Yn union fel y byddai darpar gwsmeriaid yn cerdded heibio blaen siop anhrefnus a gorlawn, mae’r un peth yn wir ar gyfer eich gwefan. Os yw’ch gwefan yn ddryslyd i’w llywio, yn anodd ei defnyddio ac yn rhoi gormod o wybodaeth i ymwelwyr, rydych chi’n debygol o golli eu diddordeb a gwneud iddynt beidio â dychwelyd.

 

Fodd bynnag, gallai rhai newidiadau syml i’ch safle helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, rhoi hwb i drosiant a chynyddu eich presenoldeb ar-lein.

 

Dyma wyth gair o gyngor i gadw eich gwefan yn ddefnyddiwr-gyfeillgar ac yn ddeniadol yn weledol, heb anhrefn di-angen!

 

Adolygwch eich gwefan gam wrth gam

 

Edrychwch ar eich gwefan a’ch dadansoddeg i ddeall y mathau gwahanol o deithiau defnyddwyr ar draws eich safle. Beth mae ymwelwyr yn chwilio amdano ar eich safle chi? A yw’n hawdd cyrraedd yno neu a yw’r camau’n ddryslyd? Darllenwch ein blog defnyddiol yma ar sut i symleiddio taith y defnyddiwr.

 

Manteisiwch ar y cyfle i feddwl am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, yn ogystal â gwerthuso’r safle i weld a oes camgymeriadau neu anghysondebau. A yw fformat y testun yn gywir ac yn gyson? A yw’r dôn yn gyson? A yw’r gramadeg yn gywir? A oes modd darllen y testun yn hawdd? A yw’r lluniau wedi’u picseleiddio neu ddim yn llwytho? A yw’ch brandio yn gyfoes?

 

Symleiddiwch eich bar llywio/hafan

 

Mae sicrhau bod hyn yn gywir yn hanfodol am mai hwn yw canolbwynt eich safle cyfan.

 

Dylai eich bar llywio fod yn syml. Dylai tywys defnyddwyr, gan eu galluogi i ddod o hyd i wybodaeth yn gyflym ac yn hawdd. Peidiwch â rhoi gormod o wybodaeth iddynt.

 

Boed bod eich bar llywio ar un lefel neu ar sawl lefel yn cynnwys cwymplenni, mae’n bwysig eich bod yn meddwl pam ei fod wedi’i drefnu yn y ffordd hon ac a oes modd dileu tabiau diangen.

 

Mae’r erthygl MashableUK ddefnyddiol hon yn cymharu gwahanol fathau o fariau llywio a’r nodweddion y dylech eu hystyried.

 

Cofiwch fod llai yn golygu mwy

 

Tynnwch unrhyw wybodaeth ormodol a dylech gynnwys destun, delweddu a dolenni/botymau sy’n annog neu’n helpu ymwelwyr i wneud penderfyniad neu i weithredu yn unig.

 

Dylai fod gan bob darn o gynnwys neu gopi ddiben clir. Dylech osgoi ailadrodd a sicrhau bod yr holl destun yn hawdd ei ddeall ac yn cadw sylw’r darllenydd.

 

Dilëwch hen elfennau

 

Mae hyn yn swnio’n hawdd ond mae’n hawdd anghofio pan eich bod yn ceisio rheoli gweddill eich swydd!

 

Cadwch gofnod o ddeunydd amser sensitif wrth iddo fynd ar y safle gan ei dynnu yn ôl yr angen. Er enghraifft, nid ydych chi’n dymuno hysbysebu cynnig Sul y Mamau ar ôl y dyddiad. Mae’n gwneud i’ch gwefan edrych yn ddiflas a heb ei rheoli, gan adlewyrchu’n wael ar y brand.

 

Adolygwch yr amser llwytho

 

Peidiwch â gwastraffu eich gwaith caled trwy gynnwys dolenni nad ydynt yn gweithio neu amseroedd llwytho araf. Gwiriwch fod pob tudalen yn llwytho’n effeithiol ac yn ymateb yn gyflym. Os bydd defnyddiwr yn cael trafferth wrth lywio eich safle neu mae’n cymryd yn rhy hir i lwytho, rydych chi’n debygol o’i golli.

 

Cliriwch fotymau CTA

 

Dylech ei gwneud mor hawdd â phosib i ymwelwyr weithredu.

 

Dylai eich botymau gweithredu (CTA) fod mewn mannau amlwg a rhoi arwydd glir ac uniongyrchol o ran yr hyn y maent yn dymuno i’r defnyddiwr ei wneud. Darllenwch ein blog defnyddiol ar sut i greu gweithredoedd effeithiol yma.

 

Delweddu, brandio a fideos o safon uchel

 

Dylai eich safle fod yn hawdd ei ddefnyddio ond hefyd yn apelgar yn weledol. Sut gallwch gydbwyso defnyddio delweddau a fideos tra hefyd yn gadael digon o ‘ardal wen’ ar eich safle fel nad yw’n teimlo’n orlawn neu’n anniben?

 

Dylai’r holl ddelweddu fod yn berthnasol i’r brand, o safon dda a llwytho’n gywir.

 

Manylion cyswllt amlwg

 

Peidiwch â chuddio eich manylion cyswllt. Gwnewch yn syml i gwsmeriaid gysylltu â chi yn gyflym.

 

Yn ogystal â thudalen ‘cysylltu â ni’ amlwg sy’n cynnwys eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn a’ch dolenni cyfryngau cymdeithasol, efallai y byddwch yn penderfynu cynnwys eich rhif ffôn ar frig y dudalen hafan.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen