Os oes gennych wefan e-fasnach, gallech fod yn colli allan ar werthu os nad ydych yn cymryd camau pwysig i wella eich gwefan o ran hwyluso chwilio a rhoi hwb i'ch cyfradd trosi. Mae paratoi eich gwefan e-fasnach yn ffordd wych i gynyddu gwerthiant, gwella taith y prynwr ac yn symleiddio’ch dull o reoli gwerthiant.

 

Darllenwch ein 9 awgrym i ddechrau datblygu eich gwefan e-fasnach ar gyfer gwell cyfradd trosi.

 

Aseswch eich dull cyfredol o reoli gwerthiant

 

Cyn i chi newid unrhyw beth, mae'n bwysig eich bod yn deall statws cyfredol eich dull o reoli gwerthiant.  Ystyriwch daith y prynwr, o lanio ar eich gwefan, hyd at gwblhau'r pryniant. 

 

Ble ydych chi'n colli masnach?

 

Unwaith y byddwch wedi cynllunio eich dull o reoli gwerthiant, bydd angen i chi edrych lle mae ymwelwyr yn ‘tynnu'n ôl'.  Dyma’r man lle maent yn colli diddordeb ac yn gadael y safle neu roi'r gorau i brynu. Nid yw'n anarferol i siopwyr fethu â chwblhau eu pryniant fel y mae ymchwil gan Baymard Institute yn amlygu, mae 67.4%  o fasgedi siopa ar-lein yn cael eu gadael. Fodd bynnag, gall ymwelwyr adael y daith unrhyw bryd, nid ar y pwynt talu yn unig. Nodwch y mannau allweddol hynny yn y dull o  reoli sy'n ymddieithrio darpar gwsmeriaid, megis eich tudalen lanio, tudalen disgrifio cynnyrch, basged ar-lein, creu cyfrif neu ychwanegu manylion talu. 

 

Unwaith y byddwch wedi nodi'r meysydd lle mae ymwelwyr yn  gadael eich safle e-fasnach, gallwch ddechrau cymryd camau i wneud y gorau o'ch gwefan a'u hannog i gwblhau eu taith brynu.

 

Pam eich bod chi'n colli masnach?

 

Rydych chi wedi nodi lle mae eich cwsmeriaid yn gadael eich gwefan, ond a oes unrhyw resymau amlwg pam eu bod yn gwneud hynny? Er enghraifft, os yw cwsmeriaid yn gadael ar y dudalen lanio, ydy hynny oherwydd nad yw eich galwad i weithredu yn ddigon amlwg? Fel arall, os yw cwsmeriaid yn gadael eu basged ymhellach i lawr y dull o reoli gwerthiant gallai fod nifer o resymau am hynny. Yn ôl ymchwil gan Statistia, gallai hyn fod oherwydd costau annisgwyl (56%), bod defnyddio’r wefan yn rhy gymhleth (25%) neu fod y broses yn cymryd gormod o amser (21%). Ceisiwch adnabod os oes unrhyw gamau amlwg ar hyd y dull o reoli gwerthiant a allai fod yn atal eich darpar-gwsmeriaid rhag trosi gan y bydd hyn yn eich helpu i ganolbwyntio eich ymdrechion i baratoi’r wefan.

 

Mae’n bryd i baratoi eich gwefan

 

Dyma rhai o’n prif awgrymiadau i gynyddu trosi: 

 

Atgyweiriwch unrhyw ddiffygion, gwallau neu faterion llwytho

 

Ewch drwy daith y cwsmer a gwiriwch fod eich tudalennau’n llwytho’n gywir. A yw eich gwefan yn gweithio ar wahanol borwyr, a yw'n llwytho’n  llwyr ac yn gwneud ei swyddogaeth fel y dylai? Os yw eich cyfnod llwytho’n araf, tudalennau wedi torri neu eich gwefan yn chwalu’n aml, bydd hyn yn peri i ddarpar gwsmeriaid beidio â chwblhau’r daith yn syth. Dylai’ch gwefan fod yn hylaw ac yn apelgar. 

 

A yw eich gwefan yn symudol-gyfeillgar?

 

Os nad yw eich safle yn ymatebol yna gall profiad y defnyddiwr fod yn y fantol. Dylai’r wefan fod yn addas i ba bynnag sgrin a ddefnyddir ac yn gweithio’r un mor effeithiol ar draws y sgriniau hyn. Gan fod ffonau symudol wedi dod yn llwyfan amlwg i siopwyr ar-lein, mae'n hanfodol bod eich safle yn cael ei baratoi ar gyfer ffonau symudol yn ogystal â bwrdd gwaith.

 

Ydych chi’n gwerthu eich cynnyrch a gwasanaethau go iawn?

 

Adolygwch eich rhestrau cynnyrch/gwasanaeth i ystyried a ydych yn eu harddangos i'w llawn botensial. A yw'r lluniau wedi’u goleuo'n dda, yn ddeniadol ac yn ddefnyddiol i'r ymwelydd? A ydych yn darparu disgrifiad llawn, cywir a manwl o'r hyn rydych yn ei werthu? A ydych yn hepgor gwybodaeth allweddol a allai yrru pryniant megis dimensiynau, deunyddiau neu nodweddion pwysig eraill? Mae'r rhain i gyd yn bethau a allai rhwystro cwsmeriaid rhag cwblhau'r daith yn llawn.

 

A yw eich diogelwch yn saff?

 

Mae'n bwysig bod eich ymwelwyr yn ymddiried yn niogelwch, dibynadwyedd a chywirdeb eich gwefan.  Os nad yw’r ymwelydd yn ymddiried yn eich safle i drin eu manylion yn ofalus,  maent yn debygol o glicio i ffwrdd a pheidio dychwelyd.  Sicrhewch fod eich cwsmeriaid yn gwybod eu bod ar gysylltiad diogel, unrhyw fanylion am ardystiadau diogelwch a sut rydych yn diogelu eu data. 

 

Cyflwyno gwybodaeth yn glir

 

Wrth i ymwelwyr symud drwy'r dull o reoli gwerthiant, a ydych yn cynnig manylion clir am eu pryniant? Dylai hyn gynnwys: costau dosbarthu, opsiynau dosbarthu, amcangyfrif o amseroedd dosbarthu, unrhyw gostau ychwanegol a'r polisi dychwelyd. Dylai'r elfennau gwahanol y pryniant cyffredinol fod yn hawdd i’w darganfod ac wedi’u datgan yn glir wrth i gwsmeriaid symud drwy'r daith. Byddwch yn onest, gan fod cuddio’r wybodaeth hon neu ei chynnwys ar y funud olaf yn gallu arwain at gwsmeriaid yn clicio i ffwrdd neu wedi’u gwylltio gyda’r diffyg eglurder. 

 

Cynnig proses gofrestru cyflym a hawdd

 

Ystyriwch a allwch gynnig yr opsiwn i siopa fel gwestai neu a oes angen i ymwelwyr greu cyfrif. Bydd yr opsiwn gwestai’n caniatáu siopwyr prysur i symud drwy'r dull o reoli gwerthiant yn gyflym ac yn ddi-dor, gan eu hannog i gwblhau'r daith. Os oes angen i gwsmeriaid sefydlu cyfrif, sicrhewch fod eich ffurflen gofrestru yn syml a heb ei gorlwytho gyda blychau i'w llenwi. Po hiraf y ffurflen, y mwyaf tebygol y byddwch yn diflasu siopwyr. Casglwch wybodaeth yn allweddol yn unig a defnyddiwch flychau disgynnol i gyflymu'r broses.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen