Os cynnwys yw ‘brenin’ marchnata digidol, yna cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr yw’r frenhines!

 

Yn syml, mae cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr yn unrhyw fath o gynnwys sydd wedi cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr system, gwasanaeth neu frand ar-lein. Gall y math o gynnwys fod yn unrhyw beth, o negeseuon trydar ac adolygiadau, i ffeiliau fideo a sain. Os yw’ch cynulleidfa, cefnogwyr neu gwsmeriaid yn creu rhywbeth am eich cynhyrchion neu wasanaethau, yna bydd gennych chi gynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr ar flaen eich bysedd!

 

Er bod cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr yn golygu efallai y bydd angen i chi ryddhau rheolaeth eich busnes dros y cynnwys sy’n cael ei gynhyrchu a’i rannu, nid yw’n rhywbeth y dylech fod yn troi eich cefn arno! Ymhell o fod yn hunllef logistaidd, gall cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr ddarparu deunydd hyrwyddo creadigol, deniadol, rhad ac am ddim ar gyfer eich brand. Yr hyn sy’n allweddol i integreiddio cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr yn llwyddiannus yn eich strategaeth marchnata digidol, yw dod yn rhan o’r sgwrs a gwneud y mwyaf o’r adnoddau gwerthfawr hyn!  

 

Dyma 4 ffordd allweddol y gallwch ddefnyddio ac elwa ar gynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr:

 

Cynhwyswch eich cynulleidfa

 

Y rheswm pwysicaf pam y dylai cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr fod yn rhan o’ch strategaeth farchnata ar-lein yw ei fod yn annog sgwrs â’ch cwsmeriaid ac yn datblygu perthynas weithredol â’ch brand. Anogwch eich cwsmeriaid i rannu eu lluniau, fideos, blogiau, adolygiadau a phodlediadau gyda chi, neu gofynnwch iddyn nhw eich tagio chi yn eu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol. Trwy gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnwys y mae eich cwsmeriaid yn ei rannu,  bydd gennych chi ymwybyddiaeth well o sut a ble mae eich cwsmeriaid yn siarad am eich busnes. Gallai’r ffordd rydych chi’n ymgysylltu â’ch cynulleidfa gynnwys gwneud sylwadau ar eu blogiau adolygu, ail-drydar eu cynnwys, neu ofyn i roi eu cynnwys ar eich gwefan.

 

Ychwanegwch elfen sylfaenol hollbwysig

 

Mae dilysrwydd yn bwysig i ddefnyddwyr mewn byd sy’n dod yn fwyfwy digidol. Gall hyrwyddo’r cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr a rennir ynghylch eich cynhyrchion, eich gwasanaethau a’ch brand, helpu i weithredu fel offeryn ‘ar lafar’ ar-lein. Gall lluniau, fideos ac adolygiadau helpu i greu lefel o ymddiriedaeth gyda chwsmeriaid newydd, gan fod hyn yn darparu prawf cymdeithasol gan gwsmeriaid presennol, yn ogystal ag arddangos eiriolwyr ar gyfer ansawdd a gwerth cynhyrchion neu wasanaethau eich brand.  

 

Crëwch gystadlaethau cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr

 

Os nad yw’ch cwsmeriaid eisoes yn cymryd rhan mewn creu eu cynnwys eu hunain, gallwch eu hannog nhw i gymryd rhan trwy gynnal cystadleuaeth sy’n canolbwyntio ar gynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr. Gallai’r gystadleuaeth fod yn rhywbeth mor syml â rhannu llun ohonynt eu hunain gyda’ch cynnyrch a hashnod pwrpasol, neu rywbeth mwy anturus fel creu clip doniol 30 eiliad yn defnyddio eich gwasanaeth. Meddyliwch y tu allan i’r blwch a gallai’r cynnwys hwn greu cyffro ar-lein!

 

Sicrhewch fod defnyddwyr yn cymryd rhan yn eich proses greadigol

 

Ffordd arloesol arall i gael eich defnyddwyr i gymryd rhan yn eich busnes yw cynnig cyfle iddyn nhw helpu dylunio cynnyrch neu ffurfio gwasanaeth. Nid yn unig y bydd hyn yn rhoi safbwynt newydd a chreadigol ar gynigion eich brand, eich cwsmeriaid sy’n gwybod orau beth maen nhw ei eisiau! Beth am gael eich cynulleidfa i gyflwyno eu cynigion, yna annog defnyddwyr eraill i bleidleisio dros eu ffefrynnau. Mae hon yn ffordd ddychmygus i ymgysylltu â’ch cynulleidfa, yn ogystal â dull arloesol o ddefnyddio ymchwil y farchnad.

 

Mae’r awgrymiadau hyn yn llond llaw yn unig o’r ffyrdd y gall eich busnes wneud y mwyaf o gynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr, i ymgysylltu â chwsmeriaid, meithrin ymddiriedaeth, a hyrwyddo eich cynhyrchion neu wasanaethau’n greadigol!

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen