Os ydych yn ceisio bod yn greadigol yn y ffordd yr ydych yn rhyngweithio â’ch cwsmeriaid ac y gallech weld twf oherwydd y gallu i gyrraedd eich cynulleidfa unrhyw adeg o’r dydd, gallai eich busnes elwa’n sylweddol o ddatblygu ei ap symudol ei hunan.

 

Yn ôl ymchwil o GoGlobe, mae defnyddwyr ffôn glyfar yn awr yn treulio 89% o’u hamser cyfryngau symudol yn defnyddio apiau symudol a daeth 42% o’r holl werthiant symudol a gynhyrchir gan y 500 masnachwr mwyaf blaenllaw o apiau symudol.

 

Os ydych yn ceisio ymgysylltu â’ch cynulleidfa mewn ffyrdd newydd ac yn barod i ddod yn rhan o’r farchnad apiau symudol sydd ar gynnydd, dyma’r 9 prif beth y dylech eu gwneud wrth ddatblygu eich ap symudol eich hunan.

 

Penderfynwch ar eich prif nod

 

Felly, mae gennych syniad am ap - beth nawr? Cyn i chi ddechrau datblygu golwg, arddull a logisteg eich ap, bydd angen i chi ddiffinio pwrpas ac amcan/ion eich ap. Beth fydd yr ap yn ei wneud? Sut bydd yn ymgysylltu â’ch defnyddwyr? Beth yw’r prif nod? Sut bydd hwn yn ychwanegu gwerth at brofiad y defnyddiwr ar-lein? Bydd penderfynu ar eich prif nod o fantais fawr i broses ddatblygu eich ap.

 

Sut olwg fydd ar eich ap?

 

Gan eich bod wedi diffinio eich syniad a’ch nod erbyn hyn, gallwch ddechrau cynllunio sut olwg fydd ar yr ap. Does dim angen i chi greu cynlluniau o ansawdd uchel, uwch dechnoleg yn ystod y cam hwn.  Dechreuwch drwy fraslunio eich gweledigaeth ar gyfer yr ap. Bydd hyn yn help i chi osod y seiliau ar gyfer yr ap er mwyn helpu eich tîm i gael gwell dealltwriaeth o’r cysyniad.

 

Ymchwiliwch y farchnad apiau

 

Mae’n amser i chi wneud eich ymchwil. Dylech anelu at ddeall os oes apiau tebyg ar y farchnad, pwy yw’ch cystadleuwyr a sut gall eich ap chi lenwi bwlch yn y farchnad. Mae angen ysbrydoliaeth arnoch ar gyfer eich ap hefyd, ac mae angen i chi ddeall y gofynion technegol a sut y gallwch bennu gwerth eich ap. Does dim ots pa mor wych yw eich syniad, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r hyn sydd eisoes yn digwydd yn y farchnad a’ch diwydiant. Dysgwch o lwyddiannau a chamgymeriadau eich cystadleuwyr. Bydd y broses ddysgu hon yn help i chi ddatblygu ap fydd yn unigryw.

 

Crëwch brototeip

 

Bydd y rhan hon o’r siwrne yn dechrau dod â’ch ap yn fyw. Mae nifer o declynnau creu prototeip ar gael ar lein fel Marvel appMoqup Balsamiq Mockups. Bydd y teclynnau hyn yn caniatáu i chi ddechrau rhoi graffeg, testun a botymau yn eu lle fel y gallwch ddechrau datblygu’r map a deall y mordwyo fydd yn eich arwain at eich ap!

 

Profwch eich ap

 

Gofynnwch i’ch ffrindiau, teulu, cydweithwyr ac unrhyw fentoriaid o’ch amgylch brofi eich ap prototeip. Gofynnwch iddyn nhw am eu sylwadau go iawn, unrhyw broblemau y maent yn eu hwynebu ac argymhellion ar gyfer gwelliant. Gallech gymryd y cyfle i wylio sut y maent yn defnyddio’r ap er mwyn deall sut y gallai eich cynulleidfa fordwyo’r ap a phrofiad y defnyddiwr. 

 

Adeiladwch eich ap!

 

Mae’r amser wedi dod i chi adeiladu eich ap. Bydd angen i’ch datblygwr greu gweinyddion, cronfeydd data, atebion o ran storio a rhagor. Yn ystod y cam hwn, gallwch gofrestru ar gyfer cyfrifon datblygu ar y marchnadoedd y bydd eich ap ar gael arnynt.

 

Mae’n amser profi eto

 

Wrth i’ch ap ddechrau ffurfio, mae’n bwysig gwneud rownd arall o brofion. Dyma pryd y bydd gennych graffeg, testun a’r gwahanol ‘grwyn’ neu sgriniau ar gyfer eich ap yn barod i’w hadolygu. Yn ystod yr adolygiadau hyn, ystyriwch ddefnyddioldeb, cynllun, ymarferoldeb a’r holl nodweddion allweddol allai arwain at eich ap yn llwyddo neu fethu pan aiff ar y farchnad.

 

Newidiadau terfynol

 

Wedi i chi brofi eich cynllun a chasglu rhagor o adborth, gallwch ddefnyddio’r mewnbwn hwn i wneud newidiadau, diwygio eich ap a gwneud y newidiadau terfynol yna. Yn ystod yr amser hwn, mae cyfle o hyd i chi ofyn i’ch cynllunydd newid y cynlluniau a gofyn i’ch datblygwr wneud newidiadau ychwanegol i’ch ap. 

 

Rhyddhewch eich ap - marchnatwch ef

 

Mae’n amser cyflwyno’r ap! Bydd y ffordd y bydd eich ap yn cael ei lawr lwytho i’r farchnad yn wahanol gan ddibynnu ar y math o farchnad a bydd gan y rhain bolisïau, fframiau amser a phrosesau adolygu gwahanol. Pan fydd eich ap ar gael, dylech ddechrau ei farchnata. Arweiniwch eich ymwelwyr a’ch cwsmeriaid tuag at yr ap newydd a chynhwyswch ddolenni lawr lwytho ar hyd eich mannau cyffwrdd ar-lein gwahanol. 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen