Yr Grŵp Cynghori

Mae’r Grŵp Cynghori’n helpu Llywodraeth Cymru i lunio’r rhaglen gymorth mae’n ei darparu i’ch helpu chi i wneud y gorau o fand eang cyflym iawn. Gan weithredu fel cyfaill beirniadol, mae’r grŵp yn manteisio ar brofiad helaeth yn y diwydiant i arwain Cyflymu Cymru i Fusnesau ac i’n dwyn i gyfrif am sicrhau gwerth gwirioneddol.

Mae hyn yn golygu eich helpu chi i fabwysiadu ac i fanteisio ar dechnoleg ar-lein fel y gallwn, gyda’n gilydd, gynyddu elw cwmnïau Cymreig a swyddi i bobl Cymru.