Fel perchennog busnes arobryn, llwyddiannus, mentor i entrepreneuriaid benywaidd, a rhywun pwerus a dylanwadol, roeddem ni’n awyddus i siarad â Marsha Ward am sut gall technoleg ar-lein helpu busnesau o bob maint fabwysiadu arferion modern a chefnogi menywod yn y gweithle.

 

Fel Prif Swyddog Gweithredol a Sefydlydd The Number Hub, mae Marsha Ward yn wybodus ynghylch defnyddio’r cwmwl, ar ôl adeiladu asiantaeth cyfrifeg arobryn sy’n canolbwyntio ar wella profiad y defnyddiwr trwy ymagwedd ar sail cwmwl.

 

Cyrhaeddodd The Number Hub rownd derfynol Womenspire 18 yng Ngwobr FairPlay Employer ochr yn ochr â’r DVLA, Dŵr Cymru ac United Welsh. Mae’r wobr yn dathlu sefydliadau sy’n defnyddio arferion gweithio modern i sicrhau eu bod nhw’n defnyddio sgiliau eu holl staff.

 

Mae’n deg dweud bod The Number Hub wedi gosod technoleg ddigidol wrth wraidd beth maen ei wneud. Sut mae’r busnes yn defnyddio technoleg i weithredu o ddydd i ddydd, a chynorthwyo cwsmeriaid? Pa fuddion a welwch chi yn sgil defnyddio technoleg? 

 

Mae The Number Hub wedi bod yn masnachu ers 4 blynedd yn helpu busnesau i ddechrau a thyfu. Dyluniwyd gweithrediadau ac ethos ein busnes o’r cychwyn i’w ddiogelu yn y dyfodol a’i gynyddu’n hawdd. Mae The Number Hub yn cynnig ymagwedd ffres a modern at gyfrifeg.

 

Datblygwyd ein gwasanaethau ar sail cwmwl mewn cydweithrediad â’n cleientiaid, gan ystyried eu hanghenion wrth eu dylunio. O’r cychwyn, roedd yn bwysig ein bod ni’n datblygu cynnig llai rhagnodol.

 

Trwy gael gwared ar y rhwystrau i gyflogaeth trwy arferion gweithio modern a grymuso unigolion i wneud penderfyniadau, rydym ni wedi gallu creu rhywbeth arbennig.

 

Rydym ni wedi meithrin, trawsffurfio a buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf i wella bywydau gweithio’r rheiny sydd wedi bod (ac sy’n parhau i fod) yn rhan o’n taith. Yn gyfnewid, yn ystod ein hail flwyddyn yn masnachu, cynyddodd ein refeniw o 96%, ac yn 2017, tyfom 182%.

 

Pa mor bwysig ydych chi’n meddwl bydd y cwmwl  i ddyfodol busnesau (bach a mawr)?

 

Mae ein busnes yn defnyddio technoleg ar sail cwmwl sy’n cynorthwyo‘r gallu i ehangu yn fawr, yn ogystal â nifer o fudion eraill y soniwyd amdanynt yn flaenorol. Gallwn fod yn hollol ystwyth fel darparwr gwasanaeth, a pharhau i gynnig gwasanaeth ni waeth ble yw’r lleoliad.  

 

Gyda’r ymagwedd hon, mae ein cyfleoedd i’w gyflwyno i gynulleidfa fyd-eang llawer yn fwy syml. Mae’r byd llawer yn llai. Mae’r rhwystrau llawer yn llai heriol.

 

Mae ein profiad wedi arwain at awtomeiddio prosesau cyffredin sy’n cymryd amser, sydd wedi rhyddhau ein tîm i ganolbwyntio ar feysydd mwy ein hymarfer. Rydym ni wedi llunio ecosystem integredig sy’n rheoli proses cyfan cleient, o’r cynnig i’w ddiwedd.

 

Rydym ni eisoes yn gweithio gyda thîm allanol ym Mumbai, ac wedi dechrau ein taith tuag at weithrediad rhyngwladol, sydd - er bod rhai heriau - yn gyffrous. 

 

Byddwn i’n dychmygu y dylai unrhyw fusnes, ni waeth pa ddiwydiant na maint, fod eisoes yn ystyried sut y byddan nhw’n mabwysiadu ac addasu i ddatblygiadau technolegol er mwyn parhau’n gystadleuol.  

 

Fel hyrwyddwr arferion gweithio modern sy’n caniatáu i fenywod dyfu a ffynnu, sut ydych chi’n aflonyddu’r norm i gefnogi gweithwyr benywaidd yn well? Sut gall busnesau ddefnyddio technoleg i ddarparu amgylcheddau a phatrymau gweithio gwell i fenywod?

 

Mae ein hymagwedd at recriwtio a chadw wedi gweithio’n dda i ni dros y pedair blynedd diwethaf. Fel busnes bach, gall fod yn anodd denu’r bobl gywir, felly rydym ni wedi bod yn glir iawn am ein cynnig o’r cychwyn.  

 

Nid yw denu unigolion â sgiliau technegol wedi bod yn broblem hyd yn hyn. Mae angen i ni fod yn ofalus wrth wneud penderfyniadau, i sicrhau ein bod ni’n dod o hyd i unigolion o’r un meddylfryd, gydag arbenigedd technegol a sgiliau rhyngbersonol pwrpasol iawn.

 

Oherwydd bod rhaid i ni fod yn ystwyth i gadw i fyny â’r datblygiadau technolegol diweddaraf yn ein maes, mae angen i’n tîm fod yn ystwyth hefyd. Mae’r ymagwedd hon wedi ein helpu ni i gynnig cyfleoedd i fenywod – fel rhoddwyr gofal canfyddedig cymdeithas – i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau wrth gyflawni eu cyfrifoldebau gofal. Gobeithiwn, wrth i gymdeithas ddatblygu, byddwn ni hefyd yn denu dynion i’n busnes am yr un rheswm.

 

Gyda buddsoddiad parhaus cryf mewn symleiddio trwy dechnoleg ap cwmwl a phethau tebyg, gall aelodau ein tîm, fel ein cleientiaid, weithredu o unrhyw le, a chânt eu rheoli trwy fonitro perfformiad a sianeli cyfathrebu rheolaidd.

 

Mae llawer o fusnesau’n pryderu ynghylch symud i’r cwmwl neu ddefnyddio meddalwedd newydd.

 

Beth yw eich prif awgrym ar gyfer y rheiny sydd newydd ddechrau mabwysiadu technoleg ddigidol ar eu cyfer eu hunain?

 

Mae bod yn arloesol yn ffurf barhaus.

 

Fy nghyngor i berchnogion busnesau eraill yw peidio â bod yn fodlonus, ond arsylwi marchnadoedd newydd, neu ddulliau gweithio newydd.

 

Fodd bynnag, mae’n bwysig peidio â mabwysiadu pethau newydd oherwydd mai dyna’r peth poblogaidd i’w wneud. AI/Awtomeiddio; y chwyldro digidol. Os yw’n gweithio i chi a’ch cleientiaid, yna gwych. Os na, symudwch ymlaen.  

 

Er bod gwneud cyfrifeg yn rhywbeth sy’n fwy na’r hyn ydyw’n draddodiadol, wedi bod yn hwb mawr i ni, ac rydym ni bob amser yn barod i adnewyddu, gofynnwn i ni ein hunain; "Beth sy’n newydd? Beth sydd ar goll? Beth sydd ei angen?"

 

P’un ai prosesau technolegol, arferion gweithio modern, neu ffordd newydd o farchnata ein hunain... byddwn ni bob amser yn barod i adolygu’r cyfle, profi ei alluoedd, a’i gyflwyno yn ein gweithrediadau cyn bod llawer o’n cystadleuwyr wedi dechrau siarad amdanynt. 

 

Byddwch yn aflonyddgar, a pharhewch i fod.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen