Jean Church

Jean Church

Jean Church yw Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD), Cymru. Mae’n hyderus y bydd busnesau Cymreig sy’n manteisio ar ddatblygiadau technolegol yn fwy llwyddiannus ac y byddant yn cael effaith bositif ar economi’r wlad. Os am gyflawni hyn, mae angen i ddealltwriaeth am y pwnc ymledu o’r Bwrdd i bob rhan o’u busnes.

Yn y gorffennol, mae Jean wedi llenwi uwch rolau ac wedi bod yn aelod o fyrddau cwmnïau gan gynnwys Countrywide, n-ergy, Tesco, Woolworths, a Co-operative Retail Services. Mae’n ymfalchïo yn y cyfle i gynrychioli Sefydliad y Cyfarwyddwyr fel Cadeirydd ac mae wedi derbyn cyfrifoldeb am hyrwyddo proffesiynoldeb mewn busnes, rhoi pwyslais ar gyfarwyddwyr gwell, busnesau gwell, economi well a gwasanaethau gwell.

 

 

Inspiring Business Wales logo