Mae hi wedi dod yn llawer haws i roi bywyd i’ch brand ar-lein gyda thwf llwyfannau cyfryngau cymdeithasol sy’n rhannu delweddau. Mae Instagram yn llwyfan syml ond deniadol iawn ar gyfer brandiau os caiff ei ddefnyddio’n effeithiol. Ym mis Mehefin 2016, cyhoeddodd Instagram bod ei chymuned wedi tyfu i fwy na 500 miliwn o Instagramwyr, gyda 300 miliwn o'r rheini yn defnyddio'r llwyfan bob dydd. Lle bynnag yr ydych yn y byd, mae'n bosibl dod o hyd i a chysylltu gyda’r farchnad a ddymunir gan fod defnyddwyr Instagram yn weithgar ar draws y byd gyda "mwy na 80 y cant ohonynt yn byw y tu allan i'r Unol Daleithiau".

Gyda ffigurau defnydd o Instagram wedi dyblu dros y 2 flynedd diwethaf a 30% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd bellach wedi ymuno gydag Instagram (GlobalWebIndex), byddai'n ffôl i fusnesau anwybyddu'r cyfle i ddatblygu eu brand a’u rhwydwaith arbenigol ar y llwyfan cymdeithasol hwn.

Os ydych megis dechrau neu'n chwilio i ddatblygu eich brand ar y cyfryngau cymdeithasol, dyma 4 ffordd y gallwch ddefnyddio Instagram ar gyfer busnes:

Annog defnyddwyr i grwydro siopau

Gall lluniau a delweddau fod yn ffordd greadigol a diddorol i arddangos eich cynnyrch. Defnyddiwch Instagram fel catalog arloesol ar gyfer eich cynnyrch neu wasanaeth drwy wahodd cwsmeriaid posibl neu bresennol i edrych ar y cynigion busnes a gweld y cynnyrch mewn sefyllfaoedd go iawn. Opsiwn arall yw rhannu cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr i arddangos y cynnyrch neu'r gwasanaeth ar waith gan gwsmer go iawn. Drwy wneud hyn, bydd defnyddwyr yn cael teimlad real o’r hyn mae eich busnes yn ei gynnig ac yn gallu gwneud penderfyniad gwybodus i brynu.

Datblygu eich personoliaeth brand ar-lein

Mae delweddau yn ffordd ddyfeisgar o rannu cipolwg 'tu ôl i lenni' eich busnes ac yn helpu i ddatblygu eich personoliaeth brand ar-lein. Trwy gynnwys eich cwsmeriaid a chefnogwyr yn y prosesau busnes a’u gwahodd i gyfarfod y tîm y tu ôl i enw’r brand, byddwch yn dechrau datblygu cymuned ar-lein dryloyw a chynhwysol. Mae hyn i gyd yn cyfrannu at ymgysylltu â chwsmeriaid posibl a gwneud i’ch cwsmeriaid presennol deimlo eu bod yn buddsoddi yn eich brand.

Ymgysylltu eich dilynwyr mewn perthynas ystyrlon

Mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o ymgysylltu â'ch cwsmeriaid a chefnogwyr drwy gyfathrebu dwyffordd. Dylech annog eich cwsmeriaid i dagio eich busnes yn eu lluniau a defnyddio eich hashnod personol chi. Byddwch yn gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae pobl yn defnyddio eich cynnyrch a gwasanaeth, darllen eu hadborth, ymateb i’w sylwadau a gofyn iddynt rannu eu hadolygiadau ar eich tudalen chi. Drwy ddilyn eich defnyddwyr yn ôl  byddwch yn gallu gweld y mathau o bobl sy'n ymgysylltu â'r busnes a’r cynnwys maen nhw’n ei rannu. Bydd y rhyngweithio hwn yn helpu eich cwsmeriaid i deimlo’n bwysig i'ch busnes, yn eich galluogi i gael gwell dealltwriaeth o'ch cynulleidfa ac yn galluogi'r busnes i ddatblygu cysylltiadau ystyrlon gyda defnyddwyr a chwsmeriaid.

Ysbrydoli a chynnig budd i’ch cwsmeriaid

Nid yw Instagram yn llwyfan i hyrwyddo eich cynnyrch a gweithgareddau yn unig. Yn hytrach, meddyliwch am eich proffil fel cyfle i gysylltu â chwsmeriaid posibl a phresennol. Pa fath o gynnwys byddent yn hoffi eu gweld? Cyfunwch eich arbenigedd a gwybodaeth benodol gyda diddordebau eich cwsmeriaid drwy gynnig cyngor, ysbrydoliaeth a chynnwys apelgar arall. Os bydd defnyddwyr yn teimlo eich bod yn ceisio gwerthu iddynt o hyd byddant yn dueddol o ymddieithrio â'r busnes. Bydd cynnig cynnwys ychwanegol sy'n cadw diddordeb y defnyddwyr yn helpu i ddatblygu'r brand yn ffynhonnell o ganllawiau, adloniant neu ysbrydoliaeth ym mywyd bob dydd y defnyddiwr.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen