Ym marchnad ar-lein gystadleuol heddiw, mae Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) yn hollbwysig. Trwy optimeiddio’ch gweithgareddau ar-lein, gallwch helpu’ch busnes i gael ei leoli’n uwch ar dudalennau canlyniadau peiriannau chwilio (SERPs) a chynyddu nifer yr ymwelwyr â’ch gwefan. Bydd gwella’ch gweithgareddau SEO hefyd yn sicrhau eich bod chi’n cadw pwyntiau cysylltu ar-lein yn gyfredol, yn rhannu cynnwys perthnasol a diddorol ac yn cynyddu eich brand digidol mewn ffordd ddibynadwy.

 

I lawer o fusnesau, gall gwella gweithgareddau SEO helpu i gynyddu amlygrwydd ar-lein a thyfu’ch busnes ar raddfa ranbarthol, genedlaethol a hyd yn oed fyd-eang. Fodd bynnag, mae nodau llawer o fusnesau bach a chanolig yn agosach i gartref. Dyma lle mae SEO lleol yn bwysig.

 

Gall rhoi strategaeth SEO leol ar waith helpu i dyfu’ch busnes yn eich ardal leol trwy gynyddu eich amlygrwydd

 

Awdurdod a pherthnasedd ar-lein yn y lleoliad hwnnw, ochr yn ochr â chyflwyno’r busnes fel un sy’n gystadleuol iawn mewn cymuned benodol. Os yw’ch busnes yn canolbwyntio ar ardal benodol neu fath penodol o ddefnyddiwr, gall gweithgareddau SEO lleol eich helpu i gystadlu â’ch cystadleuwyr uniongyrchol yn hytrach na rhai ar draws y wlad (neu’r byd!). Mae hefyd yn gallu eich helpu i ddod yn fwy amlwg yn eich marchnad darged, sy’n fwy tebygol o newid i ddefnyddio’ch busnes chi, yn hytrach na marchnad ehangach, sy’n annhebygol o ddefnyddio’ch busnes. 

 

Os gallai eich busnes elwa o roi eich gweithgareddau Optimeiddio Peiriannau Chwilio ar waith ar lefel leol, dyma 4 awgrym da a all eich helpu i fabwysiadu’r strategaeth hon yn llwyddiannus:

 

Sefydlwch a gwiriwch restriad eich busnes ar Google

 

Dechreuwch drwy sicrhau eich bod chi’n darparu manylion cywir a chyfredol ar-lein, er enghraifft trwy wasanaeth “Fy Musnes” Google. Bydd sicrhau bod gwybodaeth allweddol am y busnes (fel lleoliad, oriau busnes a  manylion cyswllt) ar gael yn rhwydd ar-lein yn helpu Google i adnabod a graddio’ch busnes mewn SERPs lleol. Byddwch hefyd yn gwneud y daith o chwiliad ar-lein cychwynnol i gysylltu â’ch busnes yn syml trwy ddarparu ciplun dibynadwy o’ch busnes sy’n cynnwys yr holl fanylion hanfodol. Po hawsaf yw’r daith hon, y mwyaf tebygol ydyw y bydd defnyddwyr yn parhau i ymgysylltu.

 

Rhestrwch eich busnes mewn cyfeirlyfrau lleol perthnasol

 

Ymchwiliwch i gyfeirlyfrau lleol perthnasol sydd ar gael ar-lein y gallech gofrestru’ch busnes ynddynt. Dylai’r wybodaeth a restrir yn y cyfeirlyfrau hyn gynnwys enw, cyfeiriad a rhif ffôn y busnes fel y gall helpu peiriannau chwilio i gysylltu’ch busnes â’r ardal leol. Mae’n bwysig sicrhau eich bod chi’n cadw manylion eich busnes yn gyfredol lle bynnag y bydd wedi’i restru, oherwydd gallai’r anghysondebau lleiaf effeithio ar eich SEO a cholli cwsmeriaid posibl i chi. Gwnewch restr o bobman rydych chi’n rhestru’ch manylion a gwnewch yn siwr eich bod chi’n diweddaru’r rhain os bydd unrhyw newidiadau’n digwydd.

 

Rhannwch gynnwys sy’n berthnasol i’ch lleoliad a’ch diwydiant

 

Mae cynnwys yn hollbwysig i wefannau sydd wedi’u graddio’n uchel, ond os ydych chi’n canolbwyntio ar optimeiddio’ch busnes ar gyfer SEO lleol, dylai eich cynnwys adlewyrchu hyn. Ystyriwch y math o gynnwys y gallwch ei greu a fydd yn berthnasol i’ch ardal leol, fel newyddion, gwybodaeth am ddigwyddiadau neu flogiau cyngor. Lle y bo’n bosibl, dylech gynnwys geiriau allweddol yn eich cynnwys ar-lein sy’n berthnasol i’ch ardal leol a’ch diwydiant. Os ydych chi’n noddi neu’n cymryd rhan mewn taith gerdded leol i elusen neu ddigwyddiad rhwydweithio lleol, gwnewch yn siwr eich bod chi’n dilyn hyn gyda blog diddorol yn llawn gwybodaeth a fydd yn helpu peiriannau chwilio i’ch cysylltu â’ch ardal leol.

 

Defnyddiwch adolygiadau

 

Mae’n hollbwysig i fusnesau lleol ddatblygu enw da dibynadwy yn yr ardal a chyda’r gymuned leol. Bydd rhannu adolygiadau rheolaidd gan gwsmeriaid go iawn yn helpu i ddilysu’ch busnes a gweithredu fel ffynhonnell i’ch argymell i gwsmeriaid posibl, ond bydd hefyd yn helpu peiriannau chwilio i gasglu gwybodaeth bellach, a chadarnhaol gobeithio, am eich busnes i gynyddu’ch amlygrwydd ar-lein.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen