod defnyddwyr yn dod i wybod am y tactegau sy’n cael eu defnyddio gan frandiau i gynyddu sgyrsiau.  

Deall ymddygiad pori a phrynu eich defnyddwyr  

Gallai system Rheoli Perthynas Cwsmeriaid (CRM) eich helpu i ddeall eich cwsmeriaid a sut maen nhw’n rhyngweithio â chi. Gallai’r wybodaeth hon roi cipolwg i chi i ymddygiad blaenorol ymwelwyr. Nid yn unig y mae hyn yn caniatáu i chi wahaniaethu rhwng cwsmeriaid hen a newydd, ond mae hefyd yn caniatáu i chi deilwra yn ôl y defnyddiwr. Er enghraifft, efallai bod gennych gwsmeriaid teyrngar sy’n prynu oddi wrthoch bob diwrnod cyflog, hyd nes byddant yn colli un diwrnod cyflog am ryw reswm. Dyma pryd y gallwch anfon cynnig personol atynt i’w denu’n ôl i’ch gwefan gyda mwy o siawns o orffen prynu rhywbeth, yn hytrach na basged wag neu gefnu ar fasged. 

Gellid edrych ar hyn o ongl arall – a ydynt yn prynu ar declyn symudol neu fwrdd gwaith yn unig? A ydynt yn prynu gyda thalebau neu ar adegau penodol o’r diwrnod? Bydd gwell dealltwriaeth o’ch cwsmeriaid yn eich galluogi i ymateb a theilwra eich proses dalu yn briodol i annog pryniant. 

Dysgwch ragor yn ein gweminar rhad ac am ddim ar E-Fasnach

mini shopping trolley on keyboard with hand swiping card on card machine alongside

 

Byddwch yn glir am eich dulliau talu a danfon  

Gallech ddileu cynnen o’r broses brynu trwy ddatgan y gwahanol ddulliau talu a danfon a gynigiwch yn glir. Er y gallai rhai cwsmeriaid fod yn hapus i roi manylion eu cerdyn, ni fydd eraill a byddai’n well ganddynt ddefnyddio rhywbeth fel PayPal yn hytrach na cherdyn credyd. Osgowch orfodi’ch cwsmeriaid i lenwi manylion diddiwedd wrth y man talu trwy ddefnyddio talu cyflym PayPal neu rywbeth tebyg. Trwy gynnig nifer o wahanol opsiynau talu, gall siopwyr deilwra’u profiad prynu yn ôl eu hanghenion. 

Yn yr un modd, mae’n hanfodol eich bod yn rhoi costau ac amserlenni danfon clir i’ch cwsmeriaid. Sicrhewch fod opsiwn cludo safonol neu ddanfon cyflym gan gwsmeriaid, a’ch bod yn datgan yr holl gostau ac amserlenni tybiedig. Mae hepgor y wybodaeth hon yn debygol o gythruddo cwsmeriaid a pheri iddynt gefnu ar eu harcheb, neu ddewis cystadleuwr yn lle hynny. Er enghraifft, efallai eu bod yn defnyddio cynnig sy’n rhoi’r hawl iddynt gael gostyngiad o 15%, ond os sylwant nad yw’r costau danfon yn arbed arian iddynt o gwbl, mae perygl y byddant yn cefnu arnoch. Hefyd, cadwch yr opsiynau arian cyfred amrywiol mewn cof os ydych chi’n safle byd-eang a dywedwch yn glir a ydych chi’n danfon y tu allan i’r DU.    

Darganfu’r entrepreneuriaid ffitrwydd, V3 Apparel, eu bod yn colli cwsmeriaid o America ar eu gwefan e-fasnach oherwydd eu bod yn gofyn i’r darpar brynwyr hyn dalu mewn punnoedd yn hytrach na doleri.  

“Cyflwynom wefan Shopify leol ar gyfer yr Unol Daleithiau a chynyddu ein gwerthiannau 22 y cant.” Darllenwch fwy am sut y gwnaeth Cyflymu Cymru helpu V3 â’u e-fasnach  

Pwysleisiwch eich dulliau diogelu tâl  

Rhowch wybodaeth hawdd cael ati i’ch cwsmeriaid am y dulliau diogelu tâl rydych yn eu cynnig er mwyn rhoi hyder iddynt siopa gyda’ch busnes. Trwy ddangos bod eich busnes yn gydwybodol a dibynadwy, byddwch yn rhoi’r sicrwydd y mae ar gwsmeriaid eu hangen, efallai, i fwrw ymlaen â’r prynu. Gallai hyn fod mor syml â darparu tystysgrifau diogelwch, gan gynnwys cyfryngwr fel PayPal, neu gynnig gwarantau amddiffyn prynwyr.  

 


 
I ddysgu sut i dyfu eich busnes, cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth rhad ac am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau. 


Gweler sut gall Cyflymu Cymru i Fusnesau gefnogi eich busnes chi

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen