Swyddogaeth integreiddio systemau yw cael holl systemau meddalwedd a chymwysiadau eich busnes yn cydweithio, p’un a ydyn nhw yn y cwmwl neu’n feddalwedd etifeddol a osodwyd ar weinyddion.

 

Felly, beth yw ystyr hynny mewn gwirionedd?

Dywedwch fod cwsmer newydd wedi prynu rhywbeth o’ch siop. Yn y cefndir, dylai eich systemau swyddfa ddechrau gweithio a defnyddio’r wybodaeth y maen nhw wedi’i fewnbynnu i gynhyrchu e-bost awtomatig sy’n anfon nodyn o ddiolch am eu pryniant. Tra bod hyn yn digwydd, anfonir neges destun i’w ffôn yn nodi pryd y disgwylir i’r cynnyrch gael ei ddanfon.

 

Tra bod eich cwsmer chi yn derbyn y wybodaeth ddefnyddiol hon, bydd eich lefelau stoc yn cael eu diweddaru yn awtomatig, ac os ydyn nhw’n mynd yn isel, bydd y system yn achosi iddyn nhw gael eu hailarchebu gan y cynhyrchwr. Yn ogystal, bydd manylion y cwsmer yn cael eu hychwanegu neu’n cael eu diweddaru ar eich system RhCC, er mwyn dilyn eu harferion prynu a’ch helpu chi i dargedu nhw yn well gyda gohebiaeth yn y dyfodol.

 

Mae’r gweithgaredd llyfn hwn yn enghraifft o roi integreiddio systemau ar waith!

 

Mae integreiddio systemau yn ymdrin â chreu prosesau mewnol cydweithredol lle mae eich systemau TG yn gweithio gyda’i gilydd ac yn gwella eich prosesau busnes, a darparu’r cwsmer gyda lefel well o wasanaeth.

 

Mae symleiddio’r prosesau hyn yn dod yn bwysicach nag erioed, ond mae’n dod yn haws nag erioed hefyd, diolch i fynediad at amrediad o atebion ar-lein sy’n ymdrin â’ch anghenion busnes arbennig chi.

 

Os ydych chi’n defnyddio offer ar gyfer cyfrifyddu, rhestr eiddo, taliadau, RhCC, man gwerthu neu unrhyw broses allweddol arall, mae’n bwysig eich bod chi’n eu defnyddio nhw i’ch potensial llawn drwy osgoi eu defnyddio nhw fel ‘ynysoedd o wybodaeth’, a sicrhau yn lle hynny, eu bod yn siarad gyda’i gilydd yn effeithiol ac effeithlon!

 

Beth yw’r buddion o integreiddio systemau?

Gall helpu eich systemau TG i gyfnewid gwybodaeth ddod â nifer o fuddion, fel:

 

Mwy o gynhyrchiant ac effeithlonrwydd – Pan mae systemau yn cydweithio, gall hyn ryddhau lawer o ‘amser gweinyddol’ i weithwyr, a fyddai fel arall yn gorfod mewnbynnu’r un data â llaw i raglenni ar wahân, gan eu galluogi nhw i ganolbwyntio ar weithgareddau eraill er mwyn cynhyrchu mwy o refeniw.

 

Gwell dealltwriaeth o wybodaeth – Mae’n llawer haws aros yn wybodus a chael trosolwg cyfredol ynglŷn â sut mae eich busnes yn perfformio os ydych chi’n gorfod adolygu un system yn unig, yn hytrach nag adolygu sawl system unigol.

 

Arbedion cost – Gall integreiddio leihau’r gost a’r amser sydd ynghlwm â chynnal a chadw a diweddaru sawl system yn sylweddol.

 

Beth yw eich camau cyntaf?

 

Dechreuwch drwy feddwl ynglŷn â sut y gallai eich busnes chi elwa o integreiddio ei systemau TG. Gallai’r buddion hyn ddod nid yn unig o brosesau mewnol gwell, ond yn ogystal ar ffurf gwell gwasanaeth cwsmer a chysylltiadau gwell â’ch partneriaid masnachu.

 

Gallai techneg sy’n cael ei hadnabod fel ‘nodi prosesau busnes’ eich galluogi chi i nodi a deall y camau allweddol yn eich prif brosesau o’r cychwyn i’r diwedd. O’r wybodaeth hon, gallwch chi wedyn sefydlu’r data a’r systemau sydd eu hangen er mwyn i’r broses redeg yn effeithiol. Unwaith y mae’r siwrnai hon wedi cael ei nodi, gallwch chi edrych ar sut y gallwch chi symleiddio’r llif o wybodaeth a’r cyfleoedd ar gyfer integreiddio systemau gwahanol.

 

Unwaith yr ydych chi wedi nodi’r cyfleoedd hyn, yr her wedyn yw nodi’r ateb TG a fydd yn darparu’r lefelau angenrheidiol o integreiddio yr ydych chi eu hangen.

 

Sut mae hwn yn cael ei gyflawni?

Y cyfrwng mwyaf cyffredin o integreiddio systemau heddiw yw drwy Ryngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (RhRhC). Yn ei hanfod, offeryn yw hwn, neu lyfrgell, sy’n cynorthwyo datblygwyr i ysgrifennu côd sy’n rhyngwynebu â meddalwedd arall.

 

Mae llawer o ddarparwyr meddalwedd yn gwneud defnydd cynyddol o RhRhCau agored, sydd ar gael yn rhad ac am ddim er mwyn annog darparwyr eraill i gysylltu eu cynnyrch, ac felly’n creu amrediad eang o gynigion ar gyfer eu cwsmeriaid. Mae’r dull hwn yn sicr wedi cydio yn y byd Meddalwedd fel Gwasanaeth (MfG), lle mae llawer o’r prif apiau busnes yn dod gyda chynigion integredig eisoes yn bodoli ar gyfer cynnyrch cyflenwol arall, ac felly mae’n werth edrych beth sydd ar gael cyn dewis.

 

Mae integreiddwyr arbenigol eraill yn cynnig atebion sydd wedi’u teilwra, dull sy’n cael ei ddefnyddio yn aml pan mae gofyniad i integreiddio systemau etifeddol â gwasanaethau seiliedig ar gwmwl.

 

Parhau yn gystadleuol

 

Un o’r rhesymau allweddol pam y dylech chi ystyried integreiddio eich systemau yn awr yw cynnal y lefelau gwasanaeth y mae cwsmeriaid yn eu disgwyl fwyfwy. Os nad yw eich systemau chi’n gallu darparu’r gwasanaeth hwn yn awr, gallwch chi warantu y bydd eich cystadleuwyr yn barod i gamu i mewn.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen