Os ydych yn cynllunio lansio gwefan newydd neu’n ailgynllunio eich safle presennol, yna bydd angen i chi ddatblygu dogfen friffio ar gyfer dylunydd eich gwefan. Bydd manyleb y wefan yn amlinellu’n union beth sydd ei angen arnoch o’ch gwefan a’r hyn yr hoffech iddi ei wneud ar gyfer eich busnes. 

 

Mae gennym syniadau i’ch helpu i ysgrifennu briff gwefan gwych:

 

Buddsoddwch amser yn y broses gynllunio

 

Gall ysgrifennu briff ymddangos yn dasg ddiflas i’w gwneud ar frys ond mae’n bwysig sylweddoli bod hwn yn gyfle allweddol i arbed amser, ymdrech ac arian drwy ddatblygu manyleb gwefan fanwl cyn i chi ddechrau. Mae cymryd amser i feddwl am beth yn union yr ydych ei eisiau yn help i ffocysu eich meddyliau a gallai hyn ysbrydoli syniadau newydd, arloesol yn ystod y broses.

 

Siaradwch â’ch tîm

 

Gofynnwch am fewnbwn gan y bobl fydd yn gweithio gyda’r wefan neu’n ei defnyddio. Mae’n bwysig deall beth sydd ei angen o’r safle ar y tîm, beth fydd yn help iddyn nhw wneud eu gwaith yn effeithlon a’u syniadau ynglŷn â beth allai fod o fudd i ymwelwyr. Meddyliwch yn y tymor hir, nid y tymor byr, i sicrhau y bydd eich buddsoddiad yn werth chweil ar gyfer y dyfodol agos.

 

Gwnewch yn siŵr bod manyleb dogfen eich gwefan mewn fformat clir

 

Dylai manyleb eich gwefan gynnwys y manylion hyn, o leiaf:

 

Cefndir eich cwmni

 

Os yw’ch dylunwyr yn deall eich cwmni a’ch diwylliant, bydd hi’n llawer haws iddyn nhw ddatblygu rhywbeth sy’n addas i’ch brand.

 

Gwybodaeth am nodau eich busnes

 

Heb rannu gwybodaeth sensitif, eglurwch eich targedau a’ch amcanion er mwyn galluogi’r dylunydd gwe i deilwra eich gwefan yn unol â hyn. Gallai hyn fod yn rhywbeth tebyg i “i ail-lansio ein cwmni fel ei fod yn apelio at farchnad iau o 16 – 25 oed”.

 

Ydy’r wefan wedi ei hailgynllunio neu ydy hi’n newydd sbon?

 

Bydd hyn yn ychwanegu at amser a chostau’r prosiect.

 

Ydych chi’n defnyddio cyfeiriad gwefan presennol (URL)?

 

Mewn achos o URL newydd, bydd angen i’ch dylunydd chwilio am un sy’n addas a’i brynu. Os ydych yn mynd i ddefnyddio URL newydd yn lle eich cyfeiriad presennol ar y we, bydd angen i chi ofyn i’ch dylunydd sefydlu ‘301 Redirect’ o’ch hen safle. Bydd hyn yn sicrhau y caiff unrhyw un sy’n chwilio am eich hen gyfeiriad ar y wefan ei arallgyfeirio i’r wefan newydd. Bydd hefyd angen i chi wneud trefniant i gynnal eich gwefan a thalu amdani. Dylai’ch dylunydd gwe allu eich cynghori ynglŷn â pha drefniant cynnal sydd ei angen a’ch helpu i gael prisiau gan gwmnïau sy’n cynnig y gwasanaeth hwn.

 

Beth yw’ch disgwyliadau o’ch gwefan newydd?

 

Disgrifiwch y rôl y bydd eich gwefan newydd yn ei chwarae o ran cyflwyno amcanion eich cwmni. Er enghraifft, ydy hi’n arddangos eich gwasanaethau neu’n safle e-fasnach fydd hyn cynhyrchu 100% o’ch gwerthiannau?

 

Sut olwg ydych chi’n ei ddymuno ar gyfer eich gwefan?

 

Rhowch enghreifftiau i’ch dylunwyr o’r math o safle yr ydych yn chwilio amdani neu nodweddion penodol yr ydych eu heisiau. Gadewch iddyn nhw wybod beth rydych yn ei edmygu o ran cynnwys, swyddogaeth a chynllun.

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am nodweddion allweddol a gofynion gwefan

 

Dylech ofyn i’ch gwefan fod yn ymatebol, yn cydymffurfio â WC3, wedi ei optimeiddio o ran peiriannau chwilio ac yn cynnwys y codau ar gyfer dadansoddeg. Bydd gwefan ymatebol yn addasu’n awtomatig o fynd arni ar ddyfeisiadau symudol, a bydd gwefan gydymffurfiol yn hawdd cael mynediad iddi, yn ymarferol ac yn hawdd ei mordwyo. Bydd gwefan sydd wedi ei hoptimeiddio yn helpu i’ch safle ymddangos yn uwch mewn peiriannau chwilio a bydd dadansoddeg gwefannau yn rhoi gwybodaeth angenrheidiol i chi am berfformiad eich safle. Dylai’r rhain fod yn rhan o arfer da safonol i ddylunydd gwe ond mae’n ddefnyddiol bod ag ymwybyddiaeth o ffactorau allweddol gwefan dda. 

 

Pa mor aml fydd eich gwefan yn cael ei diweddaru?

 

Mae cynnwys statig yn golygu na fydd eich gwefan yn newid yn aml, ond mae gwefannau deinamig yn newid yn gyson. Os bydd eich gwefan yn statig, yna efallai y bydd yn well gennych ofyn i’ch dylunydd gwe wneud diweddariadau. Fodd bynnag, y dyddiau hyn, mae gan y rhan fwyaf o fusnesau gynnwys deinamig y maent yn ei osod eu hunain trwy system rheoli cynnwys (CMS).

 

Sut bydd cwsmeriaid yn defnyddio eich gwefan?

 

Ystyriwch sut y bydd ymwelwyr yn mynd ar siwrne trwy’ch gwefan gan y dylai fod mor llyfn â phosibl. Mae map yn ddiagram (tebyg i siart llif) fydd yn dangos yr holl dudalennau arfaethedig ar gyfer eich gwefan a sut y bydd defnyddwyr yn gallu mordwyo o un dudalen i’r llall.

 

Dywedwch o flaen llaw beth yw eich amserlen a’ch cyllideb

 

Yn hytrach na gwrthod rhoi cyllideb, yn y gobaith am gytundeb gwell, rhowch ystod synhwyrol i’ch dylunydd weithio oddi mewn iddo. Gallai hyn eich helpu i gael pris da yn y tymor hir.

 

Yn olaf, mynnwch o leiaf dri phris cystadleuol

 

Pan fyddwch wedi cwblhau manyleb eich gwefan ac y bydd nifer o ddylunwyr wedi dangos diddordeb, adolygwch a chasglwch y tri phris gorau. Dewiswch rywun sy’n gweddu ar gyfer eich cyllidebau, yn deall eich anghenion ac y gallech ddatblygu perthynas barhaol â nhw, oherwydd y gallech fynd ymlaen i weithio gyda’r dylunydd am flynyddoedd i ddod. 

 

Dylai’r syniadau hyn eich helpu i ddatblygu briff gwefan gwych a fydd, yn y pendraw, yn arwain at wefan wych!

 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen