Christian Coates

Christian Coates

Fel Rheolwr Gyfarwyddwr Method4, mae Christian a’i dîm o 50 yn cynnig gwasanaeth trawsnewid digidol a mudo i’r Cwmwl ar gyfer systemau busnes cymhleth. Ers cwblhau datblygiad eiddo masnachol yng nghanol Caerdydd, mae Christian yn darparu ffibr i’r adeilad a chysylltedd hyd at 1Gb i’w denantiaid a mynediad i’r Cardiff IX drwy aelodaeth Method4.

Fel aelod o’r Grŵp mae Christian yn defnyddio’i wybodaeth a’i brofiad o weithio â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol i gynghori Cyflymu Cymru i Fusnesau ar y ffordd orau i helpu busnesau. Mae’n hybu’r agenda arweinyddiaeth meddwl ac mae’n credu y bydd busnesau Cymru’n elwa drwy fabwysiadu seilwaith digidol i fod yn fwy effeithlon, i fanteisio ar farchnadoedd newydd, i weithredu’n rhyngwladol ac i ddiogelu rhag troseddau seibr