Gyda phawb yn cystadlu am le ar-lein, sut ydych chi'n denu sylw pobl, a'i gadw, fel eu bod nhw eisiau prynu oddi wrthych chi? Mae Jo Roberts, Rheolwr Marchnata Cyflymu Cymru i Fusnesau yn esbonio rhai ffyrdd hawdd i hyrwyddo'ch busnes a dod o hyd i gwsmeriaid newydd ar-lein yn ogystal â chadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid presennol.

Woman at desk surrounded by parcels

 

Marchnata drwy e-bost 

Nid yw marchnata drwy e-bost yn dangos unrhyw arwyddion o arafu.  Mae'n dal i fod yn un o'r dulliau marchnata ar-lein rhataf a mwyaf effeithiol ac mae'n adenillion sylweddol ar fuddsoddiad i’w gweld i fusnesau bach yn enwedig. Gyda'r rhan fwyaf o bobl â’u ffonau’n eu llaw drwy’r amser, mae defnyddio e-bost yn golygu y gallwch chi hefyd gyrraedd cwsmeriaid ar unwaith.  

Fodd bynnag, gyda chymaint o negeseuon e-bost yn llenwi mewnflychau, sut ydych chi'n gwneud i'ch rhai chi sefyll allan? Dylech bersonoli eich e-bost lle bynnag y bo modd; mae'n helpu i wneud i'r darllenwyr gredu eich bod chi'n siarad yn uniongyrchol â nhw. Bydd personoli’r pwnc yn helpu annog y derbynnydd i agor yr e-bost yn y lle cyntaf.  Yn ôl adroddiad ystadegau marchnata drwy e-bost 2022 Snovio, mae 62% o negeseuon e-bost yn cael eu hagor os yw'r pwnc yn cael ei bersonoli. Gwnewch yn siŵr bod testun y pwnc yn ddigon byr a chryno i fachu sylw'r darllenwyr fel eu bod nhw eisiau agor yr e-bost a darganfod mwy - ni argymhellir mwy na 10 gair fesul pwnc. 

Mae hefyd yn bwysig peidio â gorwerthu, ac osgoi defnyddio geiriau poblogaidd a allai anfon eich negeseuon e-bost i ffolderi sbam, fel 'am ddim' '£' ac ati. Ffordd arall o ychwanegu diddordeb at eich pwnc yw trwy ychwanegu emojis. Gall y rhain arwain at gyfradd agor sydd 56% yn uwch.  

Defnyddiwch ddadansoddeg i fesur cyfraddau agor a chlicio drwy’r neges ac addaswch eich ymgyrchoedd e-bost os nad yw rhywbeth yn gweithio. Mae bob amser yn syniad da defnyddio profion A/B gyda'ch negeseuon e-bost i weld pa bwnc, delwedd, ac ati, allai weithio orau i'ch derbynwyr. Os ydych chi'n gwybod pryd mae cwsmeriaid yn fwyaf tebygol o ymateb, gallwch drefnu negeseuon e-bost ar gyfer yr amseroedd hyn gan ddefnyddio llwyfannau fel MailChimp neu HubSpot, ac mae'r ddau ohonynt yn cynnig fersiynau am ddim. Mae llawer o ystadegau sy'n nodi amseroedd gwahanol i anfon negeseuon e-bost. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o ystadegau'n dangos bod y cyfraddau agor a chlicio drwy’r neges gwaethaf ar y penwythnos. 

Cyn i chi anfon neges e-bost, gwnewch yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) – ewch i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i ddarganfod mwy

hand on phone with email neon icons coming out of screen

 

Talu fesul clic (PPC) 

Mae Google yn dominyddu’r byd peiriannau chwilio, felly Google Ads yw un o’r platfformau hysbysebu mwyaf yn y DU ar gyfer marchnata talu fesul clic, ynghyd â thalu am hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol. I ddechrau defnyddio Google Ads, penderfynwch yn gyntaf pa fath o hysbyseb rydych chi eisiau ei rhedeg. Mae ymgyrchoedd chwilio Google yn wych ar gyfer busnesau sy'n seiliedig ar ymholiadau, gan ddefnyddio geiriau chwilio allweddol y mae eich cynulleidfa darged yn debygol o'u defnyddio. Math arall o hysbyseb yw hysbysebion arddangos sy'n ymddangos ar wefannau trydydd parti. Os ydych chi'n rhedeg busnes e-fasnach, yna gallech ddefnyddio hysbysebion siopa. Mae'r hysbysebion hyn yn arddangos eich tudalennau cynnyrch a'ch prisiau ac yn mynd â'r defnyddiwr yn syth i dudalennau penodol i brynu nwyddau.  

Nesaf, bydd angen i chi feddwl am beth rydych chi eisiau ei gyflawni, e.e., gallai hyn fod yn fwy o ymwelwyr â'ch gwefan neu’n fwy o ymholiadau dros y ffôn. Mae’r cyfan yn dibynnu ar eich math o fusnes. Wedyn, bydd angen i chi ddewis eich lleoliad – gallwch ei gadw’n lleol neu fynd yn fyd-eang os mynnwch; unwaith eto, mae hyn yn dibynnu ar eich busnes. 

Yn olaf, bydd angen i chi osod eich cyllideb. Gan ddibynnu ar ba fath o Google Ad y byddwch chi’n penderfynu ei rhedeg, ni ddylai’r gyllideb ddyddiol y byddwch yn ei neilltuo fod yn llai na £2 y dydd i ddechrau er mwyn cael canlyniadau. Bydd Google hefyd yn darparu help i greu testun eich hysbyseb. Pan fydd yn fyw, gall eich hysbyseb ymddangos yng nghanlyniadau chwilio Google, ar Maps ac ar draws safleoedd partner Google.  

Gyda chyllideb mewn golwg, gallwch chi bob amser osod cap ar gyllideb ar eich hysbysebion fel eich bod chi ond yn talu am ganlyniadau. Gallwch hefyd atal ymgyrchoedd pa bryd bynnag y dymunwch. Os ydych chi'n newydd i Google Ads, mae canllawiau ar gael i'ch helpu i ddechrau arni. Mae Microsoft Advertising (Bing Ads gynt) yn gweithio mewn ffordd debyg ond gall fod yn opsiwn rhatach gan ei fod yn berchen ar lai o'r farchnad peiriannau chwilio. Mae'r ddau blatfform yn caniatáu i chi fonitro a mesur canlyniadau fel y gallwch gadw golwg ar beth sy'n gweithio ai peidio. 

Hysbysebion Facebook

Facebook yw brenin y cyfryngau cymdeithasol o hyd ac mae'n ofod hysbysebu gwych ar gyfer busnesau bach. Mae Facebook Ads yn caniatáu i chi gyrraedd cynulleidfaoedd penodol yn seiliedig ar eu lleoliad, eu demograffeg, eu diddordebau, eu hymddygiad, a’u cysylltiadau. Mae hyn yn golygu y gallwch chi dargedu pobl sy'n debygol o fod â diddordeb yn eich cynnyrch neu wasanaeth, ni waeth a ydyn nhw wedi chwilio amdanoch chi ai peidio.  

Gall Facebook Ads fod yn ffordd gost-effeithiol o gyrraedd cynulleidfa enfawr. Fel gyda Google Ads, mae Facebook Ads yn rhoi mynediad i chi at ddadansoddeg fel y gallwch fesur pa mor dda y mae eich hysbysebion yn perfformio a neilltuo gwariant yn unol â hynny. Ac os nad oes gennych arian i’w wario ar hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol, gallwch barhau i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol am ddim. Mae'n bwysig cofio dewis Facebook Ads yn hytrach na thoi hwb i neges yn unig. Mae nifer o resymau am hyn, ond un rheswm pwysig yw’r dangosydd - ni fydd negeseuon sy’n cael eu hybu yn ffitio ar bob dangosydd, ond gyda rheolwr Ads gallwch weld cymarebau eu golwg mewn gwahanol leoliadau. Mae hefyd yn syniad da gosod Facebook Pixel ar eich gwefan i helpu gyda'ch Facebook Ads. Mae hwn yn ddarn o god sy'n cael ei osod yng nghefn eich gwefan. Mae'n targedu pobl a allai fod wedi cymryd rhywfaint o gamau yn barod ond efallai nad ydynt wedi mynd i’r pen a phrynu. Os ydych chi wedi ymweld â gwefan i bori, yna wedi clicio i ffwrdd a mynd i Facebook a gweld y cynnyrch yr oeddech chi'n edrych arno, dyma pam. Gallwch ddysgu mwy am Facebook Pixel yma; a elwir bellach yn Meta Pixel.   

Google My Business 

Gyda phawb yn byw bywydau prysur a byth yn segur, mae chwilio am fusnes cyfagos yn un o'r pethau mwyaf cyffredin rydyn ni'n ei wneud ar Google trwy ein ffonau symudol.  

Yn rhyfedd iawn, nid yw llawer o fusnesau wedi ychwanegu na hawlio eu rhestriad busnes lleol ar Google. Gallwch wneud hyn am ddim drwy greu tudalen Google My Business. Pam mae angen un arnoch chi? Yn gryno, i wneud eich busnes yn hysbys, a'i gwneud hi'n haws i gwsmeriaid ddod o hyd i chi yn lle eich cystadleuwyr. Os nad oes gennych siop ffisegol nac yn dosbarthu gwasanaethau i bobl, e.e., dosbarthu pitsas, gallwch dal gael rhestriad ar Google My Business.  

Mae Google My Business yn offeryn rhad ac am ddim sy'n rhoi proffil busnes ar-lein i chi a fydd yn ymddangos yn chwiliadau Google ac ar Maps. Gallwch ychwanegu manylion cyswllt, oriau agor, gwefan, disgrifiad, cynnyrch a gwasanaethau, a phostio lluniau a diweddariadau fel y byddech yn gwneud ar sianeli cyfryngau cymdeithasol. Hefyd, gallwch ymateb i adolygiadau sy’n cael eu gadael gan gwsmeriaid, sy'n bwysig eu casglu. Os nad ydych yn siŵr os oes gennych broffil, gwiriwch yn gyntaf. Weithiau, bydd Google yn creu proffil yn seiliedig ar wybodaeth trydydd parti. Os oes proffil o’ch busnes yn bodoli, yna bydd angen i chi ei hawlio a sicrhau bod y wybodaeth yn gywir, gan mai dyma’r pwynt cyntaf ar gyfer cwsmeriaid posibl, yn enwedig o ran oriau agor, ac ati. Sicrhewch eich bod yn cadw’r wybodaeth hanfodol hon yn gyfredol, yn enwedig yn ystod cyfnodau tymhorol.  

Hand on smartphone looking at google maps

 

 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen