Mae tymor y Nadolig wedi cyrraedd ac mae pobl yn barod i fynd ar eu sbri wario flynyddol. Y llynedd, yn ôl y Ganolfan Ymchwil Manwerthu, gwariodd defnyddwyr Prydain y swm syfrdanol o £79.716 biliwn dros gyfnod y Nadolig. A gwariwyd £25.107 biliwn o’r swm hwn ar-lein, sy’n gynnydd o 10.1% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae defnyddwyr y DU yn defnyddio mwy o’u dyfeisiau symudol, gydag archebu oddi ar ddyfais symudol yn ystod Nadolig 2018 yn cyfrif am 54.2% o’r holl wariant manwerthu ar-lein.

Beth am Nadolig 2019? Mae’r Ganolfan Ymchwil Manwerthu’n amcangyfrif y bydd Brexit a’r Etholiad Cyffredinol yn effeithio ar wariant defnyddwyr yn y DU dros y Nadolig eleni, ond mae dal disgwyl i wariant gynyddu o 0.8% i £80.27 biliwn.

Er gwaethaf rhagfynegiadau o wariant yn arafu, mae’r farchnad brynu bosibl yn enfawr. Felly, sut y gallwch chi fanteisio ar y farchnad hon a denu rhagor o gwsmeriaid dros y Nadolig?

A Christmas tree with baubles.


Rhowch wedd Nadoligaidd i’ch gwefan

Eich ffenestr siop ar-lein yw eich gwefan. Nawr yw’r amser i ystyried eich sefyllfa’n ofalus, adolygu eich gwefan a bod yn wrthrychol. Pa mor ddeniadol yw hi i ddarpar gwsmeriaid? Oes angen diweddaru’r cynnwys? A oes galw clir i weithredu? Ceisiwch weld trwy lygaid eich cwsmeriaid - a yw’n hawdd iddynt ddod o hyd i'r hyn maen nhw'n chwilio amdano? Os yw eich gwefan yn anodd ei llywio, byddwch yn colli cwsmeriaid posibl, ac ni fyddant yn trafferthu dychwelyd.

Mae cadw’ch gwefan wedi’i ddiweddaru’n cymryd amser ac ymdrech ond bydd y canlyniadau'n werth chweil. Mae cynnwys yn hollbwysig ac mae peiriannau chwilio fel Google yn talu llawer mwy o sylw i wefannau sy’n cael eu diweddaru’n gyson gyda chynnwys newydd. Drwy ddiweddaru eich gwefan byddwch chi’n dringo’n uwch yn y canlyniadau chwilio, yn cyrraedd rhagor o bobl, ac yn parhau i fod yn gystadleuol. Os nad ydych chi’n sicrhau bod eich gwefan yn edrych yn ffres, gallwch fod yn sicr na fydd eich cystadleuwyr yn gwneud yr un camgymeriad!

Yn anad dim, sicrhewch fod eich gwefan wedi'i hoptimeiddio'n llawn ar gyfer dyfeisiau symudol. Yn 2018, cafodd 66.7% o’r holl siopa ar-lein yn y DU ei gwblhau ar ddyfeisiau symudol, yr ail uchaf yn Ewrop gyfan.

Gwnaeth cwmni o Gaerffili o’r enw Bearhug optimeiddio ei wefan drwy integreiddio ‘shopify’, gan arwain at gynnydd o 50% yn ei werthiannau ar-lein.

Byddwch yn gymdeithasol gyda Facebook Ads

Er gwaetha’r ffaith bod llu o blatfformau cyfryngau cymdeithasol cystadleuol yn brwydro yn ei erbyn, mae Facebook dal ymhell ar y blaen gyda 2.45 biliwn o ddefnyddwyr gweithredol bob mis yn nhrydydd chwarter 2019. Mae hyn yn golygu mai Facebook yw’r wefan cyfryngau cymdeithasol fwyaf yn y byd ac yn lle gwych i farchnata eich busnes i gwsmeriaid posibl

Gall Facebook Ads eich helpu i dargedu defnyddwyr yn ôl lleoliad, demograffeg, oedran, rhyw, diddordebau, ymddygiad a chysylltiadau. Mae Facebook yn eich galluogi i reoli faint rydych chi'n ei wario a phryd y caiff eich hysbysebion eu postio. Bydd hefyd yn rhoi mynediad i chi at adnoddau monitro fel y gallwch fesur pa mor llwyddiannus yw eich hysbysebion mewn amser real. Mae hyn yn golygu y gallwch glustnodi’ch gwariant i'r hysbysebion sy'n cynhyrchu’r canlyniadau gorau, gan ddifodd unrhyw rai sy'n tangyflawni.

Yn ôl Adroddiad Arolwg Aeddfedrwydd Digidol 2018, mae mwy na 75% o fusnesau bach a chanolig Cymru yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â chwsmeriaid. Dangosodd yr adroddiad hefyd mai’r sectorau llety a gwasanaethau bwyd sy’n arwain y ffordd pan ddaw at y cyfyngau cymdeithasol. Mae busnes glampio yn y gogledd, sef Wonderfully Wild, yn enghraifft wych o hyn. Mae’r cwmni’n defnyddio Hysbysebion Facebook yn llwyddiannus i ennyn diddordeb yn ei lety mewn arddull saffari ac i sicrhau ei fod bob amser yn llawn.


Byddwch yn ddoeth gyda marchnata e-bost

Gyda 281 biliwn o e-byst yn cael eu hanfon a’u derbyn bob dydd yn ystod 2018, a disgwyl i nifer y defnyddwyr e-byst byd-eang gyrraedd 4.4 biliwn erbyn 2023 yn ôl Statista, mae’n ymddangos bod marchnata e-bost yn mynd o nerth i nerth. Mae marchnata e-bost yn parhau i fod yn un o'r arfau marchnata ar-lein rhataf a mwyaf effeithiol sydd ar gael. Fodd bynnag, gyda chymaint o e-byst yn llifo i fewnflychau, sut ydych chi'n gwneud i’ch neges chi sefyll ar wahân?

Gwnewch i’r darllenydd gredu eich bod chi’n siarad yn uniongyrchol â nhw, felly newidiwch eich e-bost i fod yn fwy personol lle bo’n bosibl. Ysgrifennwch linell bwnc cadarn sy'n ennyn y darllenydd i agor eich e-bost a chael gwybod mwy. Cadwch eich syniadau i’r lleiaf posibl a sicrhewch fod eich neges yn ddiddorol ac yn ddengar gyda galw clir i weithredu. Byddwch yn gryno, rydych chi’n ceisio temtio’r darllenydd i glicio i gael rhagor o wybodaeth – does neb eisiau sgrolio drwy e-bost yr un hyd â’r Mabinogi!

Defnyddiwch ddadansoddiadau i fesur eich cyfraddau agor a chlicio drwodd, ac addaswch eich ymgyrchoedd e-bost yn unol â hynny. Arbrofwch – os nad oes rhywbeth yn gweithio, rhowch gynnig ar newid y llinell pwnc neu’r cynnwys tan eich bod chi’n cael y canlyniadau rydych chi eu heisiau. Dysgwch pryd fydd eich cwsmeriaid yn fwyaf tebygol o fod yn ymatebol a threfnwch eich ymgyrchoedd e-bost ar gyfer yr amseroedd hyn. Mae digonedd o blatfformau marchnata e-bost wedi’i awtomeiddio, fel MailChimp a HubSpot, sy’n eich galluogi chi i wneud hyn.

I ddysgu rhagor am y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol, yn ogystal â thechnolegau digidol eraill a allai helpu i dyfu eich busnes, cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth cymorth am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau heddiw.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen