Jemma Waters

Jemma Waters

Gan ddefnyddio dadansoddi data a dulliau ymchwil cymysg, mae Jemma’n cynnig dealltwriaeth a strategaethau sy’n seiliedig ar ddata i bartneriaid ledled y DU gan gynnwys elusennau, diwydiant a llywodraeth. Mae hefyd yn arwain ymgysylltiad allanol ar gyfer yr isadran Trawsnewid Grŵp drwy adrodd stori Cynhwysiant Digidol, Trawsnewid Cyfrifol, ac Amrywiaeth yn allanol, i gyd gyda’r nod i Helpu Prydain i Ffynnu.

Mae ei gwybodaeth yn y maes hwn yn galluogi Jemma i ddangos i Grŵp Cynghori Manteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn ar gyfer Busnes sut mae gwelliannau masnachol ac economaidd yn cael eu gyrru gan amgylchiadau sy’n cael eu cymell gan wasanaethau digidol. Mae’n hyderus y bydd BBaChau Cymru’n ffynnu os byddant yn gwella eu sgiliau digidol ac yn deall y ffordd orau o ddefnyddio band eang i hybu sefydlogrwydd, twf a chynhyrchiant.