Yn ôl adroddiad diweddar, mae busnesau Cymru wedi troi at ddigidol i ennyn gwerthiannau a gwneud y gorau o adnoddau yn y frwydr yn ystod y pandemig.

Mae’r Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Cymru 2020 diweddaraf, a gynhyrchwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd, yn dangos bod dros 70% o fusnesau bach a chanolig yn cynnal gwerthiannau ar-lein, a bod dau draean wedi newid i weithio o bell.

Gyda dros 6,400 oriau ychwanegol o gymorth digidol a ddarparwyd ers mis Ebrill, mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi gweld yn uniongyrchol yr awydd cwmnïau Cymru i addasu.

Dywedodd Howard Thompson, Rheolwr Prosiect Cyflymu Cymru i Fusnesu: “Mae ein cynghorwyr wedi gweithio gyda busnesau i gydgrynhoi'r hyn maen nhw’n ei ddysgu yn ystod gweminarau, gan roi cynllun gweithredu digidol iddyn nhw i lywio’r dyfodol. Dyna pam rydyn ni'n gofyn i fusnesau sydd angen help digidol i gysylltu heddiw.

“Newid yr ystafell ddosbarth am y cwmwl wnaeth achub y busnes”

Mae cwmni tiwtora Educalis yn fusnes o’r fath. Gyda help Cyflymu Cymru i Fusnesau, daeth y cwmni Caerphilly yn ôl ar ei draed i lefelau incwm cyn-covid, trwy symud gwersi ar-lein yn ystod y cyfnod clo.

Emma Blewden of Educalis.

 

Dywedodd y perchennog, Emma Blewden: “Dangosodd ein cynghorydd i ni sut i ddefnyddio G Suite fel y gallem gynllunio a rhedeg gwersi ar-lein yn hawdd, yn ogystal â gwneud copïau wrth gefn o ffeiliau a recordio sesiynau.

“Mae’r adborth ar gyfer dysgu ar-lein wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac rydym yn gwybod pe na baem wedi newid i ddigidol, byddem wedi colli ein holl refeniw. “Rydyn ni mor ddiolchgar o'r gefnogaeth, does dim amheuaeth mae wedi bod ein gras cadwedigol!”

“Gwnaethom gyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol i’r GIG”

Mae digidol yn darparu ystwythder i gwmni rheoli'r gadwyn gyflenwi, Freight Logistics Solutions (FLS).

Fe gynyddodd o 6-8 fan yr wythnos i 8-10 y diwrnod i wneud 3,600 o ddosbarthiadau o dros 1000 llinellau o Gyfarpar Diogelu Personol i’r GIG erbyn diwedd mis Mehefin. Ac roedd hynny oherwydd sylfeini digidol a osodwyd 18 mis ynghynt, yn dilyn cyngor Cyflymu Cymru i Fusnesau, a’i galluogodd i ymateb yn gyflym i ateb y galw enfawr gan y sector gofal iechyd am gludo nwyddau.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Ieuan Rosser: “Fe wnaethom ni fuddsoddi yn drwm mewn pyrth deallus olrhain cludo ac archebu cleientiaid, a newid i fand eang cyflym iawn, gweinydd y cwmwl ac ategu, a system ffôn digidol.

“Felly, pan anfonwyd staff adref i weithio yn ystod cyfnod clo, roeddent yn gweithio hyd ei eithaf o fewn yr awr ac yn dyrannu gyrwyr a cherbydau i wasanaethu’r GIG ar ei adeg hanfodol o angen. Mae digidol yn rhoi mantais gystadleuol inni.”

I gael cymorth digidol am ddim i’ch busnes, cysylltwch â Cyflymu Cymru i Fusnesau heddiw.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen